Mae cofrestru ar gyfer Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru 2026 bellach ar agor
Cyhoeddwyd ar: 03 Gor 2026
Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru 2026, a gynhelir ddydd Mawrth 13 Hydref yng Nghlwb Criced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd.
Bydd y digwyddiad undydd wyneb yn wyneb hwn yn dod â thros 400 o gynrychiolwyr ynghyd o bob cwr o Gymru, o’r sectorau cyhoeddus, preifat, academaidd a’r trydydd sector. Mae’r gynhadledd yn gyfle unigryw i rannu dysgu, meithrin cysylltiadau ac archwilio gweithredu ar y cyd i wella canlyniadau iechyd.
Yr hyn i’w ddisgwyl
Bydd y gynhadledd yn cynnwys:
- Cydweithio traws-sector – cyfleoedd i gysylltu â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ledled Cymru
- Ysbrydoliaeth a gweithredu – cipolwg ar ddulliau arloesol ar gyfer dyfodol iachach
- Safbwyntiau amrywiol – cyfraniadau gan ystod eang o siaradwyr a fydd yn mynd i’r afael â materion iechyd y cyhoedd allweddol
Pwy ddylai fynd i’r gynhadledd?
Rydym yn croesawu presenoldeb gan unigolion a sefydliadau sydd:
- Â diddordeb mewn gwella iechyd a llesiant y boblogaeth
- Yn gwerthfawrogi gweithio mewn partneriaeth a chydweithio
- Yn awyddus i gymhwyso dysgu i ymarfer a datblygu polisi
Gwybodaeth am bresenoldeb
Gan fod y digwyddiad yn cael ei ariannu’n gyhoeddus ac yn rhad ac am ddim, rydym am sicrhau y bydd pob lle wedi’i lenwi.
Mae lleoedd yn gyfyngedig,felly rydym yn eich annog i gofrestru’n gynnar i sicrhau eich lle. Os na fyddwch yn gallu bod yn bresennol mwyach, a fyddwch cystal â rhoi gwybod i ni fel y gall rhywun arall gymryd eich lle.