Uned Gyfeirio Anerobau’r DU (UKARU)
Mae UKARU yn darparu gwasanaeth adnabod a chyfeirio ymwrthedd gwrthficrobaidd ar gyfer bacteria anaerobig ar gyfer y DU. Mae’n cynnig profion ymwrthedd gwrthficrobaidd (AST) safon gyfeirio trwy wanhau agar a’r dull canfod moleciwlaidd o nodi mecanweithiau ymwrthedd.
Mae UKARU yn gweithredu fel y labordy canolog i Gymru ar gyfer nodweddu meithriniadau a nodweddu llawn o Clostridioides difficile trwy Ddilyniannu Genom Cyfan (WGS). Mae hefyd yn darparu canllawiau clinigol ledled y DU ar gyfer pob haint anaerobig.
Mae cyngor ar agweddau labordy a chlinigol ar facteria anaerobig a heintiau anaerobig ar gael yn ystod oriau swyddfa drwy gysylltu â ni drwy’r rhifau ffôn neu’r cyfeiriadau e-bost isod.
Mae diddordebau ymchwil UKARU yn cynnwys gwerthusiadau masnachol o gynhyrchion AST a dulliau canfod C. difficile. Mae’r uned hefyd yn darparu cefnogaeth lefel gyfeirio ar gyfer cydweithrediadau â’r Pwyllgor Ewropeaidd ar gyfer Profi Rhagdueddiad Gwrthficrobaidd (EUCAST) a’r Sefydliad Safonau Labordai Clinigol (CLSI).
Cysylltwch â ni
UKARU: gwasanaethau craidd (wedi’i achredu i ISO15189)
Ffurflenni atgyfeirio ac amseroedd cwblhau
Canllawiau cyflwyno samplau
Darllenwch yr wybodaeth ganlynol cyn cyflwyno samplau. Noder: gellir gwrthod samplau a dderbynnir gyda ffurflenni cais anghyflawn neu rhai sydd y tu allan i geisiadau safonol, oni bai yr ymgynghorwyd â’r Prif Wyddonydd ymlaen llaw.
Gwefannau defnyddiol yn ymwneud ag anaerobau
Ymchwil a datblygu
Mae UKARU yn cymryd rhan weithredol mewn gwaith ymchwil a datblygu gan gynnwys gwerthuso offer a phecynnau newydd.
Mae gennym brofiad ac arbenigedd helaeth gyda Phrofion Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AST) ar facteria anaerobig. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn astudiaethau sy’n edrych ar brofion disg, stribedi graddiant, paneli microbroth a gwanhau agar.
Fel y labordy cyfeirio ar gyfer C. difficile yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa dda i gynnal gwerthusiadau o brofion diagnostig C. difficile neu AST ac mae gennym fynediad at fanc bio o samplau a dros 3000 o enomau.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gynhyrchion yr hoffech i ni ystyried eu gwerthuso.
Cwestiynau Cyffredin
Cyhoeddiadau
Ffioedd am wasanaethau UKARU
Bydd Uned Gyfeirio Anaerobau’r DU (UKARU) yn dechrau codi tâl am rai o’i gwasanaethau o 1 Ebrill 2025. Mae’r ffioedd hyn sydd wedi’u nodi ar ein gwefan yn dilyn egwyddorion tebyg i’r rhai a ddefnyddir gan labordai cyfeirio UKHSA.
Codir tâl am brofi arunigion sydd wedi’u cynnwys yn y dull trylediad disg a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan EUCAST ‘Dull trylediad disg ar gyfer Profi Rhagdueddiad Gwrthficrobaidd mewn Bacteria Anaerobig sy’n cael eu Harunigo yn Gyffredin’ (eucast: Dull trylediad disg (Saesneg yn unig)), . Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio’r dull hwn ac yr hoffech gael rhagor o arweiniad neu gymorth gan gynnwys prynu offer, cysylltwch â ni trwy anfon neges i’r cyfeiriad e-bost isod.
Ni chodir tâl am brofion sydd â goblygiadau iechyd y cyhoedd a phrofion ar arunigion ar gyfer gwyliadwriaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd. Cysylltwch â ni cyn cyflwyno straeniau os ydych chi’n credu bod eich arunigyn yn bodloni’r meini prawf hyn neu os hoffech drafod amgylchiadau unigol.
Nid yw ein portffolio o brofion a gynigir wedi newid ac rydym yn parhau i groesawu cyflwyno anaerobau i’w hadnabod ac ar gyfer profi am ragdueddiad gwrthficrobaidd.
O 1 Ebrill 2025, rydym hefyd yn gallu cynnig trosglwyddo canlyniadau’n electronig trwy ein porth rhannu ffeiliau diogel. Cysylltwch â ni drwy e-bost os hoffech chi newid o adroddiadau papur i drosglwyddiad electronig.
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn