Neidio i'r cynnwys

Lansio pecyn cymorth newydd ar gyfer Cymru gyfan i helpu cyflogwyr i gefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle 

Cyhoeddwyd ar: 05 Awst 2026

Yn sgil cydweithrediad mawr rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyflogwyr, lansiwyd pecyn cymorth newydd ar gyfer Cymru gyfan i helpu cyflogwyr i greu amgylcheddau yn y gweithle sy’n cefnogi mamau i barhau i fwydo ar y fron pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth. 

Datblygwyd Pecyn Cymorth Bwydo ar y Fron yn y Gweithle i Reolwyr Llinell ledled Cymru mewn ymateb i angen a nodwyd gan Fforwm Partneriaeth Cymru.  Roedd yn dilyn ystyried tystiolaeth a oedd yn tynnu sylw at yr heriau y mae llawer o famau yn eu hwynebu wrth barhau i fwydo ar y fron pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith. A hwythau’n cydnabod yr angen am ddull ymarferol a chyson ledled Cymru, bu partneriaid o gyflogwyr, undebau llafur, Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r GIG yn cydweithio i ddatblygu’r pecyn cymorth. 

Mae’r pecyn cymorth wedi’i gyhoeddi gan Cymru Iach ar Waith i gyd-fynd ag Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd, ac mae wedi’i ddatblygu ar y cyd â phartneriaid gan gynnwys sefydliadau’r GIG, undebau llafur a’r trydydd sector. Mae’n darparu canllawiau ymarferol y gall cyflogwyr a rheolwyr llinell eu defnyddio ar unwaith i gefnogi gweithwyr sy’n bwydo ar y fron yn y gweithle. Mae’n cynnwys gwybodaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol cyflogwyr, canllawiau ar gyfleusterau priodol ar gyfer tynnu a storio llaeth, a Siarter Bwydo ar y Fron y gall sefydliadau ei mabwysiadu i ddangos eu hymrwymiad i gefnogi staff. 

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bwydo ar y fron yn unig am chwe mis cyntaf bywyd, a pharhau i fwydo ar y fron ochr yn ochr â bwydydd cyflenwol am ddwy flynedd a thu hwnt. Fodd bynnag, amlygodd tystiolaeth a rannwyd gyda Fforwm Partneriaeth Cymru y gall menywod wynebu amrywiaeth eang o rwystrau canfyddedig a gwirioneddol i barhau i fwydo ar y fron pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith. 

Mae datblygiad y pecyn cymorth yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir ledled Cymru i greu diwylliannau ac amgylcheddau yn y gweithle sy’n amddiffyn bwydo ar y fron ac yn ei hyrwyddo. Mae’n cydnabod nad yw cefnogi bwydo ar y fron yn fater personol neu deuluol yn unig, ond yn un sy’n gofyn am amgylcheddau cefnogol ar draws cymdeithas, gan gynnwys o fewn gweithleoedd. 

Mae cefnogi gweithwyr i barhau i fwydo ar y fron o fudd i deuluoedd a chyflogwyr. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall gweithleoedd sy’n croesawu bwydo ar y fron wella eu cyfraddau cadw staff, lleihau costau recriwtio a chynefino staff, a bod modd iddynt gyfrannu at lefelau is o absenoldeb oherwydd salwch trwy gynnal iechyd a llesiant mamau a babanod. 

Dywedodd Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r pecyn cymorth hwn yn ganlyniad i bartneriaid ledled Cymru yn dod at ei gilydd i ymateb i angen a nodwyd. Cydnabu Fforwm Partneriaeth Cymru y gall menywod wynebu heriau sylweddol wrth barhau i fwydo ar y fron pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith, a gofynnodd am ganllawiau ymarferol y gallai cyflogwyr eu defnyddio.  

“Allbwn y gwaith cydweithredol hwn yw pecyn cymorth ymarferol wedi’i lunio gan y bobl a fydd yn ei ddefnyddio, gan helpu sefydliadau i greu amgylcheddau sy’n cefnogi bwydo ar y fron ac yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod.” 

Mae’r pecyn cymorth i’w gael ar wefan Cymru Iach ar Waith.