Neidio i'r cynnwys

Anghydraddoldebau eang cyfraddau marwolaeth canser Cymru’n parhau – heb welliant diweddar

Cyhoeddwyd ar: 15 Gor 2026

Mae ystadegau swyddogol newydd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth  Canser Cymru (UGGCC) yn dangos mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru o hyd, a’n gyfrifol am dros chwarter o holl farwolaethau 2025.

Roedd 9,053 o farwolaethau o ganser ym 2025. Er bod nifer blynyddol marwolaethau o ganser wedi bod yn codi’n araf cyn y pandemig, yn bennaf oherwydd heneiddio strwythur y boblogaeth, mae’r ffigurau diweddar yn dangos gostyngiad bach o’i gymharu â lefelau 2024 a chyn y pandemig. Nid yw’n glir eto a fydd y duedd hon yn parhau.

Ond pan ystyrir newidiadau dros amser yn strwythur maint, oedran a rhyw yn ein poblogaeth, mae cyfraddau marwolaethau canser wedi gostwng mewn dynion ond wedi aros yn gymharol sefydlog mewn menywod. Mae effaith hirdymor y pandemig ar farwolaethau canser dal yn ansicr ac mae’n parhau i gael ei monitro a’i hastudio.

Roedd pedwar canser gyda’i gilydd: yr ysgyfaint, coluddyn , prostad, a chanser y fron ymhlith menywod yn cyfrif am dros bedwar o bob deg (44 y cant) o farwolaethau canser yn 2025. Canser yr ysgyfaint yw prif achos marwolaethau o ganser o hyd, gan gyfrif am ddwy o bob deg marwolaeth (20 y cant), a daw canser y coluddyn yr ail achos fwyaf.

Digwyddodd bron i chwech o bob deg (59 y cant) o farwolaethau canser ymhlith pobl 75 oed a hŷn yn 2025. Cynyddodd hyn o bron i 5 o bob 10 (48 y cant) yn 2002, gan adlewyrchu heneiddio strwythur y boblogaeth yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf o farwolaethau o’r pedwar prif fath o ganser yn y grŵp oedran hŷn hwn.

Mae cyfradd marwolaethau canser yn parhau yn uwch o lawer yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o’i chymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, heb fawr ddim o newid yn y bwlch dros amser. Yn 2025, roedd cyfradd marwolaethau canser unwaith a hanner (54 y cant) yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Dywedodd yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr UGGCC: “Mae’n data ac ystadegau diweddaraf  yn dangos mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru o hyd, a’n gyfrifol am dros chwarter yr holl farwolaethau a gofnodwyd yn 2025. Er bod ein hystadegau diweddaraf yn dangos bod nifer y marwolaethau o ganser wedi gostwng ychydig yn 2025 o’i gymharu â thuedd o gynnydd blynyddol ers blynyddoedd lawer, mae’n rhy gynnar i fod yn sicr os taw  newid parhaus yn y patrwm yn dilyn y pandemig fydd hyn.

“Mae pedwar canser sef yr ysgyfaint, coluddyn, prostad, a chanser y fron ymhlith menywod gyda’i gilydd yn parhau  i achosi dros bedwar o bob deg marwolaeth canser, gyda chanser yr ysgyfaint yn parhau i fod y prif achos. Mae’r rhan fwyaf o farwolaethau canser ymhlith pobl 75 oed a hŷn, sy’n adlewyrchu heneiddio yn strwythur y boblogaeth.

“Mae anghydraddoldebau hefyd yn parhau i fod yn eang ac amlwg iawn gan fod cyfradd marwolaethau canser dros un a hanner gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â’r rhai mwyaf breintiedig, a phrin dim gwelliant sy wedi bod yn y bwlch dros amser.

“Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd parhau â gwaith iechyd cyhoeddus ataliol, gwella mynediad cyfartal a theg at diagnosis cynnar a thriniaeth a gofal effeithiol yn ôl yr angen. Rhaid nodi for yr angen yn fwy ymysg yr henoed a’n cynyddu wrth fynd o ardaloedd mwy breintiedig at ardaloedd sy’n gynyddol difreintiedig. Mae hi hefyd mor bwysig cefnogi nifer y bobl sy’n gymwys i ddilyn rhaglenni sgrinio ar gyfer canser y coluddyn, canser ceg y groth, a chanser y fron, ynghyd â rhaglenni brechu atal canser yn erbyn HPV a hepatitis B ymysg grwpiau penodol.  Bydd gwella mynediad at ofal sylfaenol fel meddygfeydd teulu, ac at phrofion diagnostig – gan gynnwys drwy Ganolfannau Diagnostig Cyflym – yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a’u penderfynyddion ehangach yn ein cymdeithas  oll yn hanfodol i leihau baich canser ledled Cymru.“