Neidio i'r cynnwys

Ymestyn Mangreoedd Di-fwg Presennol ac Arfaethedig yn Fannau Cyhoeddus Di-fêp yng Nghymru

Mae’r ddeddfwriaeth ddi-fwg a roddwyd ar waith yng Nghymru ymhlith y mwyaf cynhwysfawr yn y
Deyrnas Unedig, gan ymestyn amddiffyniadau rhag mwg ail-law y tu hwnt i weithleoedd a mannau
cyhoeddus caeëdig i leoliadau a ddefnyddir gan blant, teuluoedd a’r cyhoedd ehangach. Mae hyn yn
adlewyrchu newid mwy cyffredinol tuag at greu amgylcheddau lle mae bod yn ddi-fwg yn ddisgwyliad
cymdeithasol ac y gall cenedlaethau’r dyfodol fyw yn rhydd rhag tybaco. Mae’r Ddeddf Tybaco a Fêps
yn golygu y gellir ystyried ymestyn gofynion di-fêp i leoliadau cyhoeddus awyr agored ychwanegol. Mae
hyn yn creu cyfle i Gymru gynnwys fepio mewn cyfyngiadau di-fwg presennol ac yn y dyfodol, yn
enwedig mewn lleoliadau a ddefnyddir gan blant, pobl ifanc a grwpiau eraill a allai fod yn agored i
niwed.


Nid yw deddfwriaeth ddi-fwg Cymru yn cynnwys gofynion di-fêp, ar hyn o bryd, gan adael i sefydliadau,
tirfeddianwyr a darparwyr gwasanaethau unigol benderfynu ble y caniateir fepio. Er bod fepio’n gallu
helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu a lleihau niwed ymhlith oedolion sy’n ysmygu, ceir pryderon o hyd
ynglŷn â nifer y bobl ifanc sy’n dechrau fepio ac yn mynd yn ddibynnol ar nicotin, amlygiad ail-law i
aerosol, normaleiddio defnyddio nicotin, a chydymffurfio â pholisïau di-fwg. Felly, mae’n rhaid i bolisi
yn y dyfodol gydbwyso rôl fepio wrth leihau niwed ag amddiffyn grwpiau sy’n agored i niwed ac atal
dechrau defnyddio nicotin a’i normaleiddio ymhlith plant a phobl ifanc.


Dylid darllen y briff hwn ochr yn ochr â briff polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru (2026), Ymestyn Mannau
Awyr Agored Di-fwg yng Nghymru: Cyfleoedd trwy’r Ddeddf Tybaco a Fêps. Mae’r briff cysylltiedig yn
canolbwyntio ar y sail resymegol a’r dystiolaeth ynglŷn ag ymestyn gofynion di-fwg i leoliadau
cyhoeddus awyr agored ychwanegol, tra bod y briff hwn yn archwilio’r achos dros gynnwys gofynion
di-fêp o fewn amgylcheddau di-fwg presennol ac yn y dyfodol. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth sydd ar gael
ynglŷn ag effeithiau ar iechyd y cyhoedd, ystyriaethau gweithredu, goblygiadau tegwch ac opsiynau
polisi sy’n gysylltiedig ag ymestyn gofynion di-fêp ar draws mannau cyhoeddus dan do ac awyr agored
yng Nghymru. Ei ddiben yw cefnogi datblygu polisi wedi’i lywio gan dystiolaeth sy’n amddiffyn iechyd
y boblogaeth ar yr un pryd â chynnal cymorth i roi’r gorau i ysmygu ac uchelgais hirdymor Cymru i
gyflawni Cymru ddi-fwg erbyn 2030.