Pan fydd person wedi mynd trwy ddigwyddiad trawmatig, neu’n mynd trwyddo, gall effeithio ar bob rhan o'i fywyd, gan gynnwys ei fywyd gwaith. Mae hyn yn cynnwys trawma a brofir fel plentyn neu berson ifanc wrth dyfu i fyny (a elwir yn brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu ‘ACEs’), yn ogystal â’r hyn a brofwyd fel oedolyn. Mae sawl ffordd y gall cyflogwyr gefnogi eu staff hyd yn oed pan nad ydynt yn gwybod a oes unrhyw un wedi profi trawma.
Yn aml, ni fydd unigolion eisiau rhannu gwybodaeth am drawma’r gorffennol a’r effaith barhaus arnynt. Felly, mae’n bwysig bod cyflogwyr yn creu amgylchedd sy’n ystyriol o drawma sy’n derbyn y gallai unrhyw un fod wedi profi trawma yn eu bywydau.
Y peth pwysicaf yw creu amgylchedd cefnogol yn y gwaith sy'n trin pawb yn deg a chyda pharch. Gall gwahaniaethu, barnu neu drin pobl yn annheg ail-drawmateiddio unigolion. Mae sicrhau bod y sefydliad a phob rheolwr wedi ymrwymo i reoli mewn ffordd deg a thosturiol yn gam cyntaf pwysig. Mae rhagor o wybodaeth am arweinyddiaeth dosturiol ar gael yma.
Mae creu a hyrwyddo llwybrau clir i weithwyr godi materion fel profiad o drawma mewn amgylchedd diogel ac anfeirniadol yn ffordd bwysig arall o roi cymorth i staff; gallai hyn fod yn llwybr ar wahân yn hytrach na mynd trwy eu rheolwyr llinell; bydd cynnig llwybr arall yn golygu y gall unigolion ddewis yr hyn sy'n briodol iddynt bryd hynny.
Mae rhoi’r cyfle i unigolion rannu gwybodaeth am drawma yn bwysig er mwyn gallu eu cynorthwyo i geisio cymorth arbenigol, os yw’n briodol, neu i’w helpu i ddeall sut maent yn ymateb i sefyllfaoedd penodol ac yn rhoi mesurau lliniaru ar waith. Gallai galluogi atebion gweithio’n hyblyg fod yn ffordd arall o gynorthwyo unigolion. Dylid teilwra unrhyw ymateb i anghenion pob unigolyn gan gydnabod y gall ei anghenion amrywio dros amser.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu Pecyn Cymorth TrACE a all helpu sefydliadau i fyfyrio ar eu harferion presennol a datblygu strategaethau i atgyfnerthu dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma a dod yn sefydliad sy’n ystyriol o drawma. Mae rhagor o wybodaeth a’r pecyn cymorth ar gael yma.
Mae'r dudalen we hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei hehangu'n fuan i gynnwys mwy o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau ymarferol ac adnoddau a chyfeirio at wasanaethau.