Atal cenhedlu - Atal cenhedlu brys
Gall dulliau atal cenhedlu brys atal beichiogrwydd ar ôl rhyw heb ddiogelwch neu os yw eich dull atal cenhedlu wedi methu – er enghraifft, os yw condom wedi rhwygo neu os ydych wedi anghofio cymryd pilsen.
Mae dau fath:
- Y BILSEN ATAL CENHEDLU BRYS – Levonelle neu ellaOne (a elwir weithiau yn y bilsen bore wedyn). Mae angen i chi gymryd y bilsen atal cenhedlu frys o fewn 72 awr (3 diwrnod) (Levonelle) neu 120 awr (5 diwrnod) (ellaOne) ar ôl cael rhyw heb ddiogelwch er mwyn iddi fod yn effeithiol. Po gynharaf y byddwch yn ei chymryd, y mwyaf effeithiol fydd hi.
- Y IUCD (dyfais fewngrothol, neu’r coil) – Gellir gosod yr IUCD hyd at 120 awr (5 diwrnod) ar ôl cael rhyw heb ddiogelwch, neu hyd at 5 diwrnod ar ôl yr amser cynharaf y gallech fod wedi ofylu, er mwyn iddi fod yn effeithiol.
Mae’r IUCD yn fwy effeithiol na’r bilsen atal cenhedlu er mwyn atal beichiogrwydd – mae llai nag 1% o’r menywod sy’n defnyddio’r IUCD yn beichiogi.
Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am atal cenhedlu brys.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 7fed Hydref 2026