Adroddiadau
Iechyd unigolion sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd yng Nghymru, yn ystod y pandemig COVID-19
Manylion:
Awduron: Jiao Song, Chris Moreno-Stokoe, Charlotte NB Grey ac Alisha R Davies
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Cefndir
- Mae digartrefedd yn cwmpasu sbectrwm o drefniadau tai gwael yn amrywio o dai ansicr (neu ansefydlog), i fyw mewn llety dros dro, i fod yn ddigartref ac ar y stryd (cysgu allan).
- Caiff ein dealltwriaeth o anghenion iechyd poblogaethau digartref ei llywio i raddau helaeth gan astudiaethau ymchwil o’r rhai sy’n ddigartref ac ar y stryd, sy’n fwy gweladwy. Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at iechyd meddwl gwael, salwch corfforol, dibyniaethau ar sylweddau, disgwyliad oes byrrach, ac afiachedd y gellir ei atal ymysg y boblogaeth fregus hon. Adlewyrchir hyn yn yr angen anghymesur o uchel am wasanaethau gofal iechyd, yn aml ochr yn ochr â rhwystrau i gael mynediad at ofal.
- Dim ond cyfran fach o brofiadau digartrefedd ac anghenion iechyd y mae’r rhai sy’n ddigartref ac ar y stryd yn eu cynrychioli, a hynny ar un adeg benodol, ac nid yw’n adlewyrchu’r ffaith nad yw digartrefedd o bosibl yn sefyllfa sefydlog drwy gydol bywyd unigolyn. Felly mae astudiaethau blaenorol yn debygol o danamcangyfrif effaith profiad personol o ddigartrefedd ar iechyd a llesiant unigolyn, a’i anghenion gofal.
- Yn ein hastudiaeth, drwy’r potensial i gysylltu setiau data iechyd a gofal arferol ar lefel cleifion yng Nghymru, rydym wedi ceisio crynhoi canlyniadau llawn ‘profiadau personol o ddigartrefedd’ i iechyd unigolyn sy’n ymestyn y tu hwnt i’r digwyddiad(au) digartrefedd eu hunain. Gellir defnyddio’r fethodoleg newydd a ddatblygwyd yn yr astudiaeth hon i ddeall yn well effaith tai ar iechyd ac i’r gwrthwyneb, ac i werthuso effaith dulliau sy’n anelu at gefnogi’r rhai sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ar iechyd.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Iechyd unigolion sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd yng Nghymru, yn ystod y pandemig COVID-19
PDF, 3MB
Llawrlwytho PDF - Iechyd unigolion sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd yng Nghymru, yn ystod y pandemig COVID-19 (3 MB)
Llawrlwytho PDF