Gwobrau Iechyd yn y Gweithle blaenorol
Mae Cymru Iach ar Waith yn darparu cynnig digidol i gyflogwyr yng Nghymru, gydag offer a chyngor ar-lein i helpu cyflogwyr i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.
Deiliaid Blaenorol Gwobrau Iechyd yn y Gweithle
Rydym yn cymeradwyo pob busnes a gyflawnodd un o’n Gwobrau Iechyd yn y Gweithle ac yn eich annog i barhau i ddatblygu a gwella llesiant yn eich gweithle.
Gallwch barhau i ddefnyddio dogfennaeth y fframwaith dyfarnu o’r Gwobrau Iechyd Gweithle Bach (SWHA) a’r Cynllun Iechyd Corfforaethol (CHS) fel cyfeiriadau, ochr yn ochr â’r wybodaeth, y canllawiau a’r adnoddau ar ein gwefan i’ch helpu i wneud hyn.
Rydym hefyd yn datblygu a chyflwyno offer arolwg ar-lein. Byddwch yn gallu eu defnyddio i ddeall anghenion iechyd a llesiant eich sefydliad a’ch gweithlu yn well.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd gan Cymru Iach ar Waith i’w gynnig, tanysgrifiwch i’n e-fwletin.
Darganfyddwch fwy am Cymru Iach ar Waith ar ein tudalen ‘amdanom ni‘.
Gallwch hefyd ddarllen mwy am y newidiadau i’r Rhaglen Gweithio’n Iach a ddigwyddodd yn 2023 yn y datganiad gan y gweinidog (yn agor mewn ffenestr newydd).
.