Neidio i'r cynnwys

Ynghylch AMR a’r pecyn cymorth cyfathrebu ymwrthedd gwrthficrobaidd

Ymwrthedd Gwrthficrobiaid (AMR) yw un o’r bygythiadau mwyaf i iechyd y cyhoedd. Mae’n digwydd pan fydd bacteria, feirysau, ffyngau a pharasitiaid yn newid dros amser ac nad ydynt bellach yn ymateb yn effeithiol i feddyginiaethau, gan wneud heintiau’n anoddach i’w trin a chan gynyddu’r risg o salwch difrifol.

Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i ddatblygu i helpu sefydliadau i godi ymwybyddiaeth o AMR a rhannu camau gweithredu syml a all helpu i ddiogelu effeithiolrwydd gwrthfiotigau. Mae’n cynnwys negeseuon ac adnoddau parod i’w defnyddio sy’n ymdrin â beth yw AMR, sut mae’n lledaenu a’r rôl y gall unigolion ei chwarae wrth fynd i’r afael ag ef.

Mae gan y pecyn cymorth adnoddau hefyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel canllawiau a deunyddiau dysgu.

Defnyddiwch y deunyddiau hyn ar draws eich sianeli cyfathrebu i helpu pobl i ddeall bygythiad cynyddol AMR a’r camau y gallant eu cymryd i fynd i’r afael ag ef. Drwy godi ymwybyddiaeth heddiw, gallwn helpu i ddiogelu effeithiolrwydd gwrthfiotigau i ni ein hunain, i’n cymunedau ac i genedlaethau’r dyfodol.