Neidio i'r cynnwys

Fideos gwybodaeth am fwydo ar y fron

Mae ein fideos byr yn esbonio sut y gall pobl mewn rolau sy’n wynebu’r cyhoedd gefnogi bwydo ar y fron mewn ffordd gefnogol, heb farnu.

  • Fideo 1: Pam mae Bwydo ar y Fron yn Bwysig?

    Mae Fideo 1 yn cyflwyno bwydo ar y fron, ac yn tynnu sylw at y manteision i famau a babanod a phwysigrwydd creu amgylcheddau croesawgar sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron. Ei nod yw meithrin gwybodaeth a hyder, a grymuso pawb i gefnogi mamau sy’n bwydo ar y fron a’u teuluoedd mewn ffordd gadarnhaol a chynhwysol.

  • Fideo 2: Bwydo ar y Fron 101

    Mae Fideo 2 yn archwilio sut mae bwydo ar y fron yn gweithio, ac yn darparu ffeithiau allweddol ac ymdrin â mythau a chamsyniadau cyffredin. Ei nod yw gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth, gan eich helpu i deimlo’n fwy gwybodus a hyderus wrth gefnogi mamau sy’n bwydo ar y fron a’u teuluoedd.

  • Fideo 3: Beth sy’n helpu ac yn rhwystro rhieni sy’n bwydo ar y fron?

    Mae Fideo 3 yn rhoi awgrymiadau a syniadau ymarferol ar sut i gefnogi rhieni sy’n bwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus. Mae’n archwilio camau syml y gall staff eu cymryd i greu amgylcheddau croesawgar, cyfforddus a chynhwysol, ac yn helpu mamau sy’n bwydo ar y fron a theuluoedd i deimlo’n hyderus, ac i deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cefnogi.

  • Fideo 4: Ymdrin ag anghysur neu gwynion

    Mae Fideo 4 yn archwilio sut i ymateb yn hyderus ac yn broffesiynol i agweddau negyddol, gwrthwynebiadau neu gwynion am fwydo ar y fron yn gyhoeddus. Drwy senarios ymarferol ac ymatebion awgrymedig, byddwch yn dysgu sut mae rheoli sefyllfaoedd heriol gyda sensitifrwydd a pharch. Mae hefyd yn cyflwyno’r cysyniad o arweinyddiaeth dawel a sut y gall gweithredoedd bach, cadarnhaol helpu i greu amgylchedd cefnogol sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron.

  • Fideo 5: Cefnogi a chyfeirio

    Mae Fideo 5 yn tynnu sylw at y ffaith nad yw cefnogi teuluoedd sy’n bwydo ar y fron yn golygu bod angen i chi fod yn arbenigwr neu bod gennych yr holl atebion. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd gwybod ble i gyfeirio rhieni am ragor o wybodaeth a chefnogaeth, a sut y gall rhyngweithiadau bach, cadarnhaol wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu teuluoedd sy’n bwydo ar y fron i deimlo eu bod yn cael croeso, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

  • Fideo 6: Eich rôl a myfyrdod

    Mae Fideo 6 yn eich annog i fyfyrio ar yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu drwy gydol yr hyfforddiant, ac i ddefnyddio cwestiynau agored i archwilio eich dealltwriaeth, agweddau a phrofiadau. Ei nod yw meithrin hyder ac annog staff i roi eu dysgu ar waith, a helpu i greu amgylchedd croesawgar a chefnogol i deuluoedd sy’n bwydo ar y fron.