Cyhoeddi adroddiad blynyddol CARIS 2026
Cyhoeddwyd ar: 10 Tach 2026
Yn ôl ystadegau blynyddol diweddaraf Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid (CARIS) Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cyfradd y babanod a enir ag anomaleddau cynhenid yng Nghymru wedi gostwng yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, tra bo goroesiad hyd at eu pen-blwydd yn flwydd oed wedi aros yn sefydlog.
Mae’r adroddiad yn mesur nifer y babanod ag anomaledd am bob 10,000 o enedigaethau, gan ystyried gostyngiad yn nifer y genedigaethau yng Nghymru.
Ymhlith babanod a aned yn fyw ag anomaleddau cynhenid, goroesodd 96.4 y cant tan eu pen-blwydd yn flwydd oed yn 2016–2025, sy’n debyg i’r 96.8 y cant a gofnodwyd ar draws y cyfnod cyfan ers 1998 pan ddechreuwyd CARIS.
Mae cyfraddau goroesi yn amrywio’n sylweddol yn dibynnu ar y math o anomaledd ac a oes gan faban un neu fwy o anomaleddau.
Mae CARIS yn darparu data dibynadwy ar bob anomaledd cynhenid yng Nghymru, megis diffygion y galon, gwefus a thaflod hollt a cholled clyw. Mae wedi ehangu i gynnwys clefydau prin yn ystod plentyndod fel clefyd Kawasaki, clefyd Behcet a chlefyd Perthes.
Mae ei adroddiadau blynyddol yn helpu i feithrin dealltwriaeth o’r cyflyrau hyn a’r gefnogaeth sydd ei hangen ar fabanod a’u teuluoedd.
Gellir darllen yr adroddiad llawn yma.