Creu gweledigaeth newydd i gryfhau ymchwil iechyd y cyhoedd yng Nghymru
Cyhoeddwyd ar: 15 Gor 2026
Mae gweledigaeth newydd wedi’i chyhoeddi i helpu i adeiladu system ymchwil iechyd y cyhoedd gryfach yng Nghymru. Ei nod yw gwella iechyd y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd a chynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio polisi, cefnogi arloesi a chyfrannu at dwf economaidd.
Wedi’i ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda phartneriaid o bob cwr o gymuned ymchwil iechyd y cyhoedd Cymru, mae Llunio Dyfodol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd yng Nghymru yn nodi uchelgais a rennir i greu system ymchwil gryfach, fwy cysylltiedig a chynaliadwy sydd â llais cenedlaethol cliriach.
Mae’r weledigaeth yn adeiladu ar ganfyddiadau adroddiad Optimeiddio Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd yng Nghymru 2025. Roedd yr adroddiad hwnnw’n cydnabod cryfderau Cymru ond hefyd yn tynnu sylw at heriau gan gynnwys gostyngiad mewn cyllid ar gyfer ymchwil, pwysau ar y gweithlu, gweithgarwch tameidiog a gwelededd cenedlaethol cyfyngedig.
Mae’r weledigaeth newydd yn cydnabod bod cryfderau sylweddol yng Nghymru eisoes. Mae’r rhain yn cynnwys data poblogaeth cysylltiedig o’r radd flaenaf, perthnasoedd gwaith agos rhwng ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr, a chymuned ymchwil gref ar draws prifysgolion, y GIG, gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector.
Mae hefyd yn tynnu sylw at gyfle i Gymru gryfhau ei henw da fel lle gall ymchwil iechyd y cyhoedd o ansawdd uchel sy’n berthnasol i bolisi ddenu buddsoddiad a darparu manteision gwirioneddol i bobl a chymunedau.
Mae’r adroddiad yn nodi nifer o heriau y mae angen mynd i’r afael â nhw. Mae’r rhain yn cynnwys gostyngiad mewn cyllid, pwysau ar y gweithlu ymchwil, gweithgarwch tameidiog, gwelededd cenedlaethol cyfyngedig a diffyg dull sydd wedi’i gydlynu’n genedlaethol. Er nad yw’r materion hyn yn unigryw i Gymru, mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod angen gweithredu wedi’i gydlynu i amddiffyn a chryfhau ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd a chanolbwyntio ymchwil lle gall gael yr effaith fwyaf.
Mae’r weledigaeth yn nodi pum nod strategol:
- Cryfhau seilwaith ymchwil i gefnogi ymchwil o ansawdd uchel a sicrhau’r effaith fwyaf posibl.
- Datblygu sgiliau ymchwil, arbenigedd technegol a chyfleoedd gyrfa i adeiladu gweithlu gwydn.
- Creu hunaniaeth genedlaethol gryfach a llais cyffredin ar gyfer ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd yng Nghymru.
- Annog ymchwil agored, gydweithredol a ddatblygir gyda phartneriaid a chymunedau.
- Canolbwyntio ymchwil ar yr heriau iechyd y cyhoedd lle gall ddarparu’r budd mwyaf.
Mae’r weledigaeth yn nodi sut y gallai dull cenedlaethol sydd wedi’i gydlynu’n well ddod â sefydliadau ynghyd gyda blaenoriaethau cyffredin, cryfhau gallu Cymru i sicrhau cyllid ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol, cefnogi gyrfaoedd ymchwil yn y dyfodol, a’i gwneud hi’n haws i ymchwilwyr, llunwyr polisi, ymarferwyr a chymunedau gydweithio.
Dywedodd Iain Bell, Cyfarwyddwr Ymchwil, Data a Digidol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r weledigaeth hon yn gyfle pwysig i droi cryfderau ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd Cymru yn ased cenedlaethol sydd wedi’i gydlynu’n well. Drwy ddod â’n galluoedd data a digidol, ein harbenigedd ymchwil, ein deallusrwydd iechyd y cyhoedd a’n partneriaethau ynghyd, gallwn adeiladu system gryfach a mwy cysylltiedig sy’n cynhyrchu’r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio polisi, gwella iechyd, lleihau anghydraddoldebau a chefnogi gwneud penderfyniadau gwell.
“Mae gan ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd rôl hanfodol i’w chwarae wrth helpu Cymru i ragweld ac ymateb i’r heriau iechyd cymhleth sy’n wynebu ein poblogaeth. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno achos clir dros arweinyddiaeth a rennir, cydweithio cynaliadwy a chydlynu ymarferol fel bod ymchwil yng Nghymru yn fwy gweladwy, yn fwy cystadleuol i gael cyllid, ac yn canolbwyntio ar gyflawni manteision mesuradwy i bobl a chymunedau ledled Cymru.”
Dywedodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru:
“Mae ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd yn hanfodol i ddeall a mynd i’r afael â’r heriau iechyd cymhleth sy’n wynebu ein cymunedau. Mae’n darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio polisi, gwella gwasanaethau a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
“Mae gan Gymru lawer o fanteision sy’n ei gwneud yn amgylchedd deniadol ar gyfer ymchwil, gan gynnwys sefydliadau academaidd cryf, cydweithio agos ar draws sectorau a ffocws clir ar wella canlyniadau i bobl a chymunedau.
“Mae’r weledigaeth hon yn dangos yr hyn y gellid ei gyflawni drwy ddull sydd wedi’i gydlynu ar sail cenedlaethol. Bydd cydweithio parhaus ar draws y llywodraeth, y byd academaidd, y GIG, cyllidwyr a’r gymuned ymchwil ehangach yn allweddol i greu’r amodau sy’n galluogi Ymchwil Iechyd y Cyhoedd Academaidd i ffynnu yng Nghymru.
Datblygwyd y weledigaeth drwy ymgysylltu’n helaeth â phrifysgolion, sefydliadau’r GIG, Llywodraeth Cymru, cyllidwyr ymchwil a’r gymuned iechyd y cyhoedd ehangach. Mae’n nodi cyfeiriad hirdymor ar gyfer cryfhau ymchwil iechyd y cyhoedd academaidd yng Nghymru drwy gydweithio, arweinyddiaeth a rennir a chamau wedi’u cydlynu.
Bwriad yr adroddiad yw cefnogi trafodaethau ar draws y sector a helpu i lunio buddsoddiad a gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol, gan sicrhau y bydd Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i heriau iechyd y cyhoedd presennol a rhai’r dyfodol.