Opioidau synthetig newydd pwerus a nodwyd gan raglen profi cyffuriau Cymru yn datgelu marchnad gyffuriau anghyfreithlon sy’n fwyfwy anrhagweladwy
Cyhoeddwyd ar: 25 Awst 2026
ae arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod y farchnad gyffuriau anghyfreithlon yn dod yn fwyfwy cymhleth ac anrhagweladwy. Mae mwy nag un o bob tri sampl a gyflwynir i’w Gwasanaeth Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS) yn cynnwys sylweddau heblaw’r hyn a ddisgwyliwyd gan y prynwr.
Mae adroddiad blynyddol WEDINOS a gyhoeddwyd heddiw, sy’n cwmpasu’r flwyddyn rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, yn dangos nad oedd 36.6 y cant o samplau cymunedol a oedd â bwriad prynu hysbys yn cynnwys y sylwedd disgwyliedig.
Am y tro cyntaf, mae’r rhaglen wedi nodi opioidau synthetig cryfder uchel sy’n dod i’r amlwg o’r enw analogau orffin. Canfuwyd yr analogau orffin hyn hefyd, ynghyd â thawelyddion milfeddygol, mewn samplau a gyflwynwyd fel heroin.
Mae’r rhaglen hefyd yn parhau i weld nitasenau, bensodiasepinau newydd sy’n cael eu gwerthu fel diazepam, a chanabinoidau synthetig mewn cynhyrchion a werthir fel THC, CBD neu fêps canabis yn cylchredeg. Mae pob un o’r rhain yn codi pryderon ynghylch effeithiau niweidiol a hyd yn oed gorddos posibl.
Mae presenoldeb parhaus opioidau synthetig cryfder uchel yn y farchnad gyffuriau yn bryder arbennig o ystyried y risg uwch o orddos damweiniol maen nhw’n ei beri i bobl sy’n defnyddio cyffuriau. Er bod nitasenau wedi bod yn bryder ymhlith gweithwyr iechyd a gwasanaethau cyffuriau am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae adroddiad WEDINOS yn tynnu sylw at bresenoldeb analogau orffin fel pryder cynyddol o fewn marchnad gyffuriau anghyfreithlon y DU.
Yn fwy cyffredinol, mae’r adroddiad yn dangos mai bensodiasepinau oedd y grŵp mwyaf cyffredin o sylweddau a anfonwyd i raglen profi cyffuriau WEDINOS o hyd, a diazepam sydd â’r nifer fwyaf o samplau. Mewn llawer o achosion, prynwyd y cynhyrchion hyn o fferyllfeydd ar-lein ac maent yn edrych yn union yr un fath â chynhyrchion a gafwyd o siopau cyfreithlon ond nid ydynt yn cynnwys yr hyn a hysbysebir.
Mae WEDINOS yn annog pobl i ddefnyddio dim ond meddyginiaethau a geir gan eu meddyg teulu ac a roddir gan feddyg neu fferyllydd ar y stryd fawr.
Mae cynhyrchion fêps anghyfreithlon yn faes pryder arall. Roedd 43 y cant o gynhyrchion fêps THC, CBD neu ganabinoid a gyflwynwyd i WEDINOS yn cynnwys gweithydd derbynnydd canabinoid synthetig (SCRAs, a elwir weithiau’n ‘Spice’) – gan ddangos lefel sylweddol o amnewidiadau yn y farchnad hon. Mae SCRAs a ddefnyddir mewn fêps yn fwy tebygol o gynhyrchu sgil-effeithiau cyflym a chryf iawn gan gynnwys gorbryder a phanig difrifol, seicosis, rhithwelediadau a ffitiau.
Dywedodd Rick Lines, Pennaeth y Rhaglen ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein gwaith yn WEDINOS dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos unwaith eto pa mor anwadal yw’r marchnadoedd cyffuriau anghyfreithlon, a’r lefel uchel o amnewidiadau o fewn y farchnad a all gynyddu’r risg o sgil-effeithiau a gorddos damweiniol. Yn benodol, y cynnydd mewn canfod analogau orffin cryfder uchel – rhai ohonynt heb eu gweld erioed o’r blaen gan WEDINOS – yn parhau i dynnu sylw at bryderon ynghylch presenoldeb opiadau synthetig cryfder uchel ym marchnad gyffuriau’r DU.
“Mae’r gwaith lleihau niwed i iechyd y cyhoedd y mae WEDINOS yn rhan ohono, ochr yn ochr â phartneriaid o bob cwr o Gymru a’r DU ehangach, yn hanfodol bwysig er mwyn galluogi gwell dealltwriaeth o fygythiadau sy’n dod i’r amlwg ac i leihau’r risg o orddos damweiniol.”
Gall y rhai sy’n chwilio am gymorth gyda phryderon sy’n ymwneud â chyffuriau neu alcohol gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar y Rhadffôn 0808 808 2234, drwy anfon neges destun at DAN i: 81066, neu drwy ymweld â dan247.org.uk.