Neidio i'r cynnwys

Anogir grwpiau cymwys i gael eu brechu wrth i dymor y ffliw ddechrau 

Cyhoeddwyd ar: 06 Tach 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n annog pob grŵp cymwys, yn enwedig pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a’r rhai 65 oed â hŷn, i gael eu brechu cyn gynted â phosibl ar ôl i dystiolaeth ddangos bod y ffliw ar led. 

Mae’r data gwyliadwriaeth diweddaraf o bob cwr o Gymru’n dangos bod gweithgarwch ffliw yn cynyddu a bod y tymor ffliw wedi dechrau. 

Mae lefelau’r ffliw yn parhau’n isel ar hyn o bryd, ond disgwylir i nifer yr achosion godi dros yr wythnosau nesaf. Mae tymor y ffliw fel arfer yn dechrau tua diwedd mis Tachwedd neu ddechrau mis Rhagfyr. Mae tymor eleni wedi dechrau’n gynharach nag arfer, ond ddim mor gynnar â’r llynedd. 

Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i oedolion hŷn a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor fel asthma, diabetes, neu glefyd cronig y galon. Gall hyn eu gwneud yn fwy agored i gymhlethdodau, oherwydd feirysau’r ffliw. 

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ffliw bellach yn cylchredeg ledled Cymru ac ychydig yn gynharach nag y byddai disgwyl fel arfer. 

“Er bod tymor y ffliw wedi dechrau’n gynnar, mae amser o hyd i gael eich brechlyn ffliw cyn i ni gyrraedd uchafbwynt y cylchrediad. Mae’r brechlyn ffliw yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun rhag y tri math o ffliw sy’n cylchredeg bob blwyddyn. 

“Mae sawl feirws ffliw yn cylchredeg bob gaeaf, ond ar hyn o bryd rydym yn gweld ffliw A(H1) ac A(H3), gyda mwy o achosion o A(H1) wedi’u cadarnhau hyd yma. Gall A(H1) effeithio’n fwy ar bobl iau, gan gynnwys plant, menywod beichiog a’r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol, tra bod A(H3) wedi’i gysylltu’n hanesyddol â lefelau uwch o salwch mewn oedolion hŷn a lleoliadau cartrefi gofal. Gan fod y ddau feirws yn cylchredeg, mae’n bwysig bod pawb sy’n gymwys yn manteisio ar y cynnig o frechlyn ffliw i gael yr amddiffyniad gorau posibl.  

“Gan ein bod yn gweld y ddau feirws hyn yn cylchredeg ar yr un pryd ar hyn o bryd, gan effeithio ar wahanol rannau o’r boblogaeth, mae’n bwysig bod pawb sy’n gymwys yn cael eu brechlyn ffliw er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt gael eu hamddiffyn.” 

“Bydd llawer o bobl hefyd yn gymwys i gael brechiadau eraill i helpu atal heintiau sy’n fwy cyffredin yn ystod y gaeaf, gan gynnwys COVID-19 a Feirws Syncytiol Anadlol (RSV). Gyda’i gilydd mae’r brechlynnau hyn yn rhoi’r amddiffyniad gorau yn erbyn y feirysau sy’n achosi i lawer o bobl gael eu derbyn i’r ysbyty ac yn rhoi pwysau ar adnoddau’r GIG y gaeaf hwn.”  

“Mae brechu’n un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gadw’n iach, ond mae’n gweithio orau ochr yn ochr â chamau syml eraill sy’n helpu i atal feirysau rhag lledaenu.” Golchi dwylo’n rheolaidd, gorchuddio peswch a thisian, aros gartref pan fyddwch yn sâl, a gadael awyr iach i mewn i fannau dan do. 

Cynigir y brechlyn ffliw bob blwyddyn i helpu i amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol. Mae’n arbennig o bwysig i oedolion hŷn, preswylwyr a staff cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, plant ifanc, y rhai â chyflyrau iechyd penodol fel asthma a diabetes a menywod beichiog, oherwydd bod y ffliw yn ystod beichiogrwydd yn gallu cael effeithiau difrifol ar iechyd menywod beichiog a babanod. 

Mae’r rhai sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn cynnwys pobl 65 oed a hŷn, pobl rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor, menywod beichiog, gofalwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a phobl sy’n byw mewn cartrefi gofal. Mae plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2025) hefyd yn gymwys, ac mae disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd (dosbarth derbyn i flwyddyn 11) yn cael cynnig y brechlyn ffliw drwy ysgolion.