Neidio i'r cynnwys

Adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod bylchau mewn tegwch iechyd digidol yn parhau, ond mae dealltwriaeth o sut i fynd i’r afael â nhw yn cynyddu

Cyhoeddwyd ar: 10 Meh 2026

Canfu adolygiad cwmpasu newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop fod anghydraddoldebau mewn seilwaith digidol rhwng rhanbarthau mewn perygl o arwain at fynediad anghyson at arloesedd. Er bod cyfeiriadau cynyddol at degwch yn y llenyddiaeth, mae ei integreiddio i fframweithiau rheoleiddio, gweithredu a gwerthuso yn parhau i fod yn anghyson. 

Mae’r adolygiad, a ddadansoddodd 154 o astudiaethau a gyhoeddwyd rhwng 2015 a 2024, yn tynnu sylw at y ffaith na ellir cyflawni tegwch mewn iechyd digidol drwy gamau gweithredu ynysig a bod rhaid ei gynnwys ym mhob cam o ddatblygu a gweithredu arloesi iechyd digidol.  

Canfu, er bod rheoliadau presennol mewn tiriogaethau fel yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau yn canolbwyntio ar breifatrwydd, diogelwch ac atebolrwydd, nid ydynt yn tueddu i gynnwys grwpiau agored i niwed neu grwpiau a ymyleiddiwyd wrth ddatblygu dulliau ar gyfer arloesi iechyd digidol. 

Yn ogystal, er bod y rhan fwyaf o reoliadau’n canolbwyntio ar leihau rhagfarn o ran rhywedd neu ethnigrwydd, nid ydynt yn tueddu i roi cymaint o bwyslais ar incwm, anabledd, iaith na lleoliad. 

Dywedodd Alisha Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil, Data a Digidol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae gan iechyd digidol y potensial i drawsnewid systemau iechyd a gofal, a gwella canlyniadau i’r boblogaeth, ond dim ond os yw tegwch yn cael ei wreiddio ym mhob cam. Mae ein hadolygiad yn dangos, er bod tegwch yn cael ei gydnabod fwyfwy, bod ei integreiddio mewn fframweithiau rheoleiddio, gweithredu a gwerthuso yn parhau i fod yn anghyson. Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at yr angen am ddull cymdeithasol-dechnegol, gan nad yw arloesi digidol yn gweithredu ar ei ben ei hun. Bydd hefyd angen dull tegwch o’r cychwyn i sicrhau bod iechyd digidol yn lleihau, yn hytrach nag atgyfnerthu, anghydraddoldebau iechyd.