Mae gofynion iechyd menywod a dynion yn wahanol iawn ar adegau. Ond yn hanesyddol, mae hyn wedi cael ei anwybyddu yn aml yn y gweithle. Mae bron 700,000 o fenywod mewn cyflogaeth yng Nghymru; fodd bynnag, mae llawer yn wynebu heriau iechyd corfforol a meddyliol sy’n effeithio ar eu llesiant, yn ogystal â’u gallu i berfformio ar eu gorau.
Yn aml, nid yw heriau iechyd fel y menopos, materion iechyd meddwl fel iselder ôl-enedigol a phryder am y perimenopos, problemau ffrwythlondeb a chyflyrau fel endometriosis yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr, ond eto gallant gael effaith sylweddol ar fywydau menywod, gan gynnwys yn y gweithle. Gall fod pwysau ychwanegol ar fenywod o reoli cyfrifoldebau gofalu ochr yn ochr â gwaith, boed hynny’n cadw cydbwysedd rhwng gofynion teulu ifanc a/neu ofalu am rieni a pherthnasau oedrannus. Gall hyn hefyd effeithio ar ddynion, ond yn ystadegol, menywod sy’n tueddu i ysgwyddo'r rhan fwyaf o’r cyfrifoldebau gofalu.
Gall cydnabod a darparu cymorth ar gyfer iechyd menywod ddod ag amrywiaeth o fanteision i gyflogwyr, megis cynhyrchiant a pherfformiad gwell, lleihau’r tebygolrwydd o fwy o absenoldeb, neu hyd yn oed colli talent benywaidd gwerthfawr. Mae nifer o gamau y gall cyflogwyr eu cymryd i gefnogi eu staff benywaidd.