Meysydd Ymchwil a Gwerthuso o Ddiddordeb i Iechyd Cyhoeddus Cymru - 2024 - 3.5 Blaenoriaeth 5: Darparu Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus Rhagorol
Mae ICC yn darparu, yn monitro ac yn gwerthuso saith rhaglen sgrinio genedlaethol yn seiliedig ar y boblogaeth ac yn cydlynu rhwydwaith clinigol Cymru gyfan a reolir ar gyfer sgrinio cyn geni.
Mae’r Gwasanaethau Heintiau yn ICC yn ymdrin â phob agwedd ar heintiau a chlefydau heintus gan gynnwys: Clefyd ffyngaidd, Cryptosporidiwm, Ymwrthedd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd, Heintiau anaerobig (e.e. Clostridium difficile (C.diff)), Heintiau anadlol, Diagnosteg Foleciwlaidd, Genomeg, Tocsoplasma a Feirysau a gludir yn y gwaed.
Mae ICC yn ymateb i heriau clefydau trosglwyddadwy yng Nghymru drwy ddarparu gwasanaethau sy’n cynnwys y canlynol; Y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy, Rhaglen Frechu yn Erbyn Clefydau Ataliadwy a gwasanaethau iechyd cyhoeddus amgylcheddol. Nod diogelu iechyd yw dileu problemau iechyd cyhoeddus sylweddol yng Nghymru, gan gynnwys Hepatitis B, Hepatitis C, HIV a Twbercwlosis ac mae’n defnyddio dulliau megis cysylltu cofnodion a modelu clefydau heintus.
Cwestiynau Ymchwil
Gwella Nifer y Bobl sy’n Manteisio ar Wasanaethau Sgrinio a Lleihau Annhegwch yn y Niferoedd
- Pa ganlyniadau sy’n deillio o archwilio dulliau sgrinio arloesol, megis hunan-samplu, o fewn rhaglenni sgrinio serfigol er mwyn lleihau annhegwch?
- Pa ymyriadau wedi’u teilwra y gellir eu datblygu gan ddefnyddio gwyddor ymddygiad i fynd i’r afael yn effeithiol â’r rhai sy’n gyson neu’r rhai nad ydynt yn mynychu mentrau sgrinio er mwyn lleihau annhegwch?
Gwella Sgrinio drwy Ddefnyddio Technoleg Newydd
- Beth yw effeithiau a chanlyniadau ymgorffori deallusrwydd artiffisial mewn prosesau sgrinio’r fron a sgrinio llygaid diabetig?
- Beth yw’r defnydd a’r manteision posibl ar gyfer dulliau genomeg (ee, dilyniannu ar gyfer babanod newydd-anedig, biopsi hylif) wrth ddarparu gwasanaethau sgrinio newydd a rhai sydd ar gael eisoes? Pa dystiolaeth sydd ei hangen i ddechrau symud genomeg o’r labordy ymchwil i wasanaethau sgrinio yng Nghymru?
Sgrinio a Chysylltiadau Genetig
- Sut mae unigolion sydd â rhagdueddiad genetig cydnabyddedig i ganser yn cymryd rhan mewn ymddygiadau sgrinio, a beth yw’r goblygiadau ar annhegwch o ran nodi bod ganddynt ragdueddiad genetig ac effaith ar y nifer sy’n manteisio ar y cynnig sgrinio?
- Beth yw ystyriaethau moesegol, derbynioldeb, a dichonoldeb gweithredu rhaglenni sgrinio’r boblogaeth ar gyfer cyflyrau genetig?
Cwestiynau Enghreifftiol ar gyfer Gwasanaethau Heintiau
- Beth yw’r ymyriadau effeithiol ar gyfer cael gwared ar feirysau a gludir yn y gwaed?
- Pa ffactorau sy’n sbarduno clefydau ffyngaidd a pha rôl y mae meddyginiaethau gwrthffwng yn ei chwarae wrth reoli’r clefydau hyn?
- Beth yw’r llwybrau trosglwyddo tebygol ar gyfer straen yr haint Clostridiwm difficile (C.diff) a welwyd ar ôl COVID-19? A yw’r llwybrau hyn yn gysylltiedig â bwyd, golchi dillad, staff, ambiwlansys, cyfuniad o ffactorau, neu lwybrau cryptig nad ydynt wedi’u canfod eto?
- A ellir sefydlu cydberthynas rhwng gostyngiadau mewn defnydd gwrthficrobaidd a gostyngiadau mewn ymwrthedd penodol?
- Sut y gellir datblygu dulliau profi bwyd yn benodol ar gyfer parasitiaid protosoaidd gastroberfeddol, gan ganolbwyntio ar barasitiaid fel Cryptosporidiwm?
- Sut y gallai dulliau genomig di-feithriniad wella’r gwasanaethau diagnostig a ddarperir mewn meysydd sy’n cynnwys heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a thwbercwlosis (TB)? Sut y gallai dyfodiad dulliau o’r fath greu cyfleoedd i ailwampio’r gwasanaethau presennol?
- Beth yw’r sail ar gyfer y cynnydd a welwyd yng nghyfraddau Gonorea? I ba raddau y mae’r rhain yn gysylltiedig â gwell canfyddiad?
Clefydau Trosglwyddadwy a Pheryglon Amgylcheddol
- Beth yw’r penderfynyddion cymdeithasol allweddol sy’n cyfrannu at gyffredinrwydd a lledaeniad clefydau trosglwyddadwy mewn lleoliadau fel ysgolion, cartrefi gofal a charchardai?
- Beth yw’r rhwystrau sy’n atal mynediad i wasanaethau sgrinio am glefydau heintus a’u trin ac ymgysylltu â nhw ymhlith grwpiau cynhwysiant iechyd (e.e. y rhai sy’n profi digartrefedd, ymfudwyr a ffoaduriaid)?
- Pa mor effeithiol yw dull olrhain cysylltiadau o ran rheoli lledaeniad hepatitis C?
- Beth yw’r effeithiau iechyd sy’n gysylltiedig ag ansawdd aer gwael, a pha mor effeithiol yw ymyriadau, megis gweithredu parthau 20mya, wrth liniaru’r risgiau iechyd hyn?
- Beth yw effeithiau amlochrog y ddeddfwriaeth 20mya sy’n cael ei gweithredu yng Nghymru?
- Sut y mae system gwyliadwriaeth genomig ‘briodol’ yn edrych a pha lefel o ddatrysiad dilyniannu sydd ei angen i ddarparu gwyliadwriaeth effeithiol ar lefel y boblogaeth, ac i roi hyder o ran camau gweithredu iechyd y cyhoedd?
- Sut y gellir cyflwyno dulliau dadansoddi epidemiolegol genomig uwch megis phyloddynameg, i ddefnydd arferol yng Nghymru?
- Lle y mae gwyliadwriaeth dŵr gwastraff yn ffitio fel rhan o system wyliadwriaeth integredig yng Nghymru? Beth yw ei nodweddion unigryw, a sut y mae’r rhain yn ategu rhannau sefydledig o’r system bresennol?
- Sut y gellir defnyddio dŵr gwastraff, profi a data genomig i ddatblygu glasbrint gwell ar gyfer clefydau heintus a gwyliadwriaeth perygl amgylcheddol?
- Sut y mae gollyngiadau elifion yn dylanwadu ar bresenoldeb pathogenau gastroberfeddol mewn dyfroedd hamdden, a beth yw’r gydberthynas ag achosion o glefydau gastroberfeddol?
Gwerthuso Rhaglenni Brechlynnau
- Pa ymyriadau penodol sydd eu hangen i sicrhau gwelliant amlwg yn lefel cyfraddau brechu’r boblogaeth ar gyfer clefydau penodol?
- Beth yw penderfynyddion tan-frechu a pha ymyriadau wedi’u targedu sydd eu hangen er mwyn eu goresgyn?
- Sut y mae agweddau’r cyhoedd tuag at frechiadau a’u gwybodaeth amdanynt yn newid dros amser ac a sut y mae ymwybyddiaeth o frechlynnau yn dylanwadu ar y nifer sy’n manteisio arnynt?
Dulliau Iechyd Cyfunol – Y rhyngweithio rhwng iechyd a llesiant pobl neu newid hinsawdd:
- Pa ymyriadau penodol sy’n hanfodol ar gyfer rheoli pandemigau yn effeithiol sy’n cynnwys elfennau dynol ac anifeiliaid?
- Pa systemau cynhwysfawr sydd eu hangen i wella gwaith monitro clefydau dynol ac anifeiliaid sy’n achosi organebau ledled Cymru a sut y gall y systemau hyn ddarparu parodrwydd ar gyfer pandemig a lliniaru effeithiau newid hinsawdd, yn enwedig o ran clefydau milheintiol? Sut y gellir cynllunio’r systemau hyn i ystyried ffactorau daearyddol, cynhaliwr ffactorau genomig ac anghydraddoldebau iechyd?
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2026