Cyhoeddwyd: 24 Gorfennaf 2025
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori ffermwyr sy'n cynnal digwyddiadau bwydo ŵyn cyhoeddus i osgoi cynnig cyswllt agos ag anifeiliaid, fel dal, cwtsio a chusanu ŵyn. Daw hyn ar ôl edrych ar y dystiolaeth o frigiad o achosion o salwch ymhlith ymwelwyr â ffermydd. Mae'r corff iechyd wedi cyhoeddi papur newydd sy'n dangos bod pobl a oedd â'r lefelau agosach hyn o gysylltiad yn llawer mwy tebygol o fynd yn sâl â Cryptosporidiwm na'r rhai na wnaethant gyffwrdd â'r anifeiliaid.
Mae'r cyngor yn un o ystod o argymhellion a wnaed mewn adroddiad ar frigiad o achosion o crytosporidiwm ymhlith pobl a ymwelodd â fferm yng Nghymru yng ngwanwyn 2024 ar gyfer digwyddiadau bwydo ŵyn. Anogwyd yr ymwelwyr yno i ddal a chofleidio'r ŵyn yn ystod y bwydo. At ei gilydd, aeth dros 200 o bobl yn sâl, ac aeth 18 ohonynt i'r ysbyty. Roedd plant dan ddeg oed bedair gwaith yn fwy tebygol o fynd yn sâl.
Mae argymhellion eraill yr adroddiad, a fydd yn cael ei gyflwyno yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Iau, yn cynnwys darparu cyfleusterau golchi dwylo gwell, sy’n cynnwys basnau gyda dŵr rhedeg poeth ac oer, sebon hylif a thywelion papur. Nid yw diheintydd dwylo na gel alcohol yn effeithiol yn erbyn cryptosporidiwm.
Yn ogystal â hyn, dylai fod arwyddion amlwg yn cynghori pobl i olchi eu dwylo'n rheolaidd tra byddant ar y safle. Dylai ymwelwyr sicrhau bod dillad yn cael eu golchi cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ymweld â'r safle.
Dylai ffermwyr hefyd fod yn ymwybodol o’r canllawiau presennol wrth iddynt gynllunio digwyddiadau fferm agored, a phan fydd yr ymwelwyr yn archebu digwyddiadau, rhoi gwybodaeth iddynt am y risg y gallent ddal haint. Bydd digwyddiad panel yn Sioe Frenhinol Cymru sydd ar ddod ar 24 Gorffennaf yn cyflwyno rhai o'r prif faterion ar gadw digwyddiadau fferm yn ddiogel, ac fe fydd cyfle i ffermwyr ac i’r awdurdodau perthnasol drafod y testun dan sylw.
Mae cryptosporidiwm yn barasit bach iawn, microsgopig sy'n achosi salwch a dolur rhydd. Gall y salwch fod yn ddifrifol ymysg rhai pobl sy’n agored i niwed, gan gynnwys plant ifanc iawn a'r rhai sydd â diffygion imiwnedd penodol. Mae cryptosporidiwm yn gyffredin iawn ymysg da byw ifanc. Caiff ei basio rhwng anifeiliaid a phobl mewn carthion; hyd yn oed mewn symiau anweladwy.
Dywedodd Dr Christopher Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac un o awduron yr adroddiad:
“Rydyn ni’n gwybod bod ffermwyr eisiau cynnal digwyddiadau diogel a phleserus i’r cyhoedd yn gyffredinol a bod digwyddiadau bwydo ŵyn yn fwyfwy poblogaidd, yn enwedig gyda theuluoedd. Fodd bynnag, mae cryptosporidiwm a chlefydau heintus eraill yn lledaenu'n hawdd iawn yn yr amgylcheddau hyn a gallant gael canlyniadau difrifol – yn enwedig ymhlith plant ifanc sydd fwyaf tebygol o fynd yn sâl.
“Mae’n wirioneddol bwysig y gwneir darpariaethau diogelwch effeithiol ar gyfer y digwyddiadau hyn, oherwydd bod cryptosporidiwm yn gyffredin iawn ymysg anifeiliaid ifanc. Mae’r adroddiad hwn yn dangos pan fydd plant ifanc yn dod i gysylltiad agos ag anifeiliaid fel ŵyn – pan fyddant yn cwtsio, yn cusanu neu’n mwytho eu hwynebau – bod risg sylweddol y gallent ddal yr haint, a all achosi salwch difrifol ac arwain at arhosiad yn yr ysbyty.
“Mae’r adroddiad hwn yn argymell bod bwydo ŵyn neu loi yn cael ei oruchwylio a’i wneud gyda’r anifeiliaid wedi’u gwahanu oddi wrth yr ymwelwyr gan eu corlannau. Mae hyn yn golygu y gall pobl barhau i fwydo'r anifeiliaid â photel ond y gallant gael mwy o amddiffyniad rhag salwch.
“Pan fydd ffermwyr sy’n bwriadu cynnal digwyddiadau i ymwelwyr ar eu ffermydd sy’n cynnwys gweithgareddau anifeiliaid, mae hefyd yn hanfodol iddynt ymgyfarwyddo â’r canllawiau presennol ac yn cymryd pob rhagofal posibl i sicrhau bod eu hymwelwyr yn cael profiad diogel – a’u bod am ddychwelyd.
“Mae bod â chyfleusterau golchi dwylo digonol ar y safle yn gwbl hanfodol. Mae angen i sinciau gynnwys dŵr rhedeg poeth ac oer, ynghyd â chyflenwad da o sebon hylif a thywelion papur. Dylai arwyddion o amgylch y digwyddiad sicrhau bod pobl yn cael eu hannog i olchi eu dwylo eu hunain a dwylo eu plant yn dda ac yn rheolaidd drwy gydol eu hymweliad.
“Hefyd, hoffem i'r ffermwyr wneud eu hymwelwyr yn ymwybodol o’r risgiau sy’n gysylltiedig â chael cyswllt agos ag anifeiliaid ifanc, fel bod pobl yn cael eu haddysgu cyn iddynt alw heibio.
“Byddwn yn annog ffermwyr sy’n ystyried agor eu ffermydd ar gyfer y digwyddiadau hyn i ystyried yr holl risgiau, a chynllunio ymlaen llaw yn gynnar er mwyn eu galluogi i wneud yr holl ddarpariaethau angenrheidiol er mwyn cadw eu hymwelwyr yn ddiogel rhag haint.”
Mae'r adroddiad i'w gael yr wefan Gwasg Prifysgol Caergrawnt (Saesneg un unig) , ac mae canllawiau i ffermwyr ar gael ar wefan Visit my Farm.org. (Saesneg yn unig)