Neidio i'r prif gynnwy

Profion iechyd rhywiol rheolaidd a manteisio ar frechlyn newydd yn cael eu hannog yn dilyn adroddiad newydd

Cyhoeddwyd: 25 Mehefin 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i beidio â mynd yn ddifater ynglŷn â'u hiechyd rhywiol drwy ymarfer rhyw diogel, cael profion rheolaidd ac i fanteisio ar frechlyn newydd.

Mae cyhoeddi adroddiad blynyddol am dueddiadau rhywiol yng Nghymru yn atgoffa pawb sy'n weithgar yn rhywiol (yn enwedig y rhai sydd â phartneriaid newydd neu nifer o bartneriaid) i ymarfer rhyw diogel. Mae condomau yn parhau i fod yn amddiffyniad hanfodol yn erbyn haint, ac mae profi am Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STI) o leiaf unwaith y flwyddyn yn hanfodol ar gyfer atal a diagnosis cynnar.

Ers ei gyflwyno yn 2020, mae'r gwasanaeth Profi a Phostio yn cyfrif am hanner yr holl brofion STI yng Nghymru. Mae'r pecynnau cyfrinachol hyn yn caniatáu i unigolion gymryd camau rhagweithiol wrth reoli eu hiechyd rhywiol ac atal lledaeniad heintiau trwy brofi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol o breifatrwydd eu cartrefi.  I archebu eich pecyn, ewch i www.shwales.online neu gallwch gasglu pecyn o'ch lleoliad cymunedol lleol.

Bydd brechlyn newydd i dargedu gonoroea yn cael ei gyflwyno gan y GIG ar draws y Deyrnas Unedig ym mis Awst 2025, Bydd hyn yn golygu mai gwledydd y DU yw’r cyntaf yn y byd i gynnig rhaglen o’r fath. Mae'r brechlyn yn cyrraedd ynghanol pryderon ynghylch ymwrthedd i wrthfiotigau.

Mae'r data diweddaraf yn dangos gostyngiad o 40 y cant mewn achosion o gonoroea yng Nghymru y llynedd. Ac eto, mae'r gostyngiad yn dilyn cynnydd o flwyddyn i flwyddyn, ac mae'r haint yn parhau ar lefelau hanesyddol o uchel. Mae gonoroea yn drosglwyddadwy iawn gan nad oes symptomau yn aml, felly mae cymryd y brechlyn newydd a chael profion rheolaidd am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn hanfodol.

Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod achosion o glamydia wedi gostwng 16 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod y STI bacteriol sy'n cael ei ddiagnosio amlaf yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl ifanc 15–24 oed.

Er bod gostyngiad mewn diagnosis o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn ymddangos yn gadarnhaol, gall adlewyrchu newidiadau mewn patrymau profi yn hytrach na gostyngiad gwirioneddol mewn trosglwyddiad. Mae pryderon yn parhau ynghylch y gyfradd uchel o ail-heintiadau a chyd-heintiadau, sy'n dynodi ymddygiadau risg parhaus a than-ddiagnosis.

Dywedodd yr Athro Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn gofyn i bobl aros yn wybodus ac aros yn ddiogel. Defnyddiwch gondomau, profwch yn rheolaidd a chymerwch y brechlyn gonoroea pan fydd ar gael.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth ddiogelu ein hiechyd rhywiol ac iechyd rhywiol ein partneriaid.”