Nod strategaeth newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yw cael gwared ar rwystrau i sgrinio a lleihau annhegwch iechyd
Cyhoeddwyd ar: 18 Awst 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ei Strategaeth tegwch sgrinio newydd ar gyfer 2026 i 2031, sy’n nodi cynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod pawb yng Nghymru sy’n gymwys i gael eu sgrinio yn cael cyfle teg i gymryd rhan, waeth beth fo’u hamgylchiadau.
Mae’r strategaeth yn cydnabod, er bod rhaglenni sgrinio yn achub bywydau trwy ganfod clefydau’n gynnar, nad yw pawb yn cael yr un cyfle i’w cyrchu a chael budd ohonynt. Mae rhai pobl yn wynebu rhwystrau sy’n ei gwneud hi’n anoddach mynd i apwyntiadau, deall gwybodaeth, neu ymwneud â gwasanaethau sgrinio. Gall y rhwystrau hyn beri i lai o bobl gael eu sgrinio, a hynny ymhlith yr union gymunedau sydd yn aml mewn mwy o berygl o brofi iechyd gwael.
Yn hytrach na chynnig yr un dull i bawb, mae’r strategaeth yn ymrwymo i gael gwared ar rwystrau a darparu cymorth ychwanegol lle mae ei angen. Mae hyn yn helpu i sicrhau mynediad a chanlyniadau mwy cyfartal ledled Cymru.
Mae’r strategaeth yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed trwy’r Strategaeth Tegwch Sgrinio flaenorol ac fe’i datblygwyd gyda mewnbwn gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau sgrinio, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, Byrddau Iechyd Lleol a sefydliadau cymunedol a gwirfoddol. Mae’n nodi sut y bydd partneriaid yn cydweithio dros y pum mlynedd nesaf i leihau anghydraddoldebau a gwella cyfranogiad ar draws yr holl raglenni sgrinio cenedlaethol.
Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar bum maes â blaenoriaeth, sef:
- Datblygu a rhannu gwybodaeth hygyrch
- Cydweithio â chymunedau a phartneriaid
- Gwneud gwasanaethau sgrinio yn haws eu defnyddio
- Cefnogi dysgu, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu
- Gwella data, monitro a gwerthuso
Mae’r camau gweithredu’n cynnwys cynhyrchu gwybodaeth gliriach mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch, gwella cyfathrebu i ddiwallu anghenion iaith a hygyrchedd pobl, cyflwyno opsiynau apwyntiadau mwy hyblyg, datblygu gwasanaethau digidol, a defnyddio nodiadau atgoffa a chymorth wedi’i dargedu i helpu pobl i gwblhau eu taith sgrinio.
Mae’r strategaeth hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio’n agos gyda gofal sylfaenol, Byrddau Iechyd Lleol, sefydliadau cymunedol a grwpiau gwirfoddol i feithrin ymddiriedaeth, gwella ymwybyddiaeth a deall yn well anghenion cymunedau lle mae nifer is o bobl yn cael eu sgrinio.
Ochr yn ochr â gwelliannau i wasanaethau, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cryfhau’r defnydd o ddata i nodi’n well y poblogaethau sydd heb eu sgrinio’n ddigonol, monitro cynnydd a gwerthuso pa ymyriadau sydd fwyaf effeithiol wrth leihau anghydraddoldebau.
Dywedodd Bethan Bowden, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdur y strategaeth:
“Mae rhaglenni sgrinio yn chwarae rhan hanfodol wrth atal afiechyd a chanfod clefydau’n gynnar, ond rydym yn gwybod nad yw pawb yn cael yr un cyfle i gael budd ohonynt. Mae’r strategaeth hon yn cydnabod na chyflawnir tegwch trwy drin pawb yr un fath. Fe’i cyflawnir trwy ddeall y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu a darparu’r gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i wneud dewis ar sail gwybodaeth am sgrinio.
“Trwy weithio ochr yn ochr â’n partneriaid, cymunedau a’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, gallwn gael gwared ar rwystrau, gwella mynediad a helpu i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle teg i gael budd o sgrinio.”
Mae’r strategaeth yn cydnabod y bydd lleihau annhegwch yn gofyn am ymdrech barhaus y tu hwnt i oes y rhaglen pum mlynedd hon. Bydd Cynllun Gweithredu Tegwch pwrpasol ar gyfer y Gyfadran Sgrinio yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r rhaglen, gan nodi camau gweithredu ymarferol, cyfrifoldebau ac amserlenni i droi’r strategaeth yn welliannau ystyrlon i bobl ledled Cymru.
Mae strategaeth tegwch sgrinio 2026 i 2031, dileu rhwystrau: cau’r bwlch yn cefnogi gweledigaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru o greu Cymru lle mae pawb yn cael cyfle teg i fyw’n dda a byw’n hirach mewn iechyd da.