Neidio i'r cynnwys

Adroddiad gwyliadwriaeth ar dywydd oer yn dangos yr effaith ar bobl hŷn a menywod

Cyhoeddwyd ar: 26 Mai 2026

Mae’r adroddiad gwyliadwriaeth blynyddol cyntaf ar effaith tywydd oer ar farwolaethau ac afiachedd yng Nghymru yn dangos bod tua chwech yn fwy o farwolaethau bob dydd ar ddiwrnodau oer, o’i gymharu â diwrnodau nad oeddynt yn oer yn ystod gaeaf 2024-25, a bod pobl 85 oed a hŷn a menywod yn cael eu heffeithio fwy.

Mae’r adroddiad naratif, sydd wedi’i gynllunio i fod yr adroddiad cyntaf sy’n deillio o waith monitro parhaus o effaith tywydd oer ar afiachedd a marwolaethau yng Nghymru, yn dangos amseriadau’r marwolaethau yn unig, ac nid yw’n profi mai’r tywydd oer oedd achos uniongyrchol y marwolaethau.

Roedd y nifer fwyaf o farwolaethau mewn cyfnodau oer ymhlith rhai 85 oed a hŷn, ac ar ôl safoni yn ôl oedran, roedd y gyfradd farwolaeth ddyddiol mewn menywod yn uwch ar ddiwrnodau oer o’i gymharu â diwrnodau nad oeddynt yn oer. Nid oedd gwahaniaeth clir i weld yng nghyfradd marwolaethau dynion.

Nid oedd gaeaf 2024-25 yn anarferol o ran nifer y marwolaethau yn gyffredinol, o’i gymharu â’r blynyddoedd diwethaf. Mae’r adroddiad yn categoreiddio ‘cyfnod oer’ fel cyfnod pan oedd y tymheredd cymedrig yn 2°C neu’n is am o leiaf ddau ddiwrnod yn olynol. Cyrhaeddwyd y trothwy hwn ar 78 diwrnod yn ystod y gaeaf hwnnw.

Dywedodd Dr Behrooz Behbod, Epidemiolegydd Ymgynghorol: “Dyma’r cyntaf yn y gyfres hon o adroddiadau sy’n edrych ar effaith tywydd oer ar iechyd y cyhoedd, yng nghyd-destun newid hinsawdd.

“Er bod gaeaf 2024-25 ychydig yn fwynach na’r llinell sylfaen hinsoddegol a adeiladwyd rhwng 1991 a 2020, mae’n bwysig edrych ar effaith cyfnodau oer ar boblogaethau sy’n fwy agored i niwed.

“Mae’r adroddiad hwn yn fan cychwyn ar gyfer gwaith pellach yn y maes hwn. Fe’i cynlluniwyd i fod yn adroddiad naratif, ac nid yw’n dangos achos ac effaith nac yn cymharu grwpiau â’i gilydd. Nid yw’r adroddiad yn mesur amodau tai, tymereddau dan do, tlodi tanwydd, cartrefi oer nag amlygiad dan do. Yn ogystal, ni chynhwyswyd data ethnigrwydd yn adroddiad eleni, ac rydym yn argymell ei fod yn cael ei ystyried mewn fersiynau yn y dyfodol.”