Gwybodaeth am brofion sgrinio cyn geni - Geirfa
Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru wrthi’n diweddaru’r wybodaeth a roddir cyn profion. Byddem yn croesawu eich adborth. Cliciwch yma i adolygu’r wybodaeth (link).
Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru (ASW) wrthi’n diweddaru’r wybodaeth a roddir cyn profion sy’n egluro’r gwahanol brofion sgrinio a gynigir yn ystod beichiogrwydd. Er mwyn ein helpu i wella gwybodaeth am brofion sgrinio cyn geni, byddem yn croesawu adborth ar yr wybodaeth wedi’i diweddaru. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod yr wybodaeth yn glir, yn ddefnyddiol, ac yn hawdd ei deall.
Darllenwch yr wybodaeth yn yr adrannau hyn. Cliciwch ar y botwm “Nesaf” ar waelod pob tudalen i symud ymlaen i’r adran nesaf. Pan gyrhaeddwch yr adran olaf, mae dolen i gwblhau’r arolwg byr ar waelod y dudalen. Bydd unrhyw adborth a gawn yn helpu Sgrinio Cyn Geni Cymru i wella’r wybodaeth a roddir i fenywod a theuluoedd ledled Cymru.
Diolch am eich amser a’ch cefnogaeth.
- Amniosentesis – Dyma brawf a ddefnyddir yn ystod beichiogrwydd i ddarganfod a oes gan faban gyflyrau genetig neu etifeddol penodol. Gall roi canlyniad mwy pendant na phrawf sgrinio. Yn ystod y prawf, defnyddir nodwydd i dynnu ychydig bach o hylif amniotig (yr hylif sy’n amgylchynu’ch baban yn y groth). Gall y celloedd sy’n arnofio yn yr hylif hwn gael eu profi am gyflyrau penodol.
- Anemia – Mae anemia yn digwydd pan nad oes digon o gelloedd coch iach na haemoglobin yn y gwaed. Mae celloedd coch y gwaed yn cario ocsigen o amgylch y corff. Pan fydd llai o gelloedd coch y gwaed, mae llai o ocsigen yn cael ei gario o amgylch y corff, a all achosi blinder a diffyg anadl. Gall lefelau isel o haearn, beichiogrwydd neu golli gwaed achosi anemia hefyd.
- Anomaleddau – Mae anomaleddau yn gyflyrau neu wahaniaethau yn natblygiad baban cyn ei eni a all effeithio ar ei iechyd, ei dwf neu sut mae ei gorff yn datblygu. Mae rhai anomaleddau yn ysgafn, ond gall eraill fod yn fwy difrifol.
- Arbenigwr genetig – Dyma weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol mewn geneteg a all ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch cyflyrau genetig a phrofion genetig.
- Brych – Organ yw hon sy’n tyfu yn ystod beichiogrwydd. Mae’n cyflenwi ocsigen a maetholion i’r baban ac yn cael gwared ar wastraff trwy’r llinyn bogail.
- Canlyniad adweithiol – Mae canlyniad adweithiol yn golygu bod angen profion pellach i gadarnhau eich canlyniad.
- Canlyniad positif anghywir – Canlyniad positif anghywir yw pan fydd canlyniad yn awgrymu y gallai fod cyflwr ar berson, ond mae profion pellach yn dangos nad yw’r cyflwr arnynt.
- Celloedd coch y gwaed – Mae gan waed gelloedd gwyn, celloedd coch a phlatennau. Mae celloedd coch y gwaed yn cario ocsigen o amgylch y corff. Mae ocsigen yn helpu organau a chyhyrau’r corff i weithio’n iawn.
- Cludydd – Rhywun sy’n cario genyn crymangelloedd ond nad oes ganddo anhwylder clefyd y crymangelloedd fel arfer yw cludydd. Mae’r rhan fwyaf o gludyddion yn iach. Gall cludydd drosglwyddo genyn y crymangelloedd i’w blant hyd yn oed os yw’n iach fel arfer ac nad oes ganddo’r cyflwr.
- Cromosomau – Mae cromosomau yn strwythurau bach tebyg i edau a geir y tu mewn i’r rhan fwyaf o gelloedd yn y corff. Maent yn cynnwys genynnau, sy’n cario’r wybodaeth sy’n pennu sut mae ein corff yn tyfu, yn datblygu ac yn gweithredu.
- Croth – Mae’r groth (yr wterws) yn organ y tu mewn i gorff menyw lle mae baban yn tyfu ac yn datblygu yn ystod beichiogrwydd.
- Cyfrif gwaed llawn – Mae hyn yn mesur nifer y celloedd gwaed yn eich gwaed i wirio am gyflyrau gwaed fel anemia diffyg haearn.
- DNA – DNA yw’r wybodaeth enetig y tu mewn i gelloedd y corff sy’n cario’r cyfarwyddiadau ar gyfer sut mae’r corff yn tyfu ac yn gweithio.
- Ectopig – Mae beichiogrwydd ectopig yn digwydd pan fydd wy wedi’i ffrwythloni yn mewnblannu y tu allan i’r groth, yn un o’r tiwbiau ffalopaidd fel arfer.
- Etifeddol – Dyma pan fydd nodwedd, rhinwedd neu gyflwr yn cael ei drosglwyddo o rieni biolegol i’w plant trwy enynnau. Gall hyn gynnwys lliw llygaid, lliw gwallt a rhai cyflyrau iechyd.
- Gwefus hollt – Mae hollt yn fwlch neu’n hollt yn y wefus uchaf neu yn nhaflod y genau, neu’r ddau. Mae’n bresennol o enedigaeth.
- Gwrthgyrff – Proteinau a geir yn rhan hylifol y gwaed (plasma) yw gwrthgyrff. Maent yn rhan o system amddiffyn naturiol eich corff, a elwir hefyd yn system imiwnedd. Mae gwrthgyrff yn helpu i amddiffyn y corff trwy ymladd yn erbyn pethau dieithr i’r corff, fel germau a feirysau. Mae gwrthgyrff yn helpu i gadw pobl yn iach trwy ymladd yn erbyn heintiau.
- Newidiadau strwythurol – Gellir gweld newidiadau strwythurol ar sgan uwchsain. Gallant olygu nad yw rhan o gorff y baban yn datblygu yn ôl y disgwyl.
- Samplu filws corionig (CVS) – Prawf a ddefnyddir yn ystod beichiogrwydd yw CVS i ddarganfod a oes gan faban gyflyrau genetig neu etifeddol penodol. Yn ystod y prawf, defnyddir nodwydd i dynnu rhywfaint o feinwe o’r brych. Gall CVS roi canlyniad mwy pendant na phrawf sgrinio.
- Sgan trawsweiniol – Dyma sgan uwchsain pan fydd chwiliedydd bach yn cael ei osod yn ofalus yn y wain, gyda’ch caniatâd, i greu delweddau manwl o feichiogrwydd neu strwythurau eraill y tu mewn i’r corff.
- Syndrom Down – Mae syndrom Down yn cael ei achosi fel arfer gan gopi ychwanegol o gromosom 21 ym mhob cell neu mewn rhai celloedd. Fel arfer, mae gan unigolion sydd â syndrom Down 47 cromosom yn lle’r 46 arferol.
- Syndrom Edwards – Mae syndrom Edwards yn cael ei achosi gan gopi ychwanegol o gromosom 18 ym mhob cell neu mewn rhai celloedd. Mae gan unigolion sydd â syndrom Edwards 47 cromosom yn lle’r 46 arferol.
- Syndrom Patau – Fel arfer, mae syndrom Patau yn cael ei achosi gan gopi ychwanegol o gromosom 21 ym mhob cell neu mewn rhai celloedd. Fel arfer, mae gan unigolion sydd â syndrom Patau 47 cromosom yn lle’r 46 arferol.
- Tarddiad – O ble mae eich teulu yn dod yw hyn, gan gynnwys eu llinach, eu treftadaeth neu eu man geni. Mae’n wahanol i ethnigrwydd, sef y grŵp ethnig rydych chi’n uniaethu ag ef.
- Tonnau sain – Mae tonnau sain yn cael eu defnyddio mewn sganiau uwchsain. Maent yn teithio i’r corff ac yn bownsio’n ôl (atseinio) o wahanol feinweoedd ac organau. Mae’r atseiniau hyn yn cael eu codi gan y chwiliedydd uwchsain ac yn cael eu troi’n ddelweddau o’r baban a strwythurau eraill y tu mewn i’r groth.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27ain Tachwedd 2026