Podlediadau
Lles ariannol yn y gweithle
Mai 2022
Yn y bennod hon mae Geraint Hardy yn siarad â Rhian Hughes a Lawrence Davies o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPs). Bydd gwrandawyr yn dod i ddeall beth yw lles ariannol, sut mae’n effeithio ar iechyd a lles a ble i fynd am gyngor a chymorth. Mae’r podlediad hefyd yn archwilio sut y gall cyflogwyr gael sgyrsiau hyderus a sensitif i gefnogi lles ariannol eu gweithlu.
Trawsgrifiad
Geraint (0:01)
Helo, Geraint Hardy ‘dw i a chroeso i bodlediad Cymru Iach ar Waith sy’n dod i chi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dros y gyfres byddwn yn sgwrsio ag arbenigwyr faterion iechyd a lles yn y gweithle, gan rymuso cyflogwyr gyda’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i helpu i gadw gweithlu Cymru yn iach ac mewn gwaith.
(0:29)
Yn y bennod hon, rydym yn sôn am les ariannol yn y gweithle. Yn ymuno â mi, mae Rhian Hughes a Lawrence Davies o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynnau. Rhian yw Rheolwr Partneriaeth Cymru ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio o fewn yr agenda lles ariannol a chynhwysiant ariannol yng Nghymru. Mae ganddi hefyd brofiad o weithio o fewn y sector iechyd meddwl yng Nghymru yn fwy diweddar hefyd. Mae Lawrence yn Arbenigwr Technegol pensiynau gyda’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau ac mae wedi gweithio yn y diwydiant pensiynau ers 1997. Mae ei brofiad yn cynnwys ymgynghoriaeth a gwaith mewnol gan gynnwys dylunio cynlluniau pensiwn galwedigaethol wedi’u teilwra ar gyfer cyflogwyr
Rhian a Lawrence, croeso mawr i’r ddau ohonoch chi. Lawrence, gei di ymlacio am nawr. Dewn ni ato ti yn y man. Ond Rhian i ddechrau felly o’ch safbwynt chi beth yw’r broblem fwyaf sy’n ymwneud â lles ariannol a’r gweithle ar hyn o bryd?
Rhian (1:27)
Diolch Geraint. Wel da ni’n gwbod mai pryderon ariannol yw’r achos mwyaf o straen i weithwyr ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig a’u bod yn niweidiol i fusnes hefyd. Ma pobl yn mynd â’u pryderon ariannol i’r gwaith, sydd yn effeithio ar eu perfformiad a lefelau absenoldeb salwch. Mae’r pandemig wedi dangos i ni ei bod yn bwysicach nag erioed i sefydliadau gefnogi eu gweithwyr i adeiladu eu lles ariannol. Gwyddom hefyd fod y pandemig wedi golygu heriau sylweddol i lawer o sefydliadau, gan arwain at les ariannol yn llithro i lawr yr ysgol o flaenoriaethau.
Wrth i ni lywio ‘normal newydd’ drwy’r pandemig, gyda dychwelyd yn raddol i’r swyddfa ffisegol a mesurau cymorth y llywodraeth yn lleihau, mae’n amlwg na fu’r achos dros les ariannol yn y gweithle erioed yn fwy cymhellol nac amserol.
Mae ymchwil yn dweud wrthym ni hefyd bod 94% o weithwyr y Deyrnas Unedig yn cyfaddef eu bod yn poeni am arian, ac o’r rhain, mae 77% yn dweud bod pryderon ariannol yn effeithio arnyn nhw yn y gwaith.
Mae 69% o gyflogwyr y DU yn credu bod perfformiad swydd eu gweithwyr yn cael ei effeithio’n negyddol pan fyddant dan bwysau ariannol.
Ac yn ogystal â’r effaith ar unigolion mae hefyd yn cael effaith ehangach, er enghraifft, ar yr economi gydag amcangyfrif o gost £1.56 biliwn yn gysylltiedig ag absenoldeb a phresenoldeb pob blwyddyn oherwydd lles ariannol.
Geraint (3:08)
A lles ariannol yw’r gair, ma’ ‘na lot o son amdano dyna beth ni’n son amdan heddiw Rhian Ond os ‘na diffiniad clir o les ariannol a beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd?
Rhian (3:19)
Wel, yma yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, da ni’n gweld lles ariannol fel gwneud y gorau o’ch arian o ddydd i ddydd, delio â’r annisgwyl, a bod ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach. Felly yn fyr, teimlo’n hyderus ac wedi’ch grymuso.
A pan da ni’n siarad am ddigwyddiadau annisgwyl, gallai hyn fod yn unrhyw beth, o’ch peiriant golchi yn torri lawr, eich car angen gwasanaeth, neu hyd at gael diagnosis o salwch neu afiechyd cronig neu lywio pandemig.
Ac i unrhyw un sy’n poeni am effaith y pandemig ar eu harian, gallant ddefnyddio’r ‘Teclyn Llywio Ariannol’ ar gwefan HelpwrArian (hepwrarian.org.uk), sy’n darparu canllawiau wedi’u teilwra yn seiliedig ar amgylchiadau person ac i ddod o hyd i ffordd ymlaen gyda’u harian.
Geraint (4:12)
A be’ yw y darlun mewn gwirionedd ar hyn o bryd? Beth yw’r darlun cyffredinol o les ariannol ledled y wlad?
Rhian (4:19)
Hyd yn oed cyn COVID-19, roedd heriau sylweddol i les ariannol yng Nghymru ac mae ein hymchwil yn deud wrtho ni, o ran sut mae pobl yn teimlo. Ma 58% o oedolion yng Nghymru yn teimlo bod cadw i fyny â’u biliau a’u hymrwymiadau credyd yn faich. Ac mae 37% o oedolion yng Nghymru yn teimlo bod meddwl am eu sefyllfa ariannol yn gwneud nhw’n bryderus.
Nid yw pobl yn teimlo felly yn syndod pan fyddwn ni’n gwybod bod gan 27% o oedolion yng Nghymru llai na £100 mewn cynilion a buddsoddiadau. Di 42% o oedolion yng Nghymru yn teimlo’n hyderus ynghylch rheoli eu harian a di 53% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru ddim hefo cynllun ar gyfer eu harian ar ôl ymddeol.
Da ni hefyd angen cofio bydd Covid wedi effeithio ar bobl yn wahanol o safbwynt ariannol. Mae’n bosib iawn y bydd rhai pobl wedi gweld eu hunain yn arbed arian drwy Covid, oherwydd costau is wrth deithio i’r gwaith a llai o gostau gofal plant er enghraifft.
Ond bydd rhai pobl wedi cael llai o arian a gallai hyn fod oherwydd bod ar ffyrlo, lleihau oriau neu ddim cyflog uwch am waith shifft er enghraifft. Roedden ni i gyd yn yr un storm ond roedd gennym ni gychod gwahanol iawn.
Efallai bod gennych chi staff yn eich sefydliad a weithiodd drwy Covid, ond da ni’m yn gwbod pa effaith ma Covid wedi’i chael ar eu hamgylchiadau personol. Gallai eu partner fod wedi colli eu swydd, neu efallai eu bod yn rhannu tŷ ac na all eu cyd-letywr dalu’r biliau mwyach a gallent fod yn ei chael hi’n anodd.
Geraint (6:01)
Ie lot o nhw tu allan i’r gweithle ond be’ ini canolbwyntio yn y gweithle ei hun. Beth ydych chi’n credu yw’r ffactorau sy’n cyfrannu fwyaf at les ariannol gwael?
Rhian (6:10)
Yn gyntaf, nid yw lles ariannol da yn ymwneud â faint rydych yn ei ennill. Mae’n ymwneud â theimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth; gwneud y gorau o’ch arian o ddydd i ddydd; gallu delio â’r annisgwyl a bod ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach. Mae arian yn chwarae rhan ym mhopeth da ni’n gneud mewn bywyd ac mae’n debygol bod Covid wedi effeithio ar bobl sydd efallai erioed wedi cael pryderon ariannol o blaen. Efallai y bydd cyflogwyr yn meddwl na ddim eu cyfrifoldeb nhw yw lles ariannol eu gweithwyr neu fod angen iddynt fod yn arbenigwyr ym mhopeth ariannol – ond nid yw hynny’n wir o gwbl! Fel y gwelsom o’r ymchwil a nes i rannu gynt, y gwir amdani yw y byddai staff yn hoffi i’w cyflogwr ddarparu’r wybodaeth a gweithredu fel galluogwyr, hwyluswyr a bod yn negesydd y gellir ymddiried ynddo, ond hefyd yn tynnu ar arbenigedd a chefnogaeth sefydliadau eraill i helpu datblygu rhaglen llesiant ariannol sy’n bodloni anghenion eu gweithwyr. Hefyd, fel gwlad, da ni’m yn dda iawn am siarad am arian. Ma na stigma o ran cael sgwrs am arian. Bob blwyddyn ym mis Tachwedd, da ni’n annog y sgwrs honno drwy ‘Wythnos Siarad Arian’ ac mae’n gyfle blynyddol i annog pobl i ddechrau siarad am arian. Gyda’ch plant, eich partner, eich rhieni neu’ch cydweithwyr. Ac yn anffodus, nid yw bron i ddau o bob pump o rieni a gofalwyr yng Nghymru yn siarad yn agored am arian â’u plant – yn colli cyfle i helpu gyda dealltwriaeth gynnar hanfodol plant ac arian. Chi’n gwybod bod plant yn dysgu sgiliau ariannol erbyn 7 oed, felly di ddim rhy fuan i gychwyn dysgu plant am arian.
Ac er bod Covid-19 yn cael effaith eang ar gyllid pobl, mae’r stigma sy’n gysylltiedig â siarad am arian fel diwylliant yn parhau – mewn ymchwil flaenorol rydym wedi’i wneud, mae 32% yng Nghymru yn aros yn dawel am bryderon ariannol, gyda rhai o’r rhesymau mae nhw’n rhoi yn cynnwys embaras neu ofn cael eu barnu.
Geraint (8:21)
Ie fi’n credo os byddwn i hollol honest Rhian ma pawb yn meddwl ac yn pryderu am arian. Oes ‘na cysylltiad rhwng pryderon ariannol ac iechyd meddwl?
Rhian (8:30)
Mae anawsterau ariannol nid yn unig yn effeithio ar eich lles ariannol, ond gallant hefyd effeithio ar eich lles corfforol a meddyliol hefyd. Mae lles ariannol yr un mor bwysig â lles meddyliol a chorfforol – maen nhw i gyd yn effeithio ar ei gilydd ac mae’n anodd cael un heb y llall. Felly mae’n bwysig edrych ar les yn gyfannol – ac nid dim ond edrych ar les corfforol, meddyliol ac ariannol ar wahân. Ac os ma rhywun di cyrraedd y pwynt lle mae eu pryderon ariannol yn cael effaith wirioneddol ar eu hiechyd meddwl, efallai y bydd angen cymorth arnynt ar gyfer eu materion ariannol, ond hefyd cymorth ar gyfer eu problemau iechyd meddwl. Felly cael cymorth gan MaPS neu HelpwrArian er engrhaifft ar gyfer eu pryderon ariannol a chymorth iechyd meddwl gan eu cyflogwr, fel eu Rhaglen Cymorth i Weithwyr; neu fynd at eu meddyg teulu. Weithiau mae angen y dull cynnil hwnnw o ran cymorth i bobl allu symud ymlaen yn llwyddiannus. Os ydych yn poeni am arian, byddwch yn dod â hyn i’r gweithle, sy’n effeithio ar eich perfformiad yn y gwaith. Soniais i am bresenoldeb yn gynharach a di pryderon ariannol yn diflannu unwaith y bydd y gweithiwr wedi dod i mewn i’r gwaith. Gall pryderon ariannol hefyd fod yn effeithio ar berthnasoedd y gweithiwr gartref; yn eithrio eu hunain o gylchoedd cymdeithasol neu hyd yn oed yn mynd heb hanfodion.
Gall wneud i bobl deimlo’n isel, dan straen neu’n bryderus gan ei gwneud hi’n anodd rheoli arian. Er enghraifft, yn gyffredinol efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd gwneud penderfyniadau o ran cyllidebu neu gwario arian da chi’m hefo ar bethau da chi’m angen ac yna’n difaru yn nes ymlaen. Gallai symptomau salwch meddwl achosi i chi ymddwyn yn fyrbwyll fel gwario llawer o arian i gyd ar yr un pryd a gall hyn waethygu os bydd eich incwm yn gostwng, er enghraifft, os bydd yn rhaid i chi stopio neu gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd eich bod yn anhwylus. Da ni di siarad â chyflogwyr yn y gorffennol sydd wedi cael profiad o weithwyr yn ffonio i mewn yn sâl tua diwedd y mis a pan ma nhw di edrych yn fanylach ar hyn, mae hyn oherwydd fedra nhw ddim fforddio rhoi petrol yn y car i deithio i’r gwaith.
Weithiau gall pryderon ariannol fod yn symptom o les meddyliol gwael; weithiau gall lles meddyliol gwael fod o ganlyniad i bryderon ariannol. Yn ôl yn 2018 ar gyfer wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl dywedodd ein hymchwil fod mwy na 6 o bob 10 ohonom yng Nghymru wedi profi llesiant meddwl gwael o ganlyniad i bryderon am arian. Ac mae dwy ran o dair ohonom wedi bod yn poeni am les meddwl anwyliaid sy’n gysylltiedig â phryderon ariannol.
Hefyd, mae chwech o bob 10 o bobl yng Nghymru wedi profi pryderon am eu hiechyd meddwl neu eu lles eu hunain oherwydd pryderon ariannol ar ryw adeg yn eu bywydau, gyda mwy na chwarter yn dweud eu bod yn dioddef o salwch meddwl ar hyn o bryd oherwydd materion iechyd o ganlyniad i’w sefyllfa ariannol. A roedd hynny yn 2018 cyn Covid a fydd hyna ddim wedi helpu’r sefyllfa.
Geraint (11:57)
Na dim o gwbl Iawn, diddorol iawn fyna, Rhian. Be ewn ni newid ein safbwynt felly a chanolbwyntio are safle y cyflogwr. Beth all cyflogwyr ei wneud i gefnogi eu staff?
Rhian (12:10)
Wel, dyna lle gallwn ni helpu yn Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Fel ddwedais i gynt, does dim angen i gyflogwyr fod yn arbenigwyr ariannol. Gall cyflogwyr siarad hefo ni os ydyn nhw’n pendroni ble i ddechrau neu’n edrych ar wella’r hyn ma nhw’n ei gynnig yn barod. Ma na wahanol ffyrdd i gefnogi eich staff gyda lles ariannol, waeth beth fo maint eich sefydliad a gallwn eich helpu i wneud hynny hefyd. Er enghraifft, os oes gennych rywfaint o gymorth eisoes ar waith i weithwyr o ran llesiant ariannol, a oes rhywbeth arall y gallwch ei wneud? Gallai hyn fod rhywbeth fel cyfeirio at y wybodaeth ddiweddaraf, cynnwys cymorth arweiniad arian a phensiwn yn eich rhaglen sefydlu, anfon cylchlythyr neu e-bost rheolaidd gydag awgrymiadau arbed arian, rhoi cynllun arbedion cyflogres ar waith yn ei le; Neu creu cynllun neu strategaeth llesiant, neu os oes gennych un yn barod, sicrhau eich bod yn cynnwys lles ariannol yno. Cymerwch ran yn Wythnos Siarad am Arian bob blwyddyn, mae hwnna’n peth dda i fod yn rhan o hefyd. A meithrin perthynas â Cymru Iach ar Waith sydd â gwybodaeth ddefnyddiol sy’n canolbwyntio ar gyflogwyr ar eu gwefan ac mae eu tîm nhw yn gallu cyfeirio at MaPS a HelpwrArian hefyd.
Neu, os da chi’m hefo unrhyw beth yn ei le, fel y dywedais i gynt, ta beth yw maint eich sefydliad neu nifer y gweithwyr sydd gennych chi, siaradwch â ni ynglŷn â ble i ddechrau. Gall fod mor syml â gwybod ble i gyfeirio rhywun am help. Ond gall deall beth yw lles ariannol yn y lle cyntaf fod yn allweddol i ddatgloi hyn.
Yma yn MaPS, rydym am adeiladu lles ariannol pobl Cymru a’r DU. A nid yw lles ariannol yn ymwneud â helpu pobl pan fyddant yn mynd i drafferthion ariannol yn unig; sy’n bwysig iawn wrth gwrs ond mae’n ymwneud ag adeiladu gwytnwch ariannol pobl Cymru a’r DU, fel eu bod yn gallu rheoli eu harian o ddydd i ddydd, yn gallu delio ag unrhyw ddigwyddiad annisgwyl ac yn gallu cynllunio ar gyfer eu dyfodol. Felly’n teimlo’n hyderus ac wedi’u grymuso’n ariannol.
Geraint (14:27)
A gyda phwy yn eich barn chi te Rhian mae’r cyfrifoldeb. Y cyflogwr yn unig neu’r gweithiwr hefyd?
Rhian (14:34)
Wel mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb personol i gefnogi ein lles ariannol ein hunain, ond weithiau gall hynny fod yn anodd oherwydd da ni’m yn gwbod lle i ddechrau neu yn ofni cael ein barnu neu cymryd y cam cyntaf. Gall darparu cymorth lles ariannol yn y gweithle helpu staff i helpu eu hunain. Fydda nhw’n gwybod lle i gael gafael ar ganllawiau rhad a diduedd y gallant ymddiried yno i gefnogi ac adeiladu eu gwytnwch ariannol eu hunain.
Gall gweithwyr sydd â llesiant ariannol da hefyd rannu eu profiadau eu hunain â chydweithwyr, sy’n arwain at newid mewn diwylliant o fewn y sefydliad ac yn helpu i gael gwared ar y stigma hwnnw ynghylch siarad am arian. Er enghraifft, efallai bod rhywun wedi dechrau cyllidebu yn defnyddio ein Cynlluniwr Cyllideb ni o HelpwrArian er engraifft neu wedi dechrau cynilo drwy gynllun cynilo’r gyflogres. Ma nhw wedyn wedi llwyddo i gynilo ar gyfer ‘Dolig a heb orfod mynd i ddyled y flwyddyn honno i brynu anrhegion Nadolig.
Fel y dywedais yn gynharach, di hyn ddim i ymwneud â faint rydych chi’n ei ennill. Yn ôl Arolwg Llesiant Ariannol diweddaraf MaPS, o fwy na 10,000 o oedolion yn y Deyrnas Unedig, mae pobl sydd â ‘lles ariannol uchel’ (felly teimlo’n ddiogel a bod ganddynt reolaeth dros eu harian) ymhlith y mwyaf cynnwys mewn cymdeithas. Mewn gwirionedd, roedd pobl â lles ariannol uchel yn fwy bodlon â bywyd na’r rhai mewn cartrefi ag incwm o fwy na £50,000 y flwyddyn; prawf nad yw arian yn unig o reidrwydd yn prynu hapusrwydd i chi.
- Felly ambell o awgrym i helpu chi:
- Dechreuwch gyllideb – edrychwch beth sy’n dod i mewn ac yn mynd allan.
- Ydych chi wedi edrych ar y biliau da chi’n dalu a ffyrdd o gael bargen well?
- Torri’n ôl ar eitemau sy ddim yn hanfodol.
- Neu dechreuwch gynilo – hyd yn oed swm bach iawn! Ydy’ch cyflogwr yn cynnig cynllun cynilo cyflogres lle fedrwch gynilo’n uniongyrchol o’ch cyflog?
- Sbiwch ar eich slip cyflog – a ydych ar y cod treth cywir?
- Edrychwch ar wefan HelpwrArian
- Neu gnewch y rhaglen Soffa i Ffitrwydd Ariannol – rhaglen gam wrth gam rhad ac am ddim gan HelpwrArian, sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i fagu hyder wrth reoli’ch arian. Wedi’i ysbrydoli gan yr ap hyfforddi cam-wrth-gam poblogaidd ‘Couch to 5K’, mae’n hyfforddi pobl trwy weithgareddau wythnosol fel cyllidebu, rheoli biliau a thaliadau, rhwygo costau a chryfhau arbedion. Cymerwch gamau bach ar eich cyflymder eich hun i hybu eu hyder ariannol. Ac i gyd heb symud o’r gadair!
Os ydych yn cael trafferth gydag unrhyw ddyledion, da chi’m ar eich pen eich hun. Peidiwch ag aros i weithredu, oherwydd gorau po gyntaf y byddwch chi’n mynd i’r afael â’r sefyllfa. Ffoniwch HelpwrArian i siarad â rhywun ar unwaith am gefnogaeth ddiduedd a chyfrinachol am ddim. Neu ewch i’n Teclyn Lleoli Cyngor ar Ddyledion i ddod o hyd i gynghorydd dyled cyfrinachol am ddim yn eich ardal leol.
Geraint (17:56)
Ac os fedrych di Rhian, esbonio sut gall y Gwasanaeth Arian a Phensiynau helpu cyflogwyr yng Nghymru?
Rhian (18:04)
Wel, mae MaPS wedi’i sefydlu gan y Llywodraeth i helpu i sicrhau bod pobl ledled y Deyrnas Unedig yn gallu cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol drwy gydol eu hoes. Rydym yn rhoi arweiniad diduedd am ddim ar arian a phensiynau i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus a’n gweledigaeth ni yw bod pawb yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiwn. O bres poced i bensiynau!
Gallwch chi siarad â ni os ydych chi’n pendroni ble i ddechrau neu’n edrych ar wella’r hyn rydych chi’n ei gynnig yn ei barod yn y gweithle.
O wreiddio ein hofferynnau arweiniad ariannol a’n cynnwys yn eich mewnrwyd, i’ch helpu chi i werthuso eich strategaeth llesiant ariannol, mae gennym ni gefnogaeth ar gael i’ch busnes.
Mae gennym hefyd ein gwasanaeth defnyddwyr dwyieithog, HelpwrArian, y gallwch chi gyfeirio gweithwyr ato ni i wneud dewisiadau arian a phensiwnau yn gliriach. Mae’n wasanaeth yn rhad ac am ddim a diduedd sy’n darparu arweiniad ar arian a phensiynau a gefnogir gan y llywodraeth – mae hefyd yn argymell cymorth dibynadwy pellach os oes ei angen arnoch hefyd.
A gallwch gyrchu gwasanaeth HelpwrArian ar-lein a thros y ffôn neu trwy WhatsApp a gwe-sgwrs.
Geraint (19:30)
Felly lot o help mas ‘na yn bendant. Beth am edrych ar y sefyllfa fel ma hi nawr – oes enghraifftiau o heriau ariannol sy’n bodoli a sut allwn ni eu datrys nhw?
Rhian (19:40)
Wel, bydd gan bob un ohonom ni heriau ariannol yn ein bywydau ac mae cael y gwytnwch i ymdrin â’r rhain yn allweddol i les cyffredinol da. Mae yna hefyd ddigwyddiadau bywyd allweddol y gallwn ni baratoi a chynllunio ar eu cyfer. Er enghraifft, prynnu tŷ, cael babi, dechrau swydd Newydd neu gynllunio ein hymddeoliad. A gall HelpwrArian helpu i gefnogi hyn, gyda’n harweiniad, offer a chyfrifianellau a llawer mwy.
Yn anffodus, mae yna ddigwyddiadau eraill y gallem fod angen help efo hefyd. Gall hyn fod yn dor-perthynas, colli swydd neu brofedigaeth. Gall ein gwasanaeth HelpwrArian helpu drwy’r rhain hefyd.
Mae gwefan HelpwrArian hefyd yn cynnig nifer o ganllawiau ac offer hawdd eu defnyddio fel Teclyn Llywio Ariannol i helpu pobl i ddelio ag effaith ariannol y pandemig ac i osgoi gwaethygu materion ariannol yn y dyfodol.
Geraint (20:41)
Ac i aros gyda’r cyflogwr Rhian, ar lefel ddynol, pam ddylai cyflogwyr fod yn buddsoddi mewn cefnogi lles ariannol eu gweithwyr?
Rhian (20:51)
Wel ‘da ni gyd eisiau i bobl yng Nghymru gyrraedd a chynnal y lles ariannol gorau y mae eu modd yn ei ganiatáu. A ma’ gyflogwyr yn allweddol i gael mynediad at y mwyafrif o bobl o oedran gweithio a gallant fod yn fan cychwyn i gynifer ohonom ar y daith honno hefyd.
Geraint (21:12)
A beth i ni edrych a siarad am hyn o safbwynt gweithiwr. Er enghraifft, os yw gweithiwr yn dioddef o faterion lles ariannol ac eisiau rhoi gwybod i’w gyflogwr am y sefyllfa, beth fyddai’r broses o ofyn am help?
Rhian (21:26)
Mae’r broses yn mynd i fod yn wahanol o fewn pob sefydliad, ond yr hyn sy’n allweddol ydy yw nad oes stigma i ofyn am y cymorth yn y lle cyntaf. Mae’n bwysig bod y gweithiwr yn gallu cymryd y cam cyntaf hwnnw i gael mynediad at y cymorth hwnnw. Ac os yw cyflogwyr eisoes yn darparu cymorth llesiant ariannol yn y gweithle, neu’n ystyried hyn yn dilyn trafodaethau gyda’u gweithwyr, y gobaith ydy bod y gweithiwr yn ymwybodol o ble i gael cymorth yna. Gall hyn fod yn wybodaeth ar y fewnrwyd neu sianeli cyfathrebu eraill a ddefnyddir gan y cyflogwr.
I ddechrau, efallai y bydd y gweithiwr am ymdrin â’r mater ei hun, ond bydd cael y wybodaeth hon wrth law yn ei alluogi nhw i wneud hyn.
Os yw’r gweithiwr yn dal i gael trafferth ac yn methu â chael mynediad at y cymorth hwnnw, gall naill ai siarad â’i Reolwr neu o bosibl ei Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl os oes un ar gael.
Y peth allweddol yma yw cydnabod y bydd angen rhyw fath o gymorth ar weithwyr ar ryw adeg yn eu bywydau, felly mae’n beth da i’r sefydliad ystyried lles ariannol a bod yn ymwybodol o ble y gallant gyfeirio staff at y cymorth hwnnw ac ymgorffori llesiant ariannol i mewn i’r sefydliad. Mae hyn yn helpu i gael gwared ar unrhyw stigma ac yn dod yn norm diwylliannol mewn sefydliad.
Fel y dywedais i, nid yw’n ymwneud â’r cyflogwr fel yr arbenigwr, mae’n ymwneud â chydnabod ei fod yn bwysig i les cyffredinol eu gweithwyr, gwybod ble i fynd am arweiniad ynglŷn â beth i’w wneud a rhoi’r pethau hynny ar waith.
Mae arian a phensiynau yn gysylltiedig wrth gwrs. Ac yma yn MaPS rydym am wneud yn siŵr bod gweithwyr yn ymwybodol o ble y gallant gael mynediad at ganllawiau pensiwn hefyd.
Geraint (23:28)Rhian – diolch yn fawr iawn i ti am yr holl gwybodaeth yna. Lot i ni gyd ystyried yna ond yn qwych – diolch i ti. Mae Lawrence wedi bod yn gwrando yn y cefndir, cyfle i Lawrence dod ato ni nawr, croeso cynnes i ti Lawrence –
Lawrence (23:41)
Ie, diolch Geraint
Geraint (23:42)
Os i ni’n dechrau gyda ti, allwch chi ddweud wrthym beth mae angen i gyflogwyr a gweithwyr fod yn ymwybodol ohono o ran y cymorth sydd ar gael.
Lawrence (23:51)
Wel oce, pan ni’n yn sôn am les ariannol, mae pensiynau yn chwarae rhan allweddol yno. Mae cynllunio ar gyfer bywyd hwyrach yn cyfrannu at les ariannol da. Fel dywedodd Rhian gyne, nid yw e erioed yn bwysicach i ni gefnogi lles ariannol i weithwyr.
Nawr falle bod sefyllfa’r coronafirws hyn, a’i effaith economaidd, yn dal yr holl sylw ar hyn o bryd, ond hyd yn oed cyn y pandemig, roedd llawer o weithwyr yn cael trafferth gyda dyled neu pryderon arian, credyd gwael a diffyg gwybodaeth am gynllunio ariannol effeithiol.
Ma cyflogwyr moyn helpu eu gweithwyr os ma gyda nhw straen ariannol neu phryderon. Ma nhw’n deall yr effaith y gall pryder ariannol ei gael ar iechyd corfforol rhywun a meddyliol – a sut mae hyn yn amlygu yn y gweithle.
Gall fod yn gwsg gwael, yn drafferth canolbwyntio yn y gwaith, mwy o absenoldeb, neu fwy o ffrithiant rhwng staff a rheolwyr. Nawr te sut mae’n arddangos, mae’n hwn yn newyddion drwg i’r cyflogwr yn ogystal â’r gweithiwr. O ganlyniad, mae llawer o gyflogwyr wedi cyflwyno cymorth parhaus, neu falle digwyddiadau blynyddol neu wythnosau lles i godi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth i staff yn y meysydd hyn.
Ond gyda ffocws ar faterion falle o ddydd i ddydd, ma rhan hanfodol o les ariannol hir-dymor gweithwyr yn aml yn cael ei hanwybyddu – hynny yw eu pensiwn
Geraint (25:36)
Ie diddorol iawn. Felly o ystyried hynny i gyd pa mor gysylltiedig ddylai cyflogwr fod wrth ystyried darpariaeth pensiwn ar gyfer eu staff?
Lawrence (25:44)
Drwy ymuno eich cynigion pensiwn gyda’ch strategaeth lles ariannol ehangach, gallwch chi helpu gweithwyr i ddeall sut i adeiladu sylfaen ariannol gadarn drwy gydol eu hoes – yn hytrach na rheoli argyfwng yn unig.
Yn amlwg, mae angen i gyflogwyr gadw at ddeddfwriaeth ymrestru awtomatig. Neu falle automatic enrolment, er, falle bydde cyflogwyr moyn talu mwy na’r isafswm cyfreithiol i mewn i bensiwn ar gyfer eu gweithwyr neu falle sefydlu rhyw trefniant pensiwn pwrpasol sydd yn fwy addas ar gyfer eu gweithlu.
Nawr, ma ymchwil yn allweddol. Yn gyntaf, mae angen i chi wybod ble rydych chi’n sefyll ar hyn o bryd. Gall hyn fod trwy cynnal arolwg staff i ddeall lles ariannol presennol eich gweithwyr. Neu fe allech chi wneud hyn trwy grwpiau ffocws neu falle grwpiau llywio. Mae hyn yn rhoi ffocws ar eich gweithwyr ac yn gallu dangos i chi yn union beth maen nhw moyn o’u pecyn lles ariannol – a wedyn beth allwch chi ei wneud i wella’ch cynnig.
Nawr, defnyddiwch y sesiynau yma i archwilio gwybodaeth lles ariannol eich gweithwyr yn gyffredinol. Er enghraifft, sut maen nhw’n meddwl am bensiynau o ran eu harian (os o gwbl)? Pa mor bwysig i nhw yw safio mewn i bensiwn dros nodau tymor byr a chanolig eraill?
Fel arfer ma gan diffyg ymgysylltiad pensiwn i lot i wneud gyda chyfathrebu aneglur ynghylch buddion hirdymor. Felly meddyliwch sut allwch chi wella eich cyfathrebu ac wedyn yn ei dro, gwneud eich pensiwn yn brif nodwedd o’ch pecyn buddion lles ariannol?
Mae cyflogwr mewn sefyllfa unigryw i helpu gyda chynllunio pensiwn. Gall cynllun pensiwn da fod yn ffactor sy’n penderfynu pam mae unigolyn wedi dewis eich cwmni chi i weithio iddo a gall chwarae rhan fawr mewn cadw gweithwyr hefyd.
Nawr mae dewis yr amser iawn i drafod eich cynnig pensiwn gyda’ch staff i bwysleisio pwysigrwydd pensiwn yn bwysig. Nawr, er enghraifft, gall hwn fod yn rhan o’ch strategaeth i’w haddysgu ar gynyddu cyfraniadau pensiwn os ydynt yn dechrau teulu, neu yn prynu cartref neu hyd yn oed yn priodi. Mae’r rhain yn gerrig milltir bywyd mawr i berson, ac mae gweithiwr yn aml yn edrych ar y dyfodol ac yn ystyried effeithiau ariannol y penderfyniadau mawr, mawr yma.
Nawr, weithiau, efallai y byddant yn poeni mwy am bryderon ariannol mwy uniongyrchol, ac efallai y byddwch yn darganfod bod pensiynau yn isel ar eu rhestr o flaenoriaethau. Mewn achosion fel hyn, gall fod yn ddefnyddiol i chi i egluro bod eich cyfraniad chi fel enghraifft yn cynyddu wrth i’w cyfraniad personol nhw fynd yn fwy (wrth gwrs mae hyn yn dibynnu ar eich strategaeth cyfraniadau pensiwn eich hyn). Ond siaradwch â nhw am sut y gallai safio mewn i bensiwn nawr, eu helpu yn ddiweddarach mewn bywyd, a phwysleisiwch fod hwn yn gyfle i fanteisio ar rhan allweddol o’u pecyn cyflogaeth.
Yn olaf, falle na fydd gan rai staff unrhyw le yn eu harian personol i dalu mwy mewn i’w pensiwn tu hwnt i’r isafswm. Ar y pwynt yma, pwysleisiwch yr adnoddau lles ariannol sydd gennych ar gyfer eich busnes. Mae’n bosib bod rhai gweithwyr yn dioddef falle o straen ariannol, felly sicrhewch fod cyfathrebu ynglŷn ag unrhyw Raglen Cymorth i Weithwyr chi’n cynnig ar gael hefyd.
Geraint (29:49)
Efallai bod lot o hwn Lawrence yn canu cloch gyda sawl cyflogwr, on dos dyw e ddim ble gall cyflogwyr fynd i gael cymorth ac arweiniad pellach?
Lawrence (29:59)
Mae llawer o adnoddau gwerthfawr eraill y gall cyflogwyr eu defnyddio i helpu i ddod â phensiynau i ganol eu strategaeth llesiant ariannol. Siaradwch â’ch darparwr pensiwn presennol neu ymgynghorydd budd-daliadau, siaradwch a nhw. Nawr pa waith maen nhw wedi’i wneud gyda chyflogwyr tebyg i chi? A ydyn nhw’n cynnig unrhyw gymorth ychwanegol fel sesiynau addysg ariannol yn y gweithle neu falle ar-lein hefyd? Neu os oes ganddynt unrhyw wasanaethau lles eraill gallech chi manteisio arno?
Gallwch hefyd gyfeirio eich staff at gyfoeth o wybodaeth ddiduedd am ddim ar wefan HelpwrArian jyst ewch i HelpwrArian.org.uk a ma llawer o wybodaeth am phensiynau yna hefyd.
Hefyd, mae HelpwrArian hefyd yn cynnig y gwasanaeth rhad ac am ddim arall, Pension Wise. Eto mae gwybodaeth am Pension Wise ar wefan HelpwrArian. Mae Pension Wise yn cynnig arweiniad pensiynau ynglyn a opsiynau sydd ar gael i unrhyw unigolyn dros 50 mlwydd oed.
Pan fydd gweithwyr yn dechrau meddwl am y dyfodol ac falle ymddeoliad, gall fod o gymorth i gael syniad ynglŷn â pa lefel o incwm y moen cael ar ôl ymddeol. Man cychwyn da yw cael golwg ar y gwefan Safonau Byw Ymddeol – ewch i retirementlivingstandards.org.uk i gale gip-olwg ar y safonnau yma.
Mae’r safonau yma’n disgrifio tair basged wahanol o nwyddau a gwasanaethau, sy’ wedi sefydlu drwy ymchwil annibynnol gan y cyhoedd a ma’ nhw’n nodi’r hyn y mae’r cyhoedd yn cytuno i fod yn ddisgwyliadau realistig a falle pherthnasol ar gyfer ymddeoliad. Mae’r basgedi hyn yn cynnwys pethau fel biliau’r cartref, bwyd a diod, trafnidiaeth, gwyliau a hamdden – sy’n falle holl bwysig, dillad a chymdeithasu.
Mae’r safonau yn gosod tair lefel o fyw ar ol ymddeol – un lleiafswm, un cymedrol a wedyn un chyfforddus. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i helpu pobl i feddwl mewn ffyrdd penodol am y lefel o incwm ma nhw moyn pan ma nhw’n ymddeol, ac wedyn sut i ddeall y gost, sut i sefydlu hyn.
Geraint (32:39)
Ie gwych, lot o lincs dda fyna Lawrence yn bendant. Yng nghyd-destun cynilo, cynilo mae e’n air ni gyd yn meddwl amdano ac ishe gwneud nag yw e, ar gyfer y dyfodol, sut gall pensiwn gweithle helpu?
Geraint (32:39)
Ie gwych, lot o lincs dda fyna Lawrence yn bendant. Yng nghyd-destun cynilo, cynilo mae e’n air ni gyd yn meddwl amdano ac ishe gwneud nag yw e, ar gyfer y dyfodol, sut gall pensiwn gweithle helpu?
Lawrence (32:53)
Pan fydd unigolyn yn safio i mewn i bensiwn, mae’r llywodraeth yn roi bonws iddyn nhw – fel ffordd o’u gwobrwyo am safio ar gyfer eu dyfodol. NAwr mae hyn yn dod ar ffurf rhyddhad treth, neu tax relief. Pan i chi’n talu mewn i bensiwn, ma rhywfaint o’r arian y byddech chi wedi’i dalu mewn treth ar eich enillion yn mynd i mewn i’ch cronfa bensiwn yn hytrach nag i’r llywodraeth. Nawr chi’n cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn ar eich gyfradd uchaf o ta beth yw’r treth chi’n talu, y treth dreth incwm i chi’n talu. Dyna’r rhyddhad treth rydych chi’n cael. Felly mae trethdalwyr cyfradd sylfaenol, y ‘basic rate tax payer’, yn cael rhyddhad treth pensiwn o 20%.
Mae trethdalwyr cyfradd uwch yn hawlio 40% ac hefyd gall trethdalwyr cyfradd ychwanegol hawlio rhyddhad treth pensiwn o 45%. Sy’n dangos y buddion sydd ar gael o safio mewn i bensiwn.
Yn ogystal â’r rhyddhad treth chi gallu cael, gall staff hefyd elwa o gyfraniadau gan eu cyflogwr hefyd. Mae’r cyfraniadau fel arfer yn ganran benodol o enillion cyflogai. Fel y soniwyd gyne, mae ‘na isafswm cyfraniadau y mae’n rhaid i gyflogwyr eu gwneud. Os yw’n gynllun ymrestru awtomatig, rhaid i’r cyflogwr gyfrannu o leiaf 3% o gyflog pensiynadwy. Ac mae’n rhaid i gyfanswm y cyfraniad gan y gweithiwr a’r cyflogwr i fod o leiaf 8%. Mae hynny’n meddwl os yw’ch cyflogwr chi yn talu 3% i fewn, ma rhaid i chi fel gweithiwr talu 5%.
Hefyd, i roi enghraifft o rhyddhad treth a sut mae’n gweithio ar gyfraniadau pensiwn, dychmygwch fod unigolyn mewn rhyw cynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Nawr pob mis, mae’r gweithiwr yn talu £40 i mewn a ma’r cyflogwr yn talu £30 i mewn. Mae’r gweithiwr yn cael rhyddhad treth o 20% yn awtomatig. Yn yr enghraifft hon, ma rhyddhad treth mae’n cael yn dod i £10. Mae hwn yn cael i’w ychwanegu at y swm mae e’n talu. Gallwch weld o’r enghraifft syml yma, er mai dim ond £40 y mae’r gweithiwr yn talu i mewn i’w bensiwn, mae cyfanswm o £80 yn cael ei dalu yn gyfangwbl pan fyddwch yn cynnwys rhyddhad treth a chyfraniad y cyflogwr.
Geraint (35:44)
Arian am ddim yn y bon nag yw e. Gwych. Lawrence, diolch i ti am dy holl cyngor fyna ac i Rhian hefyd. Cyn i chi ein gadael ni heddiw, ni wedi dysgu gymaint yn bendant on top-tips bach byse i’n hoffi cyn bo chi’n mynd. Wnewn ni ddechrau gyda ti, Rhian. Oes awgrymiadau ariannol a phensiwn y gall ein gwrandwyr mynd gyda nhw am byth nawr, jyst rhywbeth bach i ni gofio cyn iddyn ni ffarwelio.
Rhian (36:08)
Iawn, diolch Geraint. Wel, yn gyntaf, os ydych yn gyflogwr fedrwch chi mynd i’n gwefan ni maps.org.uk i gael gwybod mwy am sut y gallwch gefnogi lles ariannol eich staff a’ch gweithwyr. Neu cysylltwch a ni i drafod hyn ymhellach a sut y gallwn eich helpu chi.
- Dyma ychydig o syniadau da i weithwyr y gall cyflogwyr rhannu gyda nhw hefyd.
- Edrychwch ar wneud cyllideb a gweld pa arian sydd gennych yn dod i mewn ac yn mynd allan.
- Arhoswch ar ben eich biliau, yn enwedig y biliau blaenoriaeth hynny fel eich rhent, morgais a gwres ac ati. Mae gwybod pa filiau i’w talu gyntaf yn bwysig iawn.
- Sbiwch ar eich slip cyflog bob mis – a ydych ar y cod treth cywir? Gallwch chi sbio ar gov.uk i siecio hyn hefyd.
- A meddyliwch am ddechrau cynilo. Ffordd wych yw trwy’r cynllun cynilo cyflogres y gall eich cyflogwr ei gynnig. Neu os nad ydyn nhw’n ei gynnig o, edrychwch ar ffyrdd eraill fel cynilo ISA neu cyfrif Cymorth i Gynilo o’r llywodraeth.
- Ac yn olaf, os ydych chi’n poeni am arian, cymerwch y cam cyntaf hwnnw i gael help. I ddod o hyd i gynghorydd dyled cyfrinachol am ddim, defnyddiwch y Teclyn lleoli cyngor arddyledion o HelpwrArian neu gallwch chi siarad â thywysydd arian dros y ffôn ar 0800 138 7777.
Geraint (37:42)
Rhian, diolch yn fawr iawn i ti. A Lawrence ti ddim yn cael mynd eto. Top Tip gan ti plis?
Lawrence (37:48)
Ie ma cwpl o awgrymiadau ‘da fi.
Yn gyntaf, meddyliwch am beth mae eich gweithlu chi moyn o’u drefniant pensiwn. Falle gallech chi cynhali arolygon staff i gael rhywfaint o adborth wrthyn nhw.
Hefyd tynnwch sylw at y manteision o safio mewn cynllun pensiwn yn y gweithle – hynny yw – y rhyddhad treth sydd ar gael ynghyd â’r arian “am ddim” a gynigir gennych chi y cyflogwr.
Ac yn olaf, cyfeiriwch eich staff at y cyfoeth amrywiol o ganllawiau rhad ac am ddim a gynigir gan HelpwrArian
Geraint (38:22)
Diolch Rhian a Lawrence unwaith rhagor. Sgwrs gwerthfawr mawr i ni gyd fan yna a lot mwy i drafod ar y bwnc hefyd. Felly gall cyflogwyr sy’n chwilio am gefnogaeth pellach gyda lles ariannol yn y gweithle ymweld â’r gwefan maps.org.uk neu gall gweithiwr dod o hyd i’r cyfoeth o wybodaeth am arian a phensiynau ar wefan HelpwrArian.
A dwi’n sicr mynd i fentro i’r Sofa i Ffitrwydd Ariannol!
Dyna ni ar gyfer y bennod hon o bodlediad Cymru Iach ar Waith, diolch am wrando. Os gwnaethoch fwynhau’r bennod hon, ewch i sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan Cymru Iach ar Waith i gael mwy o gynnwys ar sut i adeiladu gweithle iach, gweithlu iach a busnes iach. Cofiwch i raddio, adolygu, rhannu a thanysgrifio i’r sianel hon hefyd.
Geraint Hardy ‘dw i hwn oedd phodlediad Cymru Iach ar Waith ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. Diolch am wrando.
Diolch am wrando. Tan tro nesaf, ta-ra.
Dolenni Defnyddiol
Llesiant ariannol yn y gweithle
Money and Pensions Service (MaPS) (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd)
Helpwr Arian (yn agor mewn ffenestr newydd)
Retirement Living Standards (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd)
Iechyd Planedol: Gweithred cyflogwr ar gynaliadwyedd amgylcheddol
Mai 2022
Yn y bennod hon mae Geraint Hardy yn siarad â Rhian Wildi, sy’n gynrychiolydd siaradwr Cymraeg Cymru Iach ar Waith ac yr elusen Busnes yn y Gymuned Cymru (BITC) ac yn archwilio sut mae cyflogwyr yn gweithredu i ddod yn fwy cynaliadwy.
Bydd gwrandawyr yn dysgu sut mae’r pandemig yn rhoi cyfle i fyfyrio ac ailffocysu ar leihau ôl troed carbon sefydliadau ac ar yr un pryd nodi’r buddion i iechyd a’r economi, amlinellu sut i gynllunio twf cynaliadwy a chynhwysol, a darparu enghreifftiau o gamau gweithredu tymor byr a chanolig gall gwrandawyr eu cymryd i leihau effaith amgylcheddol ym mhob agwedd o’u gweithrediadau busnes.
Trawsgrifiad
Geraint (0:01)
Helo, Geraint Hardy ‘dw i a chroeso i bodlediad Cymru Iach ar Waith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dros y gyfres byddwn yn sgwrsio ag arbenigwyr ar faterion iechyd a lles yn y gweithle, gan rymuso cyflogwyr gyda’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i helpu i gadw gweithlu Cymru yn iach ac mewn gwaith.
Yn y bennod hon, byddwn yn siarad am gynaliadwyedd amgylcheddol a beth mae hyn yn ei olygu i gyflogwyr yng Nghymru a’r cyffiniau. Mae gweithredu gan gyflogwyr ar gynaliadwyedd amgylcheddol yn bwysicach nag erioed gyda Llywodraeth Cymru yn ymuno â’r ras i wneud Cymru’n Sero Net erbyn 2050 ac i adeiladu ar ei huchelgais o fod yn wlad wyrddach, gryfach a thecach.
Yn ymuno â fi heddiw mae Rhian Wildi, sy’n gynrychiolydd siaradwr Cymraeg Cymru Iach ar Waith ac yr elusen Busnes yn y Gymuned Cymru, sy’n sefydliad aelodaeth a arweinir gan fusnes sy’n ymroi i feithrin busnes cyfrifol. Mae Rhian wedi ymddangos fel siaradwr ar y podlediadau Cymru Iach a’r Waith o’r blaen felly yn llais gyfarwdd i ni i gyd yma ar y pod.
Rhian, croeso cynnes i ti a llongyfarchiadau mawr ers i ni siarad diwethaf ti wedi priodi felly da iawn ti.
Rhian (1:19)
Do! Dwi’n gwybod. Sioc i’r system!
*chwerthin*
Geraint (1:23)
Wel dwi’n gobeithio bod ti’n mwynhau bywyd gyda dy ŵr newydd.
At y pwnc sy’ gyda ni heddiw te, rwy’n meddwl y gallwn gytuno yn syth byn bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn bwnc llosg ar agenda llawer o sefydliadau ar hyn o bryd, yn enwedig yn sgil y pandemig ac o ystyried y pryderon cynyddol am yr argyfwng hinsawdd yr ydym wedi’i weld yn y fisol bellach o gwympas y byd.
Mae’n saff i ddweud hefyd bod y digwyddiadau hyn yn amlygu pa mor bwysig yw hi i sefydliadau newid y ffordd y mae nhw’n meddwl ac yn ymddwyn yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn economaidd.
Rhian (1:57)
Yn hollol Geraint. Mae Busnes yn y Gymuned Cymru yn gweithio gyda channoedd o sefydliadau ar draws y wlad, sydd eisoes yn gweithredu’n gyfrifol ac yn gwneud eu rhan – yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn economaidd.
Ond mae gan bob busnes unigol yng Nghymru ran i’w chwarae wrth gymryd camau i atal yr argyfwng hinsawdd.
Ac mae angen i ni i gyd wneud cymaint mwy. Un o’r pethau yr ydym yn ymfalchïo ynddo yn Busnes yn y Gymuned yw ein bod yn gweithio gyda’n haelodau i wella’n barhaus nid yn unig eu harferion busnes cyfrifol, ond hefyd i ddefnyddio’r effaith gyfunol honno er budd cymunedau. Ac mae ein haelodau eisiau rhannu arfer gorau, cefnogi eraill i wneud mwy a gweithio er lles pawb. A dyna’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud, nid dim ond dod yn fusnesau cyfrifol unigol, ond cydweithio i helpu Cymru i ddod yn genedl fusnes gyfrifol.
Mae ein haelodau yn canolbwyntio ar bedwar maes: datblygu gweithlu medrus a chynhwysol, sicrhau bod gwaith yn dda i bawb, arloesi i gynnal ac adfywio’r blaned – yr ydym yn canolbwyntio arno heddiw, ac adeiladu cymunedau ffyniannus.
Ond maent i gyd yn rhyng-gysylltiedig – ac os ydym am fynd i’r afael yn wirioneddol â her yr hinsawdd o’n blaenau – rhaid inni edrych ar ein cymunedau, y gwaith a ddarparwn, a sgiliau a siâp ein gweithluoedd os ydym am gael yr effaith yr ydym angen.
Oherwydd bod yr argyfwng hinsawdd yma, nawr! Ac rydym yn wynebu’r dasg hon – ochr yn ochr â nifer o heriau cymdeithasol. Rydym yn dal yng nghanol pandemig byd-eang ac mae ein costau byw yn codi, ac mae anghydraddoldebau iechyd a chyfoeth yn cynyddu ac mae pryder cynyddol na fydd bywydau ein plant cystal â’n bywydau ni. Ac ni all hyn fod yn iawn. Nid dyma’r byd yr ydym ei eisiau, ac yn bendant nid dyma’r Gymru yr ydym ei heisiau. Ni oedd y genedl gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd, y genedl gyntaf i benodi Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym yn genedl falch ac uchelgeisiol a rhaid inni i gyd wneud mwy, a rhaid inni weithredu nawr. Ac ni fu’r angen am arweiniad personol a sefydliadol, ar hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol erioed mor amlwg.
Geraint (4:45)
Gyda hynny mewn golwg, gadewch i ni edrych ar hyn i gyd o safbwynt busnes a sut y gall y sefydliadau gwahannol gwneud eu rhan nhw i ddod yn fwy cynaliadwy a helpu i amddiffyn y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Pam fod gweithredu gan gyflogwyr i ddod yn fwy cynaliadwy yn bwysig? A be’ yn y bôn yw’r manteision?
Rhian (5:07)
Wel, mae’n bwysig oherwydd heb weithredu gan gyflogwyr ni fyddwn yn gallu gwneud y newidiadau sydd eu hangen arnom ar frys. Er gwaethaf yr her enfawr, rwy’n wirioneddol obeithiol am yr effaith gadarnhaol y gallwn ni – busnesau, sefydliadau, a dinasyddion, ledled Cymru – ei chael. Erbyn 2030 mae angen i’r Deyrnas Unedig fod wedi cyflawni ei hymrwymiad i gyfyngu ar gynhesu byd-eang i 1.5°C, rhywbeth y mae llawer yn ei ystyried yn bosibl dim ond drwy gyflawni economi di-garbon net. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cynllun i gyrraedd sero net Cymru erbyn 2050, ond maent yn glir bod hyn yn golygu ein bod yn dechrau nawr, gyda degawdau o weithredu. A’r cwmnïau, sy’n gweld newid yr hinsawdd fel rhan o ddiogelu eu busnes am y dyfodol, fydd yn ffynnu yn y byd cyfnewidiol hwn.
Ni ellir ei wneud ar ei ben ei hun. Mae angen cydweithredu rhwng busnesau, llywodraethau a chymdeithas sifil. Ac mae ein hymchwil yn dangos mai dyma mae dinasyddion ei eisiau ac mae manteision ynghlwm. Cynhaliodd Busnes yn y Gymuned Cymru a YouGov ymchwil llynedd, gydag aelodau o’r cyhoedd a busnesau. Ac mae adroddiad, yr ydym newydd ei ryddhau: Yr Hinsawdd Gywir i Fusnes: arwain cyfnod pontio cyfiawn, yn rhannu mewnwelediadau o’r ymchwil hwn a argymhellion. Felly gallwn drosglwyddo teg a chynhwysol i ddyfodol sero net – gwydn – lle mae pobl a natur yn ffynnu. A byddaf yn rhannu rhai o’r buddion a welsom:
Yn gyntaf, yr un mawr, mae pobl eisiau gweithio i, a phrynu oddi wrth, gwmnïau sy’n gweithredu ar yr hinsawdd ac a fydd yn dileu eu busnes neu’n gweithredu o fewn cwmnïau nad ydynt yn gwneud hynny. Mae 72% o bobl yn dweud ei bod hi’n bwysig bod y busnesau maen nhw’n prynu ganddyn nhw yn gweithredu ar yr hinsawdd. Er bod pobl yn gweld y Llywodraeth fel y prif gyfrifoldeb am gweithredu hinsawdd, maent yn gweld busnes fel un sydd â chyfrifoldeb. Yn hollbwysig, mae cwsmeriaid eisiau i’r busnesau y maent yn prynu wrtho fod yn annog gweithredu amgylcheddol. Mae agweddau cymdeithasau’n newid – mae’r cenedlaethau iau yn mynnu bod y rhai ohonom sydd â grym a dylanwad yn cymryd ein cyfrifoldeb dros weithwyr, cymunedau a’r amgylchedd o ddifrif. Ac mae budd sylweddol i fanteisio ar y symudiad hwn a galw i fusnesau wneud mwy. Mae arloesi, cynyddu gwerth brand, ymgysylltu â chwsmeriaid newydd a denu talent newydd ymhlith y gwobrau. Mae busnes yn wirioneddol heriol nawr, felly mae gweithredu hinsawdd yn hanfodol i lwyddiant hirdymor eich busnes a denu talent i’ch sefydliad.
PAUSE
Er gwaethaf y manteision hyn, mae ein hymchwil hefyd yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod beth mae busnesau’n ei wneud i rwystro newid yr hinsawdd a’r rhai sy’n gwybod, dim yn ymddiried mewn busnesau i gadw eu haddewidion. Gydag ymddiriedaeth mewn busnes yn beryglus o isel, mater i arweinwyr busnes yw e i ddangos yn hytrach na dweud beth y maent yn gwneud ynglŷn â gweithredu hinsawdd. Mae busnesau a’r cyhoedd yn credu, o fewn ein system bresennol, na fydd risgiau a buddion newid hinsawdd yn cael eu dosbarthu’n deg. Mae’r bobl a’r sefydliadau sydd eisoes fwyaf agored i niwed yn debygol o golli hyd yn oed yn fwy.
Fodd bynnag, nid yw hyn yn anochel. Yng ngeiriau’r actifydd hinsawdd ifanc Vanessa Nakate, wrth siarad yn COP26, mater i arweinwyr busnes nawr yw “ein profi ni’n anghywir”.
Geraint (9:39)
Ie, gwnaethoch chi sôn fyna am lawer o obeithion, llawer o dargedau ac yna sôn am ymddiried, Allwch chi roi rhai enghreifftiau i wrandawyr o sefydliadau sydd wedi dod yn fwy cynaliadwy a sut maent yn gweithredu i leihau eu hôl troed carbon a’u heffaith ar y blaned. A sut mae hynny wedyn wedi bod o fudd i’r busnes?
Rhian (10:00)
Byddwn i wrth fy modd! Dechreuaf gydag un sydd wir yn dangos y gall cynaliadwyedd fod yn dda i fusnes a dyna’r cwmni cyfryngau SKY.
Ac un o’r newidiadau y maent wedi’i wneud – i un o’i gynnyrch allweddol – fel rhan o’u hymrwymiad i ddod yn sero net erbyn 2030 a ddarparu teledu carbon niwtral. Mae Sky wedi lansio’r teledu cyntaf i gael ei ardystio fel cynnyrch carbon niwtral. Mae eu cynnyrch newydd Sky Glass yn arbed ynni drwy ddod â 3 dyfais mewn i 1 a dyma’r unig deledu (ar hyn o bryd) sy’n dod mewn pecynnau ailgylchadwy sy’n rhydd o blastig un-tro.
Maent hefyd wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid Natural Capital, i fuddsoddi mewn Tystysgrifau Priodoledd Ynni i bweru Sky Glass â thrydan adnewyddadwy am ei flwyddyn gyntaf a’i wrthbwyso â phrosiectau ynni adnewyddadwy.
Ac un mwy lleol, mae Heddlu De Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i droi’n wyrdd. Mae nhw wedi creu Coleg Dysgu Heddlu o’r radd flaenaf sydd yn mynd i taclo effeithiau newid hinsawdd ac yn cyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol…Gan gynnwys gostyngiad o 50% yn ôl troed carbon corfforedig yr adeilad, buddsoddiadau ynni adnewyddadwy, draeniad trefol cynaliadwy, a seilwaith glas/gwyrdd. Mae’r coleg hefyd o fudd i les a gwydnwch hinsawdd y gymuned leol.
Ac nid oes rhaid i’r newid gael ei yrru gan gynnyrch – neu fod yn gysylltiedig â’ch busnes craidd – weithiau gall fod yn sgil-gynnyrch hapus! Er enghraifft mae gwasanaethau Dŵr Anglian yn defnyddio eu gwres gwastraff, i bweru cynhyrchu bwyd. Bu Dŵr Anglian mewn partneriaeth â Greencoat Capital ac Oasthouse Ventures i ddatblygu dau o dai gwydr mwyaf y wlad, wedi’u cynhesu gan wres gwastraff o’u canolfannau ailgylchu dŵr. Gall y tai gwydr hyn gynhyrchu 12% o domatos y Deyrnas Unedig; wedi creu 360 o swyddi newydd parhaol, ac wedi lleihau ôl troed carbon cynhyrchu tomatos 75%. Nid yr hyn y byddech chi’n ei ddisgwyl gan wasanaeth dŵr!
Felly dim ond tair enghraifft syml o sefydliadau sydd wedi dod yn fwy cynaliadwy yn eu gweithrediadau, ac mae gennym ddwsinau o astudiaethau eraill ar gael ar ein gwefan.
Geraint (13:01)
Ie enghreifftiau gwydd yna. A beth am gaffael a phrynu gan gwmnïau eraill – pa gyfleoedd y mae hyn yn gael i ddylanwadu ar sefydliadau eraill i weithredu mewn ffordd sy’n fwy cynaliadwy? Oes yna enghreifftiau i ddangos sut y gellir gwneud hyn?
Rhian (13:17)
Ydy, mae rhai gwych yn dod i’r meddwl o gwympas fusnesau Cymreig yn dangos sut y gall y pŵer o sut rydych chi’n gwario a buddsoddi’ch arian gael effaith wirioneddol.
Dechreuaf gyda Bluestone National Park Resort yn Sir Benfro – a’u ‘gwyliau maes’. Maent am fod yn cyrchfan gwyliau byr mwyaf cyfrifol yn y Deyrnas Unedig, ac maent yn gwneud rhai pethau gwych. Mae ganddyn nhw 1000 o welyau sydd angen eu newid ddwywaith yr wythnos – mae hynny’n llawer o ddillad gwely! Ac roedd eu cyflenwr yn dychwelyd y golchdy glân mewn bagiau plastig unigol, ac roedd Bluestone eisiau newid hyn. Felly, fe wnaethon nhw ail-gaffael, dod o hyd i fusnes lleol iawn, Golchdy Pengarreg, ac yr oedd cynaliadwyedd wrth wraidd ei gais am y busnes. Roeddent yn llwyddiannus ac o ganlyniad mae dros 200,000 o eitemau plastig bellach wedi’u dileu bob blwyddyn. Mae bagiau golchi dillad yn cael eu pacio yn y golchdy, yn cael eu hailddefnyddio bob tro. A gyda’r golchdy yn fwy lleol, mae angen llai o filltiroedd i gludo’r golch ac mae pobl leol yn cael eu cyflogi.
Ac mae Bluestone hefyd wedi gwneud penderfyniadau anodd, ac wedi rhoi’r gorau i brynu rhai eitemau a oedd yn broffidiol iawn iddynt – fel dŵr potel. Mae ganddyn nhw gyflenwad dŵr am ddim o amgylch y gyrchfan – ac maen nhw’n gwerthu diodydd pefriog, yn eu bariau i lenwi’r potel aildefnyddiadwy. Dywedir wrth bobl ar eu gwyliau ymlaen llaw i ddod â’u potel amldro eu hunain, neu gallant brynu un ar y safle, ac o ganlyniad mae 42,000 llai o boteli plastig.
Ac yn olaf, achos dwi’n meddwl fod Bluestone yn esiampl mor wych, ac yn hawdd i bobl ddeall, maent yn helpu busnesau lleol eraill hefyd, drwy bartneriaeth gymunedol. Daw 100 tunnell o doriadau gwair oddi ar 300 o lawntiau a mannau hamdden Bluestone trwy gydol y flwyddyn – mae’n cael ei roi i’r ffermwr cyfagos sy’n ychwanegu’r glaswellt at ei warchodfa tail i greu gwrtaith naturiol ar gyfer cnydau. Felly gwir economi gylchol.
Ac wrth aros yn agos at adref, mae Bwydydd Castell Howell – cyflenwr bwyd – sydd, o ddechreuadau diymhongar, teuluol, wedi addasu a dangos arweiniad gwerthfawr mewn busnes cyfrifol, i gymheiriaid yn y sector a busnesau Cymreig eraill.
Maent wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o strategaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu Economaidd, a’r Contract Economaidd, y bwriedir iddynt ysgogi ffyniant i bawb. Mae Castell Howell hefyd yn aelodau o dri chlwstwr bwyd Cymreig, ac yn gweithio gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr i gefnogi eu targedau Sero Net eu hunain. Ac mae hyn oll wedi cyfrannu at eu bod mewn sefyllfa llawer cryfach wrth wneud cais am fusnes a bodloni gofynion cyflenwyr cyfrifol – gan helpu i roi busnes Cymreig ffyniannus, sy’n cael ei arwain gan werthoedd, yn gadarn ar y map.
Geraint (17:01)
Enghreifftiau gwych unwiath eto fan yna ond os oedd rhywun yn gwrando ar hyn a’u bod ychydig yn negyddol am y pwnc, falle bod nhw’n dweud ‘mae’n mynd i gostio mwy i’r defnyddiwr i gael Sky Glass’ oherwydd bod e’n cosio mwy. O safbwynt perchennog busnes hefyd, mae’r hyn maen nhw wedi’i wneud yn Bluestone wedi effeithio’n aruthrol ar eu helw nhw, felly mae yna ergyd ariannol yndoes ond gwirionedd y sefyllfa yw mae’n rhaid i bobl gymryd yr ergyd yna i wneud i hyn ddigwydd.
Rhian (17:31)
Ie, ti’n iawn, Geraint. A gadewch i ni ddefnyddio enghraifft Bluestone – maen nhw wedi gorfod buddsoddi ymlaen llaw a gwneud rhai penderfyniadau busnes anodd a rhoi’r gorau i bethau sydd wedi bod yn broffidiol iddyn nhw. Ond dwi’n meddwl mai nhw fyddai’r cyntaf i ddweud ei fod yn help mawr i wahaniaethu eu hunain fel bod pan fydd pobl yn edrych ar wyliau yn y Deyrnas Unedig gallant weld yr holl bethau y mae Bluestone yn eu gwneud ac mewn gwirionedd mae’n annog mwy o gwsmeriaid i’w ffordd.
Felly i lawer o fusnesau bydd hyn yn dda iawn oherwydd bod cwsmeriaid yn chwilio am opsiynau mwy cynaliadwy. Ond i eraill lle gallai gymryd mwy o amser ar gyfer yr elw hwnnw, meddyliwch am y gost o beidio â gwneud y newidiadau hyn. Mae llawer o dystiolaeth yn dangos sut mae’r defnyddiwr yn bod yn fwy gofalus o ran ble maent yn gwario eu harian ac mae’r genhedlaeth iau yn bendant eisiau gweld y newid hwn. Felly byddwn yn dweud wrth bob busnes, mae angen ichi feddwl am wneud y newidiadau hyn. Mae rhywfaint o fuddsoddiad ymlaen llaw, ond bydd yn talu ar ei ganfed.
Geraint (18:51)
Ie ac efallai y bydd cyflogwr sy’n gwrando ar hwn nawr dal i deimlo nad yw’r pwnc hwn yn berthnasol iddyn nhw, efallai nad oes digon o allu neu amser i feddwl amdano a’i weithredu, neu efallai nad oes ganddyn nhw cliw ble i ddechrau, ti gwybod? Beth yw eich neges felly i’r cyflogwyr yma a sut gallen nhw ddechrau arni, a chymryd rhai camau cyntaf?
Rhian (19:11)
Wel byddwn yn dechrau trwy ddweud, gwneud amser, dod o hyd i’r gallu, dim ond dechrau arni. Triniwch weithredu hinsawdd yr un mor bwysig ag y byddech yn eich gweithrediadau, eich elw, iechyd a diogelwch, neu unrhyw elfen graidd arall o’ch model busnes. Ond dechreuwch nawr. Rhaid i bob busnes unigol weithredu os ydym am wneud y gwahaniaeth sydd ei angen arnom, er mwyn atal yr argyfwng hinsawdd. A bydd y newid er lles, nid yn unig i’r blaned, ond i’ch sefydliad a’ch gweithwyr hefyd. Felly byddwn yn edrych am yr enillion cyflym, pethau syml y gallwch chi ddechrau eu gwneud heddiw i nodi newid.
Ond, yn ddelfrydol, dylai pob busnes, yn gyntaf, targed sero net (gorau po gyntaf) – creu a gweithredu cynlluniau gweithredu hinsawdd gyda thargedau sero net cadarn, wedi’u gwreiddio yn y wyddoniaeth, mor agos at 2030 â phosibl. Gall hyn deimlo’n frawychus ac anghyraeddadwy, ond mae llawer o help ar gael a llawer o help ac arweiniad da am ddim, gan bobl sydd eisiau helpu. Felly boed hynny gan BITC, yr FSB, Chambers, Cynnal Cymru, neu Busnes Cymru – mae llawer o gymorth ar gael yma yng Nghymru.
Yn ail, adeiladu sgiliau i ffynnu yn y cyfnod pontio (mae angen pawb ar hyn) – Sicrhau bod gan weithwyr ar bob lefel y sgiliau a’r llinellau atebolrwydd clir sydd eu hangen arnynt i gyflawni a’u bod yn cael eu gwobrwyo am eu cyfraniadau. Unwaith eto, mae cymorth ar gael ac mae llawer o golegau a phrifysgolion ledled Cymru yn cynnig cyrsiau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i helpu i addysgu staff.
Yn drydydd, cynnwys rhanddeiliaid amrywiol i gyd-greu datrysiadau go iawn – i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed a sicrhau bod manteision y trawsnewid yn cael eu teimlo ar draws y cymunedau.
Gall pobl ifanc dod a’r sylw sydd eisiau ar y blaned a’r newidiadau mewn agwedd sydd eu hangen ym myd busnes. A byddwn yn eich annog i geisio creu cydweithrediad a chyfranogiad rhwng cenedlaethau, a fydd yn dod â chryfderau pob cenhedlaeth allan ynghyd; y profiad a’r wybodaeth gan yr hŷn, a’r angerdd, brys ac ysfa gan yr iau. Ac fel gyda fy mhwyntiau eraill, gofynnwch am help – gweithiwch gyda busnesau sydd ychydig ymhellach ymlaen, rhannu syniadau, a chael cymorth.
Mae gennym adnodd sydd ar gael yn rhwydd, Saith Cam ar gyfer Gweithredu Hinsawdd, sy’n nodi sut y gall busnesau sicrhau trawsnewidiadau cyfiawn a theg i ddyfodol cydnerth, sero net. Bydd cymryd y camau yn helpu sefydliadau i sicrhau bod eu model busnes yn gallu gwrthsefyll yr hinsawdd ac yn cyfrannu at ddyfodol lle gall pobl a natur ffynnu. Bydd cymryd y camau hefyd yn cefnogi creu gwerth a gwella ffyniant gweithwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr a chymunedau. Ac mae angen model busnes cynaliadwy ar bob un ohonom, un sydd wedi’i adeiladu i bara.
Geraint (23:09)
Felly, gan ystyried yr holl wybodaeth ddefnyddiol yma heddiw, Rhian, fel cyflogwr, sut allwch chi ymgysylltu â’ch gweithlu i gymryd rhan? Hefyd, gyda’r pandemig sydd wedi gwthio llawer o bobl i weithio adref bellach, sut y gall sefydliadau hyrwyddo ac annog eu staff, ac efallai eu cleientiaid hefyd, i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy i ffwrdd o’r gweithle?
Rhian (23:33)
Yn gyntaf, hoffwn bwysleisio bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud mwy ac i fyw ein bywydau yn fwy cynaliadwy. Ac mae gan gyflogwyr ran i’w chwarae wrth helpu, arwain, cefnogi eu gweithwyr – ac fel awgrymwch – eu cleientiaid hefyd, i fod yn fwy cynaliadwy. Rwyf wedi gweld bod y busnesau sy’n ymgysylltu’n weithredol â’u gweithlu yn y newidiadau y maent iddynt eu gwneud, yn cael canlyniadau gwell, yn y busnes, ond gyda’u staff hefyd – a’u staff yn dod yn eiriolwyr dros y newid hwnnw ac ar gyfer y sefydliad.
Dangosodd ein hymchwil mai dim ond 24% o gwsmeriaid sy’n ymwybodol o’r hyn y mae busnesau’n ei wneud ar weithredu ar yr hinsawdd, ac ohonynt, nid yw 62% yn ymddiried mewn busnesau i wneud yr hyn y maent yn ei addo. Er bod bron i dri chwarter y bobl – 72% – eisiau i’r busnesau y maen nhw’n prynu wrthynt gwneud mwy i’r amgylchedd, mae llai na chwarter y cwsmeriaid yn gwybod beth mae busnesau yn ei wneud. Hyd yn oed o fewn busnesau, nid yw’r rhan fwyaf o weithwyr yn ymwybodol o’r hyn y mae eu sefydliad yn ei wneud, neu nid ydynt yn meddwl bod cyflogwyr yn gwneud digon. Mae angen i fusnesau nid yn unig ymrwymo i weithredu hinsawdd, ond mae ganddynt gyfle i feithrin ymddiriedaeth trwy gynnwys cymunedau amrywiol a dangos sut mae addewidion yn trosi’n weithredu a chanlyniadau.
Ac o ran gweithwyr sy’n byw bywyd cynaliadwy i ffwrdd o’r gwaith, rwy’n meddwl bod angen i ni i gyd godi ymwybyddiaeth, creu arferion da, a gwneud pethau sy’n annog yr ymddygiadau cywir. Felly annog staff i feicio neu gerdded i’r gwaith, efallai cael cynllun beiciau, a chael cyfleusterau addas i staff storio eu beic. Mae rhai busnesau wedi adolygu eu pensiynau a sut maent yn cael eu buddsoddi, – mae Make My Money Work yn symudiad gwych i weld pensiynau’n cael eu buddsoddi mewn busnesau cynaliadwy a bydd pobl sy’n ymuno â’r gweithlu nawr yn gwerthfawrogi’r dull hwn.
Yr arfer gorau a welwn ar draws y busnesau cyfrifol rydym yn gweithio gyda nhw, fydd ymgysylltu â chyflogeion – gyda staff yn cymryd rhan drwy gydol y broses, yn dylunio, yn cyflawni ac yn ysgogi’r newid hwn. Ac nid oes angen i fusnesau gyfyngu eu dylanwad i’w busnes uniongyrchol eu hunain, ond gallant ddylanwadu’n gadarnhaol ar eu cadwyni cyflenwi, eu cwsmeriaid a’u cleientiaid, eu gweithwyr – mae ganddynt y potensial i gael effaith gadarnhaol enfawr.
Does ond angen i fusnesau osod yr esiampl. Gwnewch hi mor syml ag y gallwch chi i’ch gweithwyr wneud y peth iawn. Gwnewch yn glir i’ch cyflenwyr y gwerth a roddwch arnynt wrth ymddwyn yn gyfrifol. A chefnogwch eich cyflenwyr trwy’r newid hwn. A dyna pam rydyn ni yn BITC mor angerddol am gyfranogiad busnesau a’u rôl hanfodol wrth gymryd camau hinsawdd.
Geraint (27:12)
Mae’r gwrandawyr yn sicr, Rhian, wedi cael gwybodaeth hynod ddefnyddiol heddiw i symud ymlaen a dechrau eu taith i ddod yn fwy cynaliadwy. Yn olaf, cyn ffarwelio ti, beth yw eich neges i bawb sy’n gwrando heddiw?
Rhian (27:25)
Bod yna gobaith – ac iddynt ddychmygu. Pe gallem, gyda’n gilydd, droi’r her fwyaf sy’n wynebu ni mewn i ein chyflawniad mwyaf? Meddyliwch am swyddi da sy’n well i ni, mwy o fannau gwyrdd, aer a dŵr glanach, a gwell iechyd a lles. Meddyliwch am eich cymuned leol yn ogystal â’r cymunedau hynny sydd wedi’u hallgáu o’r blaen – a dychmygwch eu bod yn cael eu hadfywio wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i atebion a chyfleoedd mewn economi adfywiol, ffyniannus. Mae’r hyn a wnawn yn bwysig, ond mae sut yr ydym yn ei wneud yr un mor hanfodol. Rhaid inni sicrhau bod y newid i Gymru wydn, sero net yn deg a chyfiawn, gan alluogi pobl a natur i ffynnu.
A dyna’r peth pwysicaf y gallwn ei wneud, nid dim ond dod yn fusnesau cyfrifol unigol, ond cydweithio i helpu Cymru i ddod yn genedl fusnes gyfrifol!
Geraint (28:35)
Ie, wir.
Wel, diolch o galon i ti, Rhian, am dy gyfraniad heddiw a’r holl gwybodaeth, mae wedi bod yn addysgiadol iawn i ddweud y lleiaf felly diolch i ti am dy amser.
Rhian (28:45)
Dim problem.
Geraint (28:46)
Nawr dwi’n sicr ein bod ni dim ond wedi cyffwrdd ag arwyneb y pwnc hwn felly dylai cyflogwyr a gweithwyr sy’ am fwy o gyngor ac arweiniad ymweld â sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan Cymru Iach ar Waith lle mae yma amrywiaeth o gwasanaethau cymorth a chanllawiau arfer gorau.
Dyna ni ar gyfer y bennod hon o bodlediad Cymru Iach ar Waith, diolch am wrando. Os gwnaethoch fwynhau’r bennod hon, ewch i sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan Cymru Iach ar Waith i gael rhagor o gynnwys ar sut i adeiladu gweithle iach, gweithlu iach a busnes iach. Cofiwch i raddio, adolygu, rhannu a thanysgrifio i’r sianel hon hefyd.
Geraint Hardy ‘dw i a diolch am wrando ar bodlediad Cymru Iach ar Waith ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Diolch am wrando. Tan tro nesaf, ta-ra.
Dolenni Defnyddiol
Business in the Community (BITC) (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd)
Comisinydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd)
The Carbon Trust (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd)