Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cynnig mynediad cyflym i fusnesau at wasanaethau therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a therapi seicolegol wedi'u teilwra, i helpu gweithwyr neu unigolion hunangyflogedig i ddychwelyd i'r gwaith neu reoli eu hiechyd tra yn y gwaith. Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi'r rhai sy'n delio â heriau iechyd meddwl neu gyflyrau cyhyrysgerbydol.

Gall gweithwyr gysylltu â'u gwasanaeth lleol yn uniongyrchol i siarad â chynghorydd arbenigol, ac mae cyflogwyr, Meddygon Teulu neu bartïon perthnasol eraill hefyd yn gallu cyfeirio unigolion at y gwasanaeth.

Yn ogystal, mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth a hyfforddiant am ddim i fusnesau yn y sector preifat a'r trydydd sector, llawer ohonynt efallai heb fynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol cynhwysfawr. Mae rhaglen hyfforddi bwrpasol ar gael i helpu cyflogwyr i adnabod anghenion lles eu gweithlu ac i weithredu mesurau wedi'u haddasu i wella lles yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys gweithdai, hyfforddiant a thriniaethau lles wedi'u cynllunio i wella iechyd a chynhyrchiant cyffredinol y gweithwyr.

Gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith trwy gyrchu neu lawrlwytho'r ffeithlun rhyngweithiol isod: