Neidio i'r cynnwys

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor i aros yn ddiogel wrth i rybudd tywydd coch gael ei gyhoeddi 

Cyhoeddwyd ar: 22 Meh 2026

Mae arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn galw ar bobl ledled Cymru i ofalu am ei gilydd, wrth i’r wlad wynebu cyfnod o wres eithafol. Gall salwch sy’n gysylltiedig â gwres effeithio ar unrhyw un, ni waeth beth fo’u hoedran neu eu hiechyd — ond mae’r risgiau mwyaf i bobl hŷn, babanod a phlant ifanc iawn, a all ddirywio’n gyflym mewn tymereddau uchel. 

Mae’n bwysig ceisio aros mor oer â phosibl trwy wneud y canlynol:  

  • Ceisio aros yn y cysgod  
  • Yfed digon o ddŵr drwy gydol y dydd 
  • Cadw adeiladau’n oer drwy gau llenni, bleinds a ffenestri yn ystod y dydd, a’u hagor eto gyda’r nos. 
  • Defnyddio eli haul SPF 30 ac uwch gydag amddiffyniad UVA 4 seren o leiaf 

Ni all babanod a phlant bach reoleiddio tymheredd eu corff yn dda. Osgowch orchuddio pramiau neu fygis â blancedi neu frethyn gan y gall hynny ddal gwres. Defnyddiwch ddillad gwely ysgafn a chadwch ystafelloedd mor oer â phosibl. Weithiau, gall ystafelloedd ar y llawr isaf fod yn oerach na rhai ar y llawr uchaf ar gyfer cysgu. 

Cadwch lygaid allan am arwyddion o orflinder gwres. Os ydych chi neu rywun arall yn teimlo’n sâl yn ystod tywydd poeth, symudwch i le oer, gorffwyswch ac yfwch ddŵr. Os bydd y symptomau’n gwaethygu, gall arwain at drawiad gwres, sy’n argyfwng meddygol. Mae arwyddion gorflinder gwres a thrawiad gwres, a’r hyn y dylid ei wneud, ar gael ar wefan GIG Cymru

Dywedodd yr Athro Sarah Jones, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae angen i ni addasu’r ffordd rydyn ni’n byw yn ystod cyfnodau o wres eithafol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw pawb yn iach. Gallai treulio ychydig funudau yn holi sut mae aelodau o’r teulu, ffrindiau a chymdogion achub bywydau. Gall cnoc ar y drws, galwad ffôn neu neges destun syml wneud gwahaniaeth hollbwysig i rywun sy’n cael trafferth yn y gwres ac sydd efallai ddim yn gallu gofyn am gymorth eu hunain.”  

Pan mae’n boeth iawn, ceisiwch gynllunio eich diwrnod fel eich bod yn osgoi bod allan yn ystod oriau brig yr haul. Ceisiwch wneud ymarfer corff, cerdded y ci neu wneud tasgau dyddiol yn gynnar yn y bore neu’n hwyr min nos. Gwnewch weithgarwch egnïol yn gynnar yn y bore neu arhoswch nes iddi oeri gyda’r nos. Os ydych chi’n mynd allan, ystyriwch wisgo het gantel llydan a dillad llac. 

Efallai y bydd temtasiwn i oeri mewn llynnoedd neu afonydd, ond mae sioc dŵr oer yn berygl gwirioneddol wrth neidio i mewn. Cofiwch fynd i mewn i’r dŵr yn araf er mwyn lleihau’r risg o sioc dŵr oer. Ni ddylech byth nofio mewn cronfa ddŵr. Os byddwch chi’n mynd i drafferthion yn y dŵr, cofiwch y cyngor sy’n achub bywydau: #ArnofioIFyw

Beth i’w wneud os ydych chi’n teimlo’n sâl yn y gwres  

  • Dweud wrth rywun  
  • Symud i ardal oerach 
  • Sipian dŵr oer ac osgoi diodydd llawn siwgr, alcohol, diodydd poeth neu gaffein 
  • Ffonio GIG 111 i gael cyngor neu 999 mewn argyfwng 

 I gael rhagor o gyngor, edrychwch ar ganllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru ar dywydd poeth