Mae’r argyfwng costau byw presennol yn fwy na phroblem economaidd - mae’n cyflwyno heriau sylweddol ac eang i iechyd a llesiant unigolion a chymunedau ledled Cymru.
Mae Mind UK yn awgrymu bod perthynas glir rhwng iechyd meddwl ac arian, “Gall iechyd meddwl gwael ei gwneud yn anoddach i bobl ennill arian a’i reoli. A gall poeni am arian waethygu eich iechyd meddwl.”
Mae gan yr argyfwng costau byw y potensial i effeithio ar unigolion mewn nifer o ffyrdd:
Mae’r berthynas rhwng iechyd da a gwaith teg o safon dda yn arwain at fuddiannau cadarnhaol i gyflogeion a’r sefydliadau y maent yn gweithio iddynt. Bellach mae cyfoeth o dystiolaeth sy’n awgrymu y gall amgylchedd gwaith iach wella iechyd a llesiant y gweithlu, ac felly gall weithredu fel dull lliniaru pan fydd argyfwng. Yn ogystal â hynny, gall gweithlu iach sydd wedi’i ysgogi sicrhau ansawdd a chynhyrchiant, sy’n galluogi’r sefydliadau y maent yn gweithio iddynt i oroesi a ffynnu.
Yn ôl y Gwasanaeth Arian a Phensiynau mae yn bron i wyth o bob deg o gyflogeion yn y DU yn poeni am eu problemau ariannol yn y gwaith, gyda’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn nodi bod un o bob pedwar yn dweud bod ganddynt bryderon ariannol sy’n effeithio ar eu gallu i wneud eu gwaith. Hyd yn oed cyn i’r cynnydd sylweddol mewn costau byw ddechrau ymddangos yn y penawdau, roedd un o bob wyth o weithwyr yn y DU eisoes yn byw mewn tlodi. Bellach, bydd llawer mwy yn ei chael yn anodd cynnal safon byw digonol.
Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng cyflogeion iach (yn feddyliol, corfforol ac ariannol) a gwelliannau o ran cynhyrchiant staff, cadw staff, absenoldeb salwch a pherfformiad. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ‘Yr argyfwng costau byw yng Nghymru: Drwy lens iechyd cyhoeddus’. Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg ar yr effeithiau hirdymor y mae unigolion yn eu hwynebu ac yn awgrymu ffyrdd y gall cyflogwyr gynorthwyo i liniaru rhai o’r heriau a wynebant. Mae’r adroddiad yn nodi bod yr argyfwng costau byw hefyd yn cynyddu’r gost o wneud busnes, gan roi nifer o gyflogwyr, yn enwedig busnesau bach, o dan bwysau ychwanegol. Fodd bynnag, gan mai gweithlu sefydliad yw’r ased mwyaf hanfodol iddo o hyd, gall cyflogwyr gefnogi iechyd a llesiant eu cyflogeion, sy’n arwain at effeithiau cadarnhaol ar eu busnesau eu hunain.
Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu wedi datblygu Hyb Costau Byw sy’n cynnwys amrywiaeth o awgrymiadau ac adnoddau i gyflogwyr i gefnogi eu cyflogeion yn ystod yr argyfwng a rheoli canlyniadau tlodi parhaus mewn gwaith. Mae’r Hyb yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer rheolwyr i ddarparu’r cymorth cywir i staff, gan gynnwys dilyniant mewn gwaith, ystyried cyflogau teg a chyflog byw gwirioneddol, ac enghreifftiau o gamau gweithredu gan gyflogwyr o ran llesiant ariannol.
Mae Gwaith Teg yn cael ei ddiffinio gan y Comisiwn Gwaith Teg fel gwaith lle y bydd cyflogeion “yn cael eu gwobrwyo, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli’n deg, bod ganddynt sicrwydd a'u bod yn gallu dod yn eu blaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau’n cael eu parchu”. Mae gan gyflogwyr rôl allweddol i’w chwarae mewn gwella mynediad i waith teg drwy sicrhau eu bod yn cynnig swyddi gyda chyflog teg (gwobrwyo teg), yn cynnwys cyflogeion mewn penderfyniadau am eu gwaith, yn bod yn hyblyg o ran anghenion y cyflogai ac yn darparu amgylcheddau iach. Gall hyn gefnogi cyflogeion i aros mewn gwaith, lleihau'r pwysau arnynt a gwella eu llesiant cyffredinol.
Yn ogystal, credwn y gall cyflogwyr wneud ymdrech ychwanegol i ddeall anghenion ac amgylchiadau eu cyflogeion. Dylent nodi ffyrdd i gefnogi llesiant ariannol eu cyflogeion, a helpu i chwalu unrhyw rwystrau sy’n eu hatal rhag sicrhau cyflog byw gwirioneddol.
Mae’r argyfwng costau byw hefyd yn cynyddu costau i fusnesau, sy’n rhoi nifer o gyflogwyr, a busnesau bach yn arbennig, o dan straen ychwanegol. Yn anffodus, gallai hyn olygu y bydd rhai busnesau yng Nghymru’n gorfod lleihau nifer eu staff, newid arferion gweithio, neu leihau oriau, neu gau'r busnes, gan arwain at ddiweithdra.
Mae tystiolaeth bod colli swydd yn cynyddu ymddygiad afiach (fel smygu ac yfed) ymysg unigolion, yn ogystal ag arwain at fwy o orbryder ac iselder. Mae hyn yn gysylltiedig â mwy o risg o farwolaeth yn sgil hunanladdiad, clefydau sy’n gysylltiedig ag alcohol, trawiad ar y galon a strôc. Mae hefyd yn cael effaith negyddol ar deuluoedd a chymunedau cyflogeion. Gall sicrhau bod y broses o ddileu swyddi yn cael ei rheoli’n dda liniaru’r effeithiau negyddol hyn yn sylweddol.
Mae dileu swydd yn ffurf ar ddiswyddo a allai ddigwydd pan fydd angen i gyflogwyr leihau eu gweithlu. Mae ACAS wedi datblygu proses cam wrth gam i reolwyr sy’n ystyried diswyddo cyflogeion. Yn ogystal, mae SAMARITANS Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i gynorthwyo rheolwyr a chyflogeion eraill i ddatblygu dulliau gweithio tosturiol yn y gwaith i’w cynorthwyo wrth ymdrin â rhywun sy’n profi gofid emosiynol.
Pa fo digwyddiad, fel yr argyfwng costau byw, yn effeithio ar nifer o gyflogeion ar draws amrywiaeth o sectorau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu argymhellion ar gyfer sut y gall cyflogwyr weithio gyda phartneriaid o fewn eu cymunedau i leihau effaith diweithdra torfol. Gall cyflogwyr fod yn rhan o ymateb amlsector sy’n ystyried cefnogaeth ar gyfer ailgyflogi, materion ariannol, ac iechyd a llesiant. Mae’r argymhellion yn awgrymu y dylid talu sylw arbennig i grwpiau penodol, fel gweithwyr hŷn neu weithwyr heb sgiliau, ac estyn cefnogaeth i aelodau’r teulu.
Mae nifer o gamau y gall cyflogwyr eu cymryd i gefnogi cyflogeion i fynd i’r afael â rhai o effeithiau ariannol yr argyfwng costau byw: