Neidio i'r cynnwys

Bydd cymryd camau gweithredu ar anghydraddoldebau rhywedd yng Nghymru yn cael effeithiau cadarnhaol ar dlodi a thegwch iechyd

Cyhoeddwyd ar: 12 Awst 2026

Mae tlodi plant ac anghydraddoldebau iechyd wedi bod yn rhan annatod o Gymru ers cenedlaethau, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 1 o bob 3 o blant dan bedair oed yn byw mewn tlodi, ac mae cyfraddau disgwyliad oes iach yn gostwng i ddynion a menywod. 

Nawr mae adroddiad newydd, a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oddi wrth Brifysgol John Moore, Lerpwl, yn dangos y dylanwad sydd gan rywedd o ran sut mae adnoddau, risgiau a chyfleoedd yn cael eu dosbarthu dros gwrs bywyd, ac yn cael effaith fel ysgogydd strwythurol tlodi ac anghydraddoldebau iechyd. 

Mae’r adroddiad, Pam Mae Rhywedd yn Bwysig: Tlodi Plant ac Anghydraddoldebau Iechyd, yn archwilio effaith y ffordd mae anghydraddoldeb rhywedd yn cyfrannu at dlodi plant ac iechyd gwaeth drwy gydol oes.  Mae’n dangos bod cydraddoldeb rhywedd ar draws pŵer, incwm a chyfleoedd yn cael effaith uniongyrchol ar safonau byw plant, gan fod menywod yn aml yn ysgwyddo straen ariannol o fewn aelwydydd. 

Mae’r adroddiad yn dangos sut mae anghydraddoldebau rhywedd yn gwaethygu ar draws cwrs bywyd, gan ddechrau gydag effaith dod yn rhiant.  Mae’r canlyniadau economaidd i fenywod o gael plant yn newid ar draws cwrs bywyd, megis costau gofal plant, cefnogaeth gyfyngedig gan y wladwriaeth yn y blynyddoedd cynnar, a defnydd anghyfartal o absenoldeb rhiant, a elwir yn ‘gosb mamolaeth’.  I’r gwrthwyneb, mae canlyniadau economaidd dynion yn tueddu i gael eu gwarchod oddi wrth fod yn dad. Hefyd yn y byd gwaith, mae menywod wedi’u gorgynrychioli mewn rolau rhan-amser, sydd â chyflog isel ac sy’n ansicr. Yn ddiweddarach mewn bywyd, mae bylchau rhywedd o ran cynilion, cyfoeth a phensiynau yn gwaethygu, sy’n effeithio ar ddiogelwch ariannol hirdymor menywod. 

Yn ogystal, mae menywod yn ymgymryd â chyfran anghymesur o waith gofalu di-dâl, boed hyn ar gyfer y blynyddoedd cynnar neu wrth ofalu am rieni hŷn. 

Mae’r risg o dlodi hefyd yn cynyddu pan fo rhywedd yn croestorri ag anghydraddoldebau eraill, megis maint teuluoedd, anabledd, ethnigrwydd ac aelwydydd sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw.  Er bod gwaith yn draddodiadol wedi cael ei ystyried yn rhywbeth sy’n amddiffyn teuluoedd rhag tlodi, mae cyfran y cartrefi sy’n gweithio ac sydd mewn tlodi wedi bod yn cynyddu’n gyson dros fwy na degawd. 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at feysydd lle byddai camau a gymerwyd i leihau anghydraddoldebau rhywedd yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ehangach ar draws cymdeithas.  Mae buddsoddi yn yr economi gofal drwy gydol oes, gan gynnwys mewn darpariaeth gofal plant a’r blynyddoedd cynnar, yn ganolog i leihau anghydraddoldebau rhywedd.  Fodd bynnag, mae bylchau mewn gofal plant fforddiadwy, hyblyg a hygyrch yn parhau i gyfyngu ar allu menywod i ymuno â’r farchnad lafur a symud ymlaen ynddi.  Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod angen buddsoddiad parhaus mewn gofal plant o ansawdd uchel ochr yn ochr â gwaith teg a diogel ac absenoldeb rhiant digonol.   

Dywedodd Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn gwybod bod llesiant ariannol yn arwain at iechyd gwell ac economi ffyniannus, a bod gwaith diogel sydd wedi’i wobrwyo’n deg ac sy’n talu cyflog byw yn dda i’n hiechyd.  

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir yr angen am gamau cydgysylltiedig, ar draws y system, ar anghydraddoldebau rhywedd er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd mewn cymunedau ledled Cymru, drwy ddarparu gofal plant, gofal cymdeithasol a chymorth teuluol fforddiadwy o ansawdd da. 

“Mae diogelwch economaidd menywod yn golygu cyflogaeth ddiogel â chyflog teg mewn rolau ar draws y gweithlu, nid yn unig mewn sectorau sy’n gysylltiedig â chyflog isel a gwaith ansicr. 

“Er y gall penderfyniadau polisi ddylanwadu ar normau gofalu, mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei adlewyrchu a’i alinio o fewn arferion gweithle a disgwyliadau diwylliannol ehangach gan y bydd hyn yn sicrhau effaith barhaus. 

“Drwy ddefnyddio lens rhywedd i edrych ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, mae’r adroddiad hwn yn dangos y bydd cymryd camau i leihau anghydraddoldebau rhywedd yn dod â budd pendant o ran gwella llesiant teuluoedd ledled y wlad.”