Gwobrau Iechyd yn y Gweithle blaenorol
Mae Cymru Iach ar Waith yn darparu cynnig digidol i gyflogwyr yng Nghymru, gydag offer a chyngor ar-lein i helpu cyflogwyr i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.
Deiliaid Blaenorol Gwobrau Iechyd yn y Gweithle
Rydym yn cymeradwyo pob busnes a gyflawnodd un o’n Gwobrau Iechyd yn y Gweithle ac yn eich annog i barhau i ddatblygu a gwella llesiant yn eich gweithle.
Gallwch barhau i ddefnyddio dogfennaeth y fframwaith dyfarnu o’r Gwobrau Iechyd Gweithle Bach (SWHA) a’r Cynllun Iechyd Corfforaethol (CHS) fel cyfeiriadau, ochr yn ochr â’r wybodaeth, y canllawiau a’r adnoddau ar ein gwefan i’ch helpu i wneud hyn.
Rydym hefyd yn datblygu a chyflwyno offer arolwg ar-lein. Byddwch yn gallu eu defnyddio i ddeall anghenion iechyd a llesiant eich sefydliad a’ch gweithlu yn well.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd gan Cymru Iach ar Waith i’w gynnig, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr.
Darganfyddwch fwy am Cymru Iach ar Waith ar ein tudalen ‘amdanom ni‘.
Gallwch hefyd ddarllen mwy am y newidiadau i’r Rhaglen Gweithio’n Iach a ddigwyddodd yn 2023 yn y datganiad gan y gweinidog.
.