Canllawiau diweddaraf ar weithgarwch corfforol yn dangos bod symud mwy yn fuddiol i’n hiechyd a’n hirhoedledd
Cyhoeddwyd ar: 10 Gor 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd symud a gweithgarwch corfforol wrth helpu i atal amrywiaeth o gyflyrau a darparu amddiffyniad yn eu herbyn.
Mae’r Prif Swyddogion Meddygol, gan gynnwys Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver, wedi ail-bwysleisio bod hyd yn oed cynnydd bach mewn symud yn fuddiol i iechyd a llesiant, ac mai mynd o beidio â gwneud unrhyw weithgarwch o gwbl i wneud rhywfaint o weithgarwch yw un o’r pethau gorau y gall pobl ei wneud ar gyfer eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Mae’r canllawiau’n argymell bod oedolion yn gwneud o leiaf 150 munud o weithgarwch cymedrol i egnïol bob wythnos er mwyn cael y buddion iechyd gorau posibl, gan gynnwys dwy sesiwn gryfder. Gall y gweithgarwch amrywio o ‘ymarfer corff achlysurol’, fel cerdded, dringo grisiau, garddio, dawnsio neu lanhau, ymhlith pethau eraill, i weithgareddau mwy egnïol fel beicio, rhedeg, heicio neu nofio. Mae enghreifftiau o ymarferion cryfder y gellir eu gwneud yn rhan o fywyd bob dydd yn hawdd yn cynnwys cario bagiau siopa trwm, codi ar eich traed o eistedd i lawr tua 20 gwaith yn olynol, a gwneud gwaith cloddio yn yr ardd.
Dywedodd Dr Paul Pilkington, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd: Mae’r canllawiau diweddar hyn yn cynnwys ymchwil newydd sy’n cryfhau’r dystiolaeth bod hyd yn oed symiau bach o weithgarwch corfforol yn cynnig buddion iechyd sylweddol o gymharu â bod yn anweithgar.
Nid oes angen i weithgarwch corfforol fod yn egnïol, yn drefnus nac yn ddrud bob amser. Gall fod mor syml â dringo’r grisiau yn hytrach na defnyddio’r lifft, mynd oddi ar y bws un stop yn gynharach er mwyn cerdded ychydig yn fwy, neu hyd yn oed gael disgo cegin bach wrth baratoi’r cinio.
Mae manteision gweithgarwch corfforol ar gyfer ein hiechyd corfforol a meddyliol yn helaeth, ac wedi’u cadarnhau gan ymchwil ers degawdau. Er enghraifft, mae cael cryfder a symudedd da wrth i ni heneiddio yn hynod bwysig o ran byw’n hirach ac yn iach ac i atal cwympiadau neu broblemau cyhyrysgerbydol yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae tystiolaeth yn dangos bod symud mwy yn gysylltiedig â gwell cwsg a hwyliau, yn ogystal â gwella cysylltiadau cymdeithasol hanfodol; felly, bydd dod o hyd i rywbeth rydych chi’n ei fwynhau yn ildio manteision niferus. “Does dim terfyn oedran i ddechrau bod yn fwy egnïol a does dim angen unrhyw offer arnoch i’w wneud – bydd hyd yn oed codi tuniau o ffa dro ar ôl tro yn rheolaidd yn rhoi rhywfaint o fudd dros amser. Mae pob munud, a phob symudiad, yn cyfrif.
Drwy symud mwy yn ystod eich diwrnod, byddwch yn buddsoddi yn eich iechyd a’ch llesiant yn y dyfodol. Cofiwch, mae gwneud rhywfaint yn dda, mae gwneud mwy yn well.