Cymru’n dod at ei gilydd i gymryd rhan mewn parkrun ar gyfer diabetes – y digwyddiad cenedlaethol cyntaf o’i fath
Cyhoeddwyd ar: 02 Tach 2026
Mae pobl ledled Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y fenter genedlaethol gyntaf o’i math, sef parkrun ar gyfer diabetes, a hynny ddydd Sadwrn 14 Tachwedd. Bydd yn dod â chymunedau, sefydliadau gofal iechyd ac elusennau ynghyd i annog pobl i fod yn egnïol a dysgu rhagor am ddiabetes.
Cafodd y digwyddiad ei ddatblygu drwy gydweithrediad Diabetes UK Cymru, byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n rhan o’r rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Gyda’n Gilydd, a gefnogir gan parkrun yng Nghymru. Mae partneriaid yn gobeithio y bydd y fenter yn annog pobl o bob oed a gallu i gymryd camau cadarnhaol tuag at iechyd gwell, a thynnu sylw at y rôl y gall gweithgarwch corfforol ei chwarae wrth atal diabetes math 2, cefnogi pobl sy’n byw gyda phob math o ddiabetes a lleihau’r risg o gymhlethdodau hirdymor.
Bydd digwyddiadau penodol yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:
- Penallta, Ystrad Mynach
- Llwybr yr Hen Reilffordd, Llangollen
- Parc Trelái, Caerdydd
- Pontypridd
- Parc Dewi Sant, Caerfyrddin
- Y Drenewydd
- Y Gnoll, Castell-nedd
Gall pobl hefyd gymryd rhan mewn unrhyw parkrun neu parkwalk lleol ledled Cymru.
Mae croeso i bawb, p’un a ydych chi’n dewis cerdded, loncian, gwirfoddoli neu alw heibio dim ond i ddangos cefnogaeth.
Mae diabetes yn effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl ledled Cymru, ac mae’r niferoedd yn parhau i gynyddu. Er y gall gweithgarwch corfforol helpu i leihau’r risg o ddatblygu diabetes math 2, mae hefyd yn rhan bwysig o fyw’n dda gyda diabetes a gall helpu i leihau’r risg o gymhlethdodau difrifol.
Dywedodd Sean Newton, Rheolwr Ymgysylltu a Newid Systemau Gofal Iechyd, Diabetes UK Cymru:
“Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru ar y digwyddiad diabetes cenedlaethol hwn, yr un cyntaf o’i fath.
“Er bod profiad pawb o ddiabetes yn wahanol, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd, i fod yn egnïol ac i gefnogi ei gilydd. P’un a ydych chi’n byw gyda diabetes, yn awyddus i leihau eich risg o gael diabetes math 2, neu am wella eich iechyd yn unig, mae croeso i bawb.
“Yn ogystal ag annog pobl i fod yn egnïol, mae’r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o ddiabetes, tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael, ac atgoffa pobl o symptomau diabetes math 1 – Toiled, Teimlo’n Sychedig, Teimlo’n Flinedig, Teneuach; sef y 4T.”
Dywedodd David Taylor, Cyfarwyddwr Trawsnewid y Rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Gyda’n Gilydd:
“Mae tua un o bob pump oedolyn yng Nghymru bellach yn byw gyda diabetes. Mae hyn yn golygu ei fod yn un o’r heriau iechyd y cyhoedd mwyaf arwyddocaol sy’n wynebu ein cenedl.
“Y newyddion da yw bod llawer o’r camau gweithredu sy’n helpu i atal diabetes math 2 ac sy’n cefnogi pobl i fyw’n dda gyda diabetes yn bethau y gallwn ni eu hymgorffori yn ein bywydau bob dydd.
“Mae’r digwyddiad hwn ynglŷn â gwneud y camau gweithredu hynny’n weladwy, yn gyraeddadwy ac yn hygyrch. Mae hefyd yn gyfle i helpu pobl i ddeall eu risg o gael diabetes math 2 a’r gefnogaeth sydd ar gael ar bob cam. I’r rhai sydd newydd gael diagnosis, mae ein hadnodd cenedlaethol newydd, Pwynt Diagnosis, yn rhoi gwybodaeth glir ac ymarferol i helpu pobl i gymryd eu camau cyntaf tuag at fyw’n dda gyda diabetes math 2.
“Drwy ddod â chymunedau ynghyd ledled Cymru, rydym yn dangos y gall gwella ein hiechyd ddechrau gyda rhywbeth mor syml â mynd am dro.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans:
“Diabetes math 2 yw un o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf sy’n wynebu Cymru ac, fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i greu’r math o amgylcheddau iach sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl fod yn egnïol a chynnal pwysau iach, gan leihau’r risg o ddiabetes a chyflyrau difrifol eraill.
“Dyna pam mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig: maen nhw’n dangos i bobl nad oes angen i fod yn egnïol fod yn gymhleth nac yn frawychus, gall ddechrau drwy gerdded o gwmpas eich parc lleol. Rwy’n falch bod Cymru ar flaen y gad gyda’r fenter genedlaethol hon, a byddwn yn annog pobl ledled y wlad i gymryd rhan, waeth beth fo’u cyflymder neu eu gallu.
Dywedodd Chris Davies, Cydlynydd Cenedlaethol Cymru, parkrun UK:
“Mae parkrun a parkwalk ynglŷn â gwneud gweithgarwch corfforol yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn hygyrch.
“Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr i gymryd rhan. Bob wythnos, mae pobl yn cerdded, loncian, gwirfoddoli ac yn cefnogi ei gilydd mewn cymunedau ledled Cymru.
“Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK i annog mwy o bobl i ddarganfod manteision bod yn egnïol a chysylltu ag eraill.”
Gall pobl sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ymuno ag un o’r digwyddiadau penodol neu ddod o hyd i’r parkrun neu parkwalk lleol sydd agosaf atyn nhw drwy wefan parkrun.
Gall pobl ddysgu rhagor am y risg o gael diabetes a ffyrdd o leihau’r risg o’i gael drwy chwilio; lleihau fy risg o ddiabetes math 2 Cymru
Ac i’r rhai sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2, gellir dod o hyd i’r adnodd newydd drwy chwilio: byw yn dda gyda diabetes Math 2