Neidio i'r cynnwys

Cynlluniau Croesawu Bwydo ar y Fron yng Nghymru

Cefnogi amgylcheddau croesawgar i deuluoedd bwydo ar y fron ledled Cymru.

Beth yw Cynlluniau Croesawu Bwydo ar y Fron?

Mae Cynlluniau Croesawu Bwydo ar y Fron yn annog busnesau, sefydliadau a lleoliadau cymunedol i greu amgylcheddau croesawgar, cynhwysol a chefnogol lle mae mamau’n teimlo’n gyfforddus ac yn hyderus yn bwydo eu babanod ar y fron.

Mae’r cynlluniau’n helpu i normaleiddio bwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus drwy hyrwyddo agweddau cadarnhaol, codi ymwybyddiaeth ac annog staff i roi croeso cefnogol.

Beth yw pwrpas y cynlluniau?

Nod Cynlluniau Croesawu Bwydo ar y Fron yw:

  • Creu diwylliant lle mae bwydo ar y fron yn cael ei groesawu, ei gefnogi a’i werthfawrogi.
  • Cynyddu hyder ymhlith mamau i fwydo ar y fron pryd a lle mae angen iddynt wneud hynny.
  • Annog busnesau, sefydliadau a lleoliadau cymunedol i ddangos eu hymrwymiad i gefnogi bwydo ar y fron.
  • Codi ymwybyddiaeth o hawliau cyfreithiol mamau i fwydo ar y fron yn gyhoeddus.
  • Hyrwyddo negeseuon cyson a chadarnhaol am fwydo ar y fron ledled Cymru.

Ar gyfer pwy mae’r cynlluniau?

  • Mamau a theuluoedd – eu helpu i nodi lleoedd lle mae bwydo ar y fron yn cael ei groesawu a’i gefnogi.
  • Busnesau a lleoliadau cymunedol – yn darparu cyfleoedd i ddangos eu hymrwymiad i amgylcheddau sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron.
  • Byrddau Iechyd a phartneriaid lleol – yn cefnogi datblygu, gweithredu a hyrwyddo Cynlluniau Croesawu Bwydo ar y Fron lleol.
  • Sefydliadau cenedlaethol – yn annog dull cyson o gefnogi bwydo ar y fron ledled Cymru.

Sefydlu Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Lleol

Canllawiau i Fyrddau Iechyd a phartneriaid lleol

Gall Byrddau Iechyd ledled Cymru ddatblygu a chyflwyno Cynlluniau Croesawu Bwydo ar y Fron lleol i gefnogi cymunedau sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron yn eu hardaloedd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu canllawiau, adnoddau ymarferol a chymorth i helpu Byrddau Iechyd i sefydlu cynlluniau newydd neu gryfhau trefniadau presennol.

Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i gefnogi dull cyson o ymdrin ag egwyddorion croesawu bwydo ar y fron ac yn galluogi hyblygrwydd i ddiwallu anghenion lleol.

Adnoddau i gefnogi eich cynllun lleol

Gellir darparu ystod o adnoddau y gellir eu golygu i helpu Byrddau Iechyd i ddatblygu, lansio a rheoli eu cynlluniau lleol.

  • Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron: Siarter Sefydliadol

    Mae’r llyfryn hwn yn rhoi manylion am hawliau cyfreithiol mamau i fwydo ar y fron yma yn y DU, pam mae’r cynllun croesawu bwydo ar y fron yn bwysig, y manteision i gwmnïau sy’n ymuno â’r cynllun, manteision bwydo ar y fron i famau a theuluoedd, yr hyn y mae busnesau’n ymrwymo iddo a’r wybodaeth am ymuno.

  • Polisi Enghreifftiol ar gyfer Croesawu Bwydo ar y Fron

    Mae’r adnodd hwn yn rhoi gwybodaeth i’ch sefydliadau am sut mae strwythuro ac ysgrifennu polisi ar gyfer eich cynllun croesawu bwydo ar y fron.

  • Poster Staff Croesawu Bwydo ar y Fron

    Mae’r poster hwn i roi gwybodaeth i staff yn eich sefydliadau am beth yw’r cynllun croesawu bwydo ar y fron, beth sydd angen iddynt ei wybod, pam ei fod yn bwysig a sut mae eu rôl yn gwneud gwahaniaeth.

Lawrlwythwch ac addaswch yr adnoddau i adlewyrchu trefniadau eich Bwrdd Iechyd lleol gan gynnal egwyddorion cyffredin Cynlluniau Croesawu Bwydo ar y Fron yng Nghymru.

Cymorth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor a chymorth i Fyrddau Iechyd sydd â diddordeb mewn sefydlu neu ddatblygu Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron lleol.

I gael rhagor o wybodaeth, mynediad at adnoddau y gellir eu golygu neu gymorth gyda gweithredu lleol, cysylltwch â:

[email protected]

Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Cenedlaethol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydlynu’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Cenedlaethol, ac yn darparu dull cyson ar gyfer sefydliadau cenedlaethol sy’n dymuno dangos eu hymrwymiad i gefnogi bwydo ar y fron ledled Cymru.

Mae sefydliadau sy’n ymuno â’r cynllun cenedlaethol yn cytuno i hyrwyddo amgylchedd croesawgar, sicrhau bod staff yn deall eu cyfrifoldebau a gwneud i deuluoedd sy’n bwydo ar y fron deimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Adnoddau:

  • Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Siarter Sefydliadol

    Mae’r llyfryn hwn yn rhoi manylion am hawliau cyfreithiol mamau i fwydo ar y fron yma yn y DU, pam mae’r cynllun croesawu bwydo ar y fron yn bwysig, y manteision i’ch busnes, y manteision i famau a theuluoedd, yr hyn y mae’r cynllun yn ei ddisgwyl gennych chi fel eich sefydliad a’r wybodaeth am ymuno â’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Cenedlaethol.

  • Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron: Cenedlaethol Poster Polisi 

    Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau a pholisi bwydo ar y fron enghreifftiol ar gyfer sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Cenedlaethol. Mae’n amlinellu cyfrifoldebau staff, sut i greu amgylchedd croesawgar i famau sy’n bwydo ar y fron, a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â phryderon neu gwynion. Dylai sefydliadau addasu’r templed i gyd-fynd â’u safleoedd, ei rannu gyda’r holl staff, ei arddangos lle bo’n briodol, a’i adolygu’n flynyddol.

  • Poster Staff Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Cenedlaethol

    Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyflwyniad byr i’r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Cenedlaethol ac yn egluro’r rôl bwysig y mae staff yn ei chwarae wrth greu amgylcheddau sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron. Mae’n tynnu sylw at hawliau cyfreithiol mamau sy’n bwydo ar y fron, manteision iechyd bwydo ar y fron, a sut y gall staff gynnig profiad croesawgar a chefnogol. Dylid ei rannu gyda staff i godi ymwybyddiaeth, annog agweddau cadarnhaol, a’u cyfeirio at adnoddau a hyfforddiant pellach.

  • Poster Croeso i Gwsmeriaid y Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Cenedlaethol

    Gellir arddangos y poster hwn ledled eich lleoliad i sicrhau mamau a theuluoedd eu bod mewn amgylchedd croesawgar, cefnogol a chyfeillgar i fwydo ar y fron.

Mae’r holl adnoddau hefyd ar gael mewn fformatau sy’n barod i’w hargraffu. I ofyn am y fersiynau hyn, cysylltwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru [email protected].