Neidio i'r cynnwys

Fideo MECC ar Waith: Y Dull OARS (Crynhoi)

Mae’r sgiliau cyfathrebu craidd a ddefnyddir mewn Cyfweliadau Ysgogiadol wedi’u crynhoi gan yr acronym Saesneg OARS (Cwestiynau Agored (Open Questions), Cadarnhau (Affirmations), Gwrando Myfyriol (Reflective Listening) a Chrynhoi (Summarising)). 

Gall defnyddio’r dull OARS helpu i greu sgyrsiau cefnogol sy’n canolbwyntio ar unigolion, sy’n meithrin perthynas, yn archwilio cymhelliant, ac yn grymuso unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd a’u llesiant. 

Gwyliwch y fideo byr hwn i weld nyrs yn arddangos y cam Crynhoi wrth drafod sgrinio gyda chlaf.