Profi ar gyfer HIV yng Nghymru ar ei lefel uchaf ers 2020
Cyhoeddwyd ar: 26 Tach 2026
Mae’r ffigurau diweddaraf yn adroddiad blynyddol Tueddiadau mewn atal, diagnosis a thrin HIV yng Nghymru yn dangos bod ffigurau profi ar gyfer HIV yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefel uchaf ers 2020. Mae cyfraddau trin ac atal y feirws wedi rhagori ar dargedau cenedlaethol.
Profwyd cyfanswm o 132,449 o bobl yn 2025 – sef cynnydd o 4.3% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn dangos bod Cymru’n cyrraedd dau o dargedau UNAIDS 95-95-95 ar gyfer trin HIV. Roedd 99% o 2,522 o gleifion yn derbyn therapi gwrth-retrofeirysol (ART), sy’n rhagori ar y targed o 95%.
Meddyginiaeth a ddefnyddir i drin HIV yw therapi gwrth-retrofeirysol ac mae’n helpu pobl sy’n byw gyda’r feirws i gynnal eu hiechyd. Gall triniaeth effeithiol leihau HIV i lefelau na ellir eu canfod, sy’n golygu na ellir ei drosglwyddo trwy ryw.
Ymhlith y rhai a oedd yn derbyn triniaeth lle’r oedd gwybodaeth am lwyth feirysol ar gael, roedd gan 97% lwyth feirysol o 200 copi/ml neu is, sy’n dynodi ataliad feirysol ac yn rhagori ar y targed o 95%.
Nod targedau UNAIDS 95-95-95 yw sicrhau bod 95% o bobl sy’n byw gyda HIV yn gwybod eu statws HIV, bod 95% o’r rhai sy’n cael diagnosis yn derbyn triniaeth a bod 95% o’r rhai sy’n derbyn triniaeth yn cyflawni ataliad feirysol.
Mae nifer y bobl sy’n derbyn proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP), meddyginiaeth sy’n atal HIV, wedi cynyddu 17% ers 2021.
Mae mwy na 6,391 o bobl wedi cael presgripsiwn PrEP yng Nghymru ers 2021. Cynyddodd nifer yr unigolion a oedd yn derbyn y feddyginiaeth bob blwyddyn rhwng 2021 a 2024. Meddyginiaeth yw PrEP a gymerir gan bobl HIV-negatif i leihau eu risg o gael HIV.
Roedd 82 o ddiagnosisau newydd o HIV ymhlith trigolion Cymru yn 2025, sef cynnydd o 4% ar y flwyddyn flaenorol.
Roedd nifer yr achosion o bobl yn byw gyda HIV yng Nghymru yn 79.9 fesul 100,000 o’r boblogaeth yn 2025. Roedd hyn yn is na’r cyfraddau a gofnodwyd yn Lloegr (180.4 fesul 100,000) a’r Alban (104.2 fesul 100,000).
Gall unrhyw un sy’n pryderu am HIV a’u hiechyd rhywiol gael mynediad at gyngor, profion a chymorth am ddim a chyfrinachol trwy GIG Cymru.
Am ragor o wybodaeth, chwiliwch am ‘Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu‘ neu ‘ HIV‘ ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.