Mae ysmygu’n costio £1.56 biliwn i Gymru bob blwyddyn, a chymunedau difreintiedig sy’n dioddef fwyaf
Cyhoeddwyd ar: 07 Gor 2026
Amcangyfrifir bod ysmygu yn costio tua £1.56 biliwn i Gymru bob blwyddyn, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at raddfa’r difrod y mae tybaco yn parhau i’w achosi i iechyd pobl, gwasanaethau cyhoeddus a’r economi ehangach.
I’w roi yn ei gyd-destun, mae cost flynyddol ysmygu yng Nghymru yn fwy na phedair gwaith y gost a adroddwyd o £350 miliwn ar gyfer adeiladu Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân. Mae hyn yn tanlinellu maint y baich y mae ysmygu yn ei roi ar Gymru.
Mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod ysmygu’n costio tua £499 y pen i economi Cymru, sef £622 y pen i oedolion a £4,661 i bob oedolyn sy’n ysmygu.
Mae tua £650 miliwn yn cael ei wario ar drin a chefnogi ysmygwyr sy’n profi salwch ac anabledd hirdymor. Mae hyn yn gyfystyr ag oddeutu 5 y cant o gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Mae’r gost sy’n weddill yn cael ei hachosi’n bennaf gan gynhyrchiant coll (£670 miliwn); mae hyn oherwydd bod salwch sy’n gysylltiedig ag ysmygu yn atal pobl rhag gweithio a chyfrannu at yr economi. Mae’r costau amgylcheddol yn cyrraedd £241 miliwn, gan gynnwys costau tanau, sbwriel a llygredd aer. Mae’r ffigurau hyn yn tanlinellu’r angen brys am fuddsoddiad parhaus mewn gwaith i atal a rheoli tybaco a chefnogaeth i helpu rhagor o bobl i roi’r gorau iddo.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos nad yw tybaco yn gynnyrch arferol i ddefnyddwyr. Mae ysmygu yn parhau i fod yn un o brif achosion salwch a marwolaethau y gellir eu hatal. Mae’r niwed mae’n ei achosi o ran iechyd, y gymdeithas a’r economi yn parhau i roi baich sylweddol ar unigolion, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
Mae’n tynnu sylw at anghydraddoldebau amlwg iawn: mae cyfraddau ysmygu yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn parhau i fod fwy na theirgwaith yn uwch nag yn y cymunedau lleiaf difreintiedig. Amcangyfrifir mai 22.6 y cant yw’r gyfradd ysmygu yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’i chymharu â 6.8 y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Canfu’r adroddiad fod y cwintel mwyaf difreintiedig yn cyfrif am bron traean o’r holl gostau sy’n gysylltiedig ag ysmygu yng Nghymru.
Mae’r canfyddiadau diweddaraf hynny’n atgyfnerthu pwysigrwydd dull llywodraeth gyfan o reoli tybaco, gan gynnwys gweithredu’r Ddeddf Tybaco a Fêps yn llawn. Er bod mesurau ar draws y boblogaeth yn hanfodol, mae baich anghyfartal ysmygu mewn cymunedau difreintiedig yn golygu bod angen cymorth wedi’i dargedu hefyd, er mwyn lleihau ysmygu a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn anghyfreithlon gwerthu tybaco i unrhyw un a aned ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Bydd hyn yn helpu i greu cenhedlaeth ddi-fwg, ac yn rhoi pwerau newydd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i reoleiddio cynhyrchion tybaco a fepio.
Dywedodd Chris Emmerson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd gyda Rhaglen Tybaco, Fêps a Chaethiwed i Nicotin yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gyda’r ffigurau hyn yn datgelu bod 5 y cant o gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol gyfan Cymru yn cael ei wario ar drin a chefnogi’r rhai sy’n cael eu niweidio gan ysmygu, nid yw’r angen i Gymru barhau i ganolbwyntio ar y targed uchelgeisiol o sicrhau Cymru ddi-fwg erioed wedi bod yn gliriach.
“Bydd y Ddeddf Tybaco a Fêps yn atal cenhedlaeth gyfan rhag dod yn ddibynnol ar dybaco, ac mae hefyd yn rhoi pwerau newydd i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i reoleiddio tybaco a fêps. Gyda Helpa Fi i Stopio, gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu cenedlaethol GIG Cymru, mae gennym ni gefnogaeth ac offer arbenigol i gefnogi pob ysmygwr ar ei daith rhoi’r gorau i ysmygu.”
Dywedodd Dr Jo Davies, Pennaeth Economeg Iechyd, Dadansoddi Uwch a Modelu Polisi yn Llywodraeth Cymru: “Y tu ôl i’r ffigurau hyn mae teuluoedd yng Nghymru sydd wedi teimlo effaith salwch y gellir ei atal, blynyddoedd coll o fywyd iach a’r gallu i gymryd rhan lawn yn eu cymunedau. Er bod cyfraddau ysmygu’n gostwng, mae’r adroddiad hwn yn amcangyfrif bod ysmygu yn costio tua £1.56 biliwn i Gymru bob blwyddyn.
“Mae’r baich mwyaf yn disgyn ar y cymunedau mwyaf difreintiedig, sy’n tynnu sylw at anghydraddoldebau iechyd sy’n ehangu. Mae rhoi’r gorau i ysmygu yn dod â manteision iechyd uniongyrchol a hirdymor, ac mae tystiolaeth fel hon yn cefnogi camau gweithredu parhaus i helpu’r rhai sydd am roi’r gorau iddo ac atal ysmygu ymhellach.”
Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Keith Reid: “Mae ysmygu yn dal i fod yn un o brif achosion salwch y gellir ei atal ac sy’n achosi marwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae’n achosi canser, clefyd y galon a salwch anadlol. Mae’n rhoi baich ar ysmygwyr, eu teuluoedd, ac ar ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Gan fod cyfraddau ysmygu ar eu huchaf yn y cymunedau mwyaf difreintiedig, mae ysmygu yn ehangu anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru – ac mae’n taro’r rhai mwyaf difreintiedig galetaf.
“Er bod nifer y bobl sy’n ysmygu yn gostwng, mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Rydym yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu ac i gefnogi rhagor o bobl i roi’r gorau iddo. Bydd hyn yn helpu i gyflawni Cymru ddi-fwg a dyfodol iachach, tecach a llewyrchus i bawb, heb adael neb ar ôl.
“Mae rhoi’r gorau i ysmygu yn dod â manteision iechyd uniongyrchol a hirdymor, ac mae cymorth arbenigol am ddim ar gael trwy Helpa Fi i Stopio y GIG. Os ydych chi’n ystyried rhoi’r gorau i ysmygu, yna cymerwch y cam cyntaf hwnnw a chysylltwch â Helpa Fi i Stopio heddiw.”
Gall unrhyw un sy’n ysmygu yng Nghymru gael mynediad at gymorth arbenigol am ddim drwy Helpa Fi i Stopio, sef gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu cenedlaethol GIG Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth wedi’i deilwra ac mae Helpa Fi i Stopio yn dweud y gall pobl gael mynediad at therapi amnewid nicotin am ddim trwy gysylltu â’r gwasanaeth yn uniongyrchol. Gall ysmygwyr ddechrau eu taith rhoi’r gorau i ysmygu trwy ymweld â Helpa Fi i Stopio (safle allanol), ffonio Rhadffôn 0800 085 2219, neu drwy gael mynediad at gymorth yn eu hardal leol trwy’r gwasanaeth cenedlaethol.