Ydych chi’n dechrau yn y gwaith am y tro cyntaf? Darganfyddwch y sgiliau a’r hyder i ffynnu
Cyhoeddwyd ar: 30 Gor 2026
Gall pobl ifanc sy’n dechrau eu swydd gyntaf gael mynediad at ganllaw newydd a sesiynau gweithdy gan Cymru Iach ar Waith erbyn hyn. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i’w helpu i fagu hyder, amddiffyn eu llesiant a datblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y gwaith.
Mae Ffynnu yn y Gwaith, Canllaw i Bobl Ifanc wedi’i ddatblygu ar y cyd â phobl ifanc a chyflogwyr i adlewyrchu’r profiadau a’r heriau go iawn y mae’r rhai sy’n dod i mewn i’r gweithle am y tro cyntaf yn eu hwynebu. Mae’r canllaw yn tynnu ar ymchwil, gweithdai ac arolygon, ac mae’n darparu cyngor ymarferol a pherthnasol sy’n seiliedig ar brofiadau bywyd.
Mae’r gweithdai ‘Ewch Amdani i Ffynnu’, sydd ar gael ar rhad ac am ddim, yn adeiladu ar y cynnwys yn y canllaw. Maen nhw’n cynnig y cyfle i bobl ifanc yng Nghymru gael arweiniad a hyfforddiant ar ddechrau yn y gwaith gan Gynghorwyr Iechyd yn y Gweithle, a hynny mewn sesiwn â chymorth gyda’u cymheiriaid.
Mae’r canllaw a’r gweithdai rhad ac am ddim yn cydnabod bod dechrau gweithio yn garreg filltir gyffrous, ond mae hefyd yn un a all deimlo’n anghyfarwydd ac yn llethol ar yr un pryd. Eu nod yw cefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw wneud y newid o addysg i gyflogaeth, a hynny drwy gynnig cyngor clir ac ymarferol ynghylch y canlynol:
- Datblygu’r sgiliau meddal y bydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle, gan gynnwys cyfathrebu, gwaith tîm a phroffesiynoldeb.
- Deall diwylliant y gweithle a meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda chydweithwyr.
- Gofalu am ddiogelwch seicolegol, iechyd meddwl a llesiant cyffredinol.
- Deall hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle.
- Magu hyder a chynllunio ar gyfer datblygu gyrfa yn y dyfodol.
Mae’r ymchwil a amlygwyd yn y canllaw yn dangos bod tua 60 y cant o bobl ifanc yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n amharod ar gyfer cyflogaeth, ac mae’n tanlinellu’r angen i gael cymorth ymarferol wrth iddyn nhw ymuno â byd gwaith.
Dywedodd Oliver Williams, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac Arweinydd Cymru Iach ar Waith:
“Mae dechrau yn y gwaith yn ddigwyddiad arwyddocaol ym mywyd rhywun, ac er ei fod yn dod â chyfleoedd cyffrous, gall gyflwyno heriau newydd hefyd. Rydym am i’r holl bobl ifanc yng Nghymru deimlo’n hyderus, a theimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi, a’u bod nhw’n barod i ffynnu o’u diwrnod cyntaf un yn y gwaith.
“Mae’r canllaw a’r gweithdy newydd yma yn darparu cyngor ymarferol i helpu pobl ifanc i ddeall disgwyliadau yn y gweithle, gofalu am eu llesiant meddyliol a chorfforol a datblygu’r sgiliau a fydd yn eu helpu i ffynnu drwy gydol eu gyrfaoedd.”
Mae’r canllaw yn rhan o gyfres newydd o adnoddau Cymru Iach ar Waith sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc a chyflogwyr i greu gweithleoedd iachach.
Mae ail ganllaw, Cefnogi Pobl Ifanc yn y Gwaith, wedi’i greu ar gyfer cyflogwyr. Mae’n darparu cyngor ymarferol ar sut y gall sefydliadau gefnogi gweithwyr ifanc, ymgysylltu â nhw a chael y gorau ganddynt, gan eu helpu i greu gweithleoedd lle gall pobl ifanc ddatblygu, ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.
Mae Ffynnu yn y Gwaith, Canllaw i Bobl Ifanc a Cefnogi Pobl Ifanc yn y Gwaith, Canllaw i Gyflogwr ar gael nawr gan Cymru Iach ar Waith. Mae modd archebu lleoedd bellach ar gyfer y gweithdai Ewch Amdani i Ffynnu drwy wefan Cymru Iach ar Waith.