Mae afiechyd meningococol yn digwydd fel arfer fel llid yr ymennydd neu septisemia (gwenwyn yn y gwaed).
Ar y dudalen
Mae afiechyd meningococol yn digwydd fel rheol fel llid yr ymennydd neu sepsis (gwenwyn yn y gwaed).
Gall llid yr ymennydd effeithio ar unrhyw un, ond mae'n fwyaf cyffredin ymhlith babanod, plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Gall achosi sepsis sy'n bygwth bywyd ac arwain at niwed parhaol i'r ymennydd neu'r nerfau. Mae 12 grŵp hysbys o facteria meningococol (Neisseria meningitidis). Achosir afiechyd meningococol gan sawl grŵp o facteria meningococol, a’r rhai mwyaf cyffredin yw grwpiau A, B, C, W ac Y.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am afiechyd meningococol a’r arwyddion a’r symptomau ar: GIG 111 Cymru - Meningitis (tudalen allanol).
Mae pawb yn wynebu risg o afiechyd meningococol, ond:
Mae brechlyn rhag grŵp meningococol C wedi bod ar gael ers 1999. Cyflwynwyd y brechlyn MenC yn rhan o raglen frechu reolaidd y DU yn 1999 a’r brechlyn MenACWY yn 2015. Mae gostyngiad mawr wedi bod mewn achosion o afiechyd meningococol MenC ac MenW.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechlyn a’r afiechyd mae’n amddiffyn rhagddo yma: GIG 111 Cymru - Brechlyn MenACWY (tudalen allanol).
Mae pobl ifanc 13 i 14 oed (blwyddyn ysgol 9) yn cael cynnig y brechlyn MenACWY fel mater o drefn ochr yn ochr â’r brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 i bobl ifanc yn eu harddegau.
Enwau brand y brechlynnau a ddefnyddir yn y DU yw Menveo (tudalen allanol) neu Nimenrix (tudalen allanol).
Mae’r brechlyn MenACWY yn cael ei roi fel rheol fel pigiad yn rhan uchaf y fraich.
Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin a welir gyda’r brechlyn MenACWY yw:
I gael mwy o wybodaeth am y sgîl-effeithiau, edrychwch ar:
Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (tudalen allanol) ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn MenB neu'r afiechydon y mae'n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
I archebu copïau o’r taflenni, ewch i’r dudalen Adnoddau Gwybodaeth Iechyd.
Mae'n bwysig o hyd gwybod am arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a septisemia (afiechyd meningococol) hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu. Mae hyn oherwydd bod bacteria eraill a all achosi'r afiechydon hyn hefyd, gan gynnwys yr afiechyd meningococol grŵp B (dolen) nad yw'n dod o dan y brechlyn MenACWY.
Elusen blaenllaw yw'r Meningitis Research Foundation flaenllaw yn y DU, Iwerddon ac yn rhyngwladol sy’n dod â phobl ac arbenigedd at ei gilydd i drechu llid yr ymennydd a septisemia.
Elusen llid yr ymennydd genedlaethol yw Meningitis Now wedi'i lleoli yn y Deyrnas Unedig.