Neidio i'r cynnwys

Cyhoeddi argymhellion newydd i gefnogi atal clefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru 

Cyhoeddwyd ar: 16 Gor 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 12 argymhelliad i helpu i leihau clefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru. Mae hyn yn adeiladu ar Y Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd i Gymru a gyhoeddwyd y llynedd: Dull ABCD Plws

Mae’r argymhellion, a ddatblygwyd gyda rhanddeiliaid allweddol, yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a chyflawni, yn ogystal â cheisio helpu partneriaid i wreiddio gwaith i atal clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau ar draws y system iechyd a gofal.

Mae’r argymhellion yn seiliedig ar y dull ‘3C’ (Citizens, Communities and Care)  — Dinasyddion, Cymunedau a Gofal. Mae hyn yn cydnabod y bydd y cynnydd mwyaf yn cael ei wneud pan fydd pobl, cymunedau a gwasanaethau yn cydweithio i atal clefyd cardiofasgwlaidd a lleihau anghydraddoldebau. 

Maent hefyd yn tynnu sylw at yr angen am gamau gweithredu cydgysylltiedig ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, o greu amgylcheddau iachach i gefnogi pobl sydd mewn mwy o berygl. 

Mae’r argymhellion yn cynnwys gweithgareddau sy’n cefnogi pobl i ddeall eu risg a gweithredu, er enghraifft datblygu rhaglen gyfathrebu Unwaith i Gymru a galluogi cymorth lleol ar gyfer ymddygiadau iechyd fel rhoi’r gorau i ysmygu, deiet, gweithgarwch corfforol a lleihau’r defnydd o alcohol.  

Maent hefyd yn cynnwys gweithgareddau sy’n galluogi’r system iechyd a gofal i nodi, trin a chefnogi ffactorau risg ABCD Plws, drwy gamau gweithredu wedi’u targedu i leihau anghydraddoldebau.