Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Cynllun Peilot Helwyr Heintiau yng Nghymru – Gwerthusiad 2025 i 2026

Manylion:

Awduron: Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy

Cyhoeddwyd ar: 23ain Tachwedd 2026

Mae’r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn rhaglen iechyd y cyhoedd genedlaethol sy’n anelu at amddiffyn cymunedau trwy gynyddu’r nifer sy’n cael brechlynnau a lleihau clefydau y gellir eu hatal drwy frechu.

Mae’r tîm ymgysylltu â’r cyhoedd yn darparu cipolwg o’r ymgysylltu a wnaed â’r cyhoedd yng Nghymru i ddeall yr hwyluswyr a’r rhwystrau i dderbyn brechlynnau yng Nghymru.

Cefndir

Mae Helwyr Heintiau yn rhaglen addysg sy’n seiliedig ar gemau a ddatblygwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Mae’n dysgu pobl ifanc 10-12 oed am frechu, clefydau heintus a’r system imiwnedd dros 6 modiwl. Mae pobl ifanc yn dweud mai’r ysgol yw’r lle gorau iddyn nhw ddysgu am frechiadau. Yn ystod y cyfnod peilot fe wnaeth 33 o ysgolion ddangos diddordeb mewn cofrestru ar gyfer Helwyr Heintiau, a chwblhaodd 5 ysgol gyda 188 o ddisgyblion y rhaglen hyfforddiant lawn.

Pobl ifanc

I ddarganfod a oedd yr Helwyr Heintiau wedi helpu pobl ifanc i ddysgu, fe wnaethom roi cwis gwybodaeth iddyn nhw cyn ac ar ôl y gêm er mwyn mesur eu dysgu. Dywedodd hyn wrthym fod Helwyr Heintiau yn cynyddu gwybodaeth y disgyblion ac yn ffordd effeithiol o ddysgu. Roedd gan rai modiwlau effaith ddysgu fwy -roedd y rhain yn cynnwys dysgu am imiwnedd torfol a datblygu brechlynnau. Ar ddiwedd y rhaglen roedd gan bobl ifanc hefyd mwy o awydd i ddysgu am eu hiechyd.

Athrawon

Dywedodd athrawon wrthym fod Helwyr Heintiau wedi helpu i wella eu hyder wrth drafod brechu; gwella gwybodaeth y bobl ifanc; a pharhaodd y disgyblion i ymgysylltu â’r gweithgareddau a oedd yn seiliedig ar gemau. Mae athrawon yn credu bod Helwyr Heintiau yn cysylltu’n dda â’r cwricwlwm o fewn gwyddoniaeth, iechyd a lles. Roeddent yn hoffi bod y platfform ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

“Roedd y disgyblion yn dal i siarad am yr hyn roedden nhw wedi’i ddysgu…..”

“…Byddwn i’n sicr o’i gyflwyno eto’r flwyddyn nesaf”

Argymhellion

  • Argymell Helwyr Heintiau ledled Cymru i gefnogi llythrennedd brechu mewn ysgolion.
  • Datblygu’r pecyn cymorth ac adnoddau addysg ar gyfer athrawon.
  • Gweithio gyda rhwydweithiau ysgolion a byrddau iechyd er mwyn cefnogi defnydd pellach o Helwyr Heintiau ledled Cymru.
  • Os na all ysgolion gyflwyno’r rhaglen lawn amlygwch y modiwlau mwyaf effeithiol i’w cyflwyno.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Cynllun Peilot Helwyr Heintiau yng Nghymru - Gwerthusiad 2025 i 2026

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Cynllun Peilot Helwyr Heintiau yng Nghymru - Gwerthusiad 2025 i 2026 (1 MB)

Llawrlwytho PDF