Neidio i'r cynnwys

“Roeddwn i’n teimlo fel mod i wedi cael fy mywyd yn ôl”: claf hepatitis C yng Nghymru yn annog grwpiau sydd mewn perygl o ddal yr haint i gael eu profi, eu trin a’u hiacháu

Cyhoeddwyd ar: 29 Gor 2026

Mae claf hepatitis C yng Nghymru sydd wedi gwella yn annog pobl mewn grwpiau sydd mewn perygl o ddatblygu’r haint i gael eu profi am y feirws, oherwydd y gall achosi niwed i’r afu a chanser yr afu os na chaiff ei drin.  Mae’r driniaeth ar gyfer hepatitis C yn hynod effeithiol: cwrs syml o dabledi dyddiol ydyw, heb fawr o sgil-effeithiau. 

Cafodd Andy Green, sy’n byw yng Nghwmbrân, ddiagnosis o hepatitis C yn wreiddiol yn yr Unol Daleithiau yn y 1990au, ar ôl mynd at ei feddyg oherwydd ei fod yn dioddef o flinder eithafol. Doedd dim modd cael gwybod sut y cafodd hep C, ond dywedodd ei feddyg ar unwaith: “Does dim ots sut gawsoch chi ef, wnewn ni ddelio â’r hyn sydd gennych chi”.   

“Roedd fy niagnosis yn sioc, a dydw i ddim yn gwybod sut y cefais i ef.  Ond doedd sut y cefais i’r afiechyd o ddiddordeb i’r meddyg, felly roeddwn i’n teimlo’n syth nad oedd stigma iddo, ac fe aethon ni ati i ganolbwyntio ar drin y salwch.” 

Symudodd Andy, sy’n gweithio yn GIG Cymru, i Gwmbrân ar ôl priodi â Chymraes. Roedd yn gallu cael mynediad at driniaeth hynod effeithiol ar gyfer hepatitis C trwy’r tîm feirysau a gludir yn y gwaed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.  Mae’n un o gannoedd o gleifion sy’n cael eu trin am hepatitis C yng Nghymru bob blwyddyn.  Ychydig o symptomau neu symptomau cyffredinol iawn sydd gan lawer o bobl; o ganlyniad, ystyrir bod y clefyd yn gyflwr ‘tawel’. 

Mae Andy yn ychwanegu: “Dim ond ychydig wythnosau o gymryd tabled ddyddiol oedd hi. Doedd gen i ddim sgil-effeithiau, ac yna’n sydyn, roedd y feirws wedi diflannu’n llwyr. 

“Roeddwn i’n teimlo fel mod i wedi cael fy mywyd yn ôl – roedd baich wedi mynd oddi ar fy meddwl.  Roedd gen i ofn yng nghefn fy meddwl erioed y gallai fy merch ei ddal gen i ar ddamwain, ac mae’r ofn hwnnw wedi diflannu’n llwyr nawr.” 

Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed. Yn y DU, mae’r risgiau trosglwyddo yn cynnwys rhannu offer defnyddio cyffuriau fel nodwyddau neu bibellau crac, neu gael rhyw heb ddiogelwch gyda rhywun sydd â hepatitis C. Yn ogystal, gall ymweld â safleoedd heb drwydded neu heb eu rheoleiddio ar gyfer tatŵs, tyllu, neu driniaethau harddwch fel botox a llenwyr gyflwyno risg. Mae’r un peth yn wir am gael y triniaethau hyn neu dderbyn triniaeth feddygol a deintyddol dramor, yn enwedig mewn gwledydd heb reoliadau hylendid llym y DU.  

Mae hepatitis C cronig yn gyflwr difrifol a all arwain at ganser yr afu a sirosis yr afu. Gall fod yn heriol ei ddiagnosio, am fod y symptomau — sy’n cynnwys blinder, diffyg archwaeth, cyfog, poen yn y stumog a chlefyd melyn — yn eang eu natur ac yn hawdd eu camddehongli. Felly mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n credu y gallai fod wedi bod mewn perygl yn cael prawf. Mae modd cael prawf mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy wasanaeth Profi a Phostio Iechyd Cyhoeddus Cymru, sef gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n gyfrinachol. 

Dywedodd Dr Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae hepatitis C yn glefyd tawel a all achosi salwch hirdymor, ond gyda phrawf gwaed syml a meddyginiaethau effeithiol, mae’n hawdd ei ddiagnosio ac yn hawdd iawn ei drin.” Yn bendant, dylai unrhyw un sy’n wynebu risg gael prawf trwy wasanaeth Profi a Phostio Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cael eich profi. Cael eich trin. Cael eich iacháu.” 

Mae Andy yn adleisio hyn: “Byddwn i’n cynghori unrhyw un sydd â phryderon i gael prawf. Mae’r driniaeth yn hawdd iawn ei rheoli, ac mae’r iachâd wedi rhoi rhyddid newydd i fi.” 

Mae rhagor o wybodaeth am hepatitis C ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.