Profiad pobl ifanc o geisio cymorth iechyd meddwl yng Nghymru, ac o gael mynediad ato
Mae gwella iechyd meddwl a llesiant yn flaenoriaethau strategol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a Llywodraeth Cymru. Cyfrannodd y gwaith hwn at hyn, gan fynd i’r afael â’r angen i glywed gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Beth yw’r broblem?
Mae cyffredinrwydd problemau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc yn her iechyd cyhoeddus sylweddol ac yn flaenoriaeth genedlaethol yng Nghymru. Mae data gan StatsCymru yn dangos bod 12,342 o blant a phobl ifanc wedi’u hatgyfeirio at gwnsela yn 2022/23, sef cynnydd o 5% ers 2019 (StatsCymru, 2024). Mae unigolion sy’n LHDTC+, lleiafrifoedd ethnig, a/neu’r rheiny sy’n siarad Cymraeg fel eu prif iaith yn aml yn profi annhegwch wrth gael mynediad at gymorth iechyd meddwl (Senedd, 2022). Mae deall y ffactorau sy’n llywio’r ffordd y mae plant a phobl ifanc yn ceisio cymorth, yn enwedig ar gyfer grwpiau sy’n dueddol o gael eu tangynrychioli mewn astudiaethau cenedlaethol, yn bwysig i helpu i lywio gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a llesiant i holl bobl ifanc Cymru.
Sut aethon ni i’r afael â hyn?
Mae data iechyd yn rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth o bwy sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG ond mae llawer o blant a phobl ifanc yn wynebu rhwystrau o ran cael mynediad at y gwasanaethau hyn ac efallai eu bod yn dibynnu ar ffynonellau cymorth eraill. Fodd bynnag, nid yw data’r GIG yn unig yn rhoi darlun llawn o deithiau ceisio cymorth iechyd meddwl plant a phobl ifanc na’r rhwydwaith amrywiol o opsiynau cymorth y maent yn eu llywio.
Er mwyn deall yn llawn brofiadau plant a phobl ifanc o geisio cymorth iechyd meddwl, buom yn siarad ag 20 o unigolion (18-25 oed) ledled Cymru, gan ddefnyddio samplu bwriadus i ddod o hyd i gyfranogwyr drwy’r trydydd sector, drwy sefydliadau addysgol, ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Defnyddiodd ymchwilwyr o’r Stop, Collaborate and Listen Agency (SCL) ganllaw cyfweld lled-strwythuredig i gynnal cyfweliadau yn Gymraeg neu Saesneg, yn seiliedig ar ddewisiadau’r cyfranogwyr. Rhannodd y cyfranogwyr eu profiadau o gael mynediad at gymorth, y rhwystrau a wynebwyd ganddynt, a’u barn ar wella gwasanaethau. Dadansoddwyd cyfweliadau gan ddefnyddio dadansoddiad thematig atgyrchol i ddatblygu themâu. Roedd ein sampl yn cynnwys cynrychiolaeth sylweddol o unigolion LHDTC+ ac unigolion niwrowahanol.
Canfyddiadau allweddol
- Mae dulliau safonol un ateb sy’n addas i bawb yn aml yn golygu bod anghenion pobl ifanc heb eu diwallu.
- Mae pobl ifanc ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd (fel gofynion sy’n gorgyffwrdd i gefnogi cyflyrau niwrowahanol ac iechyd meddwl), yn aml yn adrodd eu bod yn cael eu troi i ffwrdd o un gwasanaeth a’u cyfeirio at un arall, gan eu gadael heb gymorth priodol.
- Mae pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn gyfnod sy’n gadael pobl ifanc yn agored i niwed, gan fod y broses yn aml yn gymhleth a gall eu gadael heb unrhyw gymorth.
- Dywedodd rhai cyfranogwyr eu bod wedi ceisio cymorth sawl gwaith, a’u bod yn aml yn teimlo eu bod yn ‘rhedeg ar ôl eu cynffon’, gan gael eu trosglwyddo rhwng gwasanaethau heb dderbyn cymorth ystyrlon.
- Roedd mynediad at gymorth parhaus a chyson mewn un lleoliad, fel ysgolion, yn cael ei werthfawrogi’n fawr.
- I’r rhai a oedd yn gallu cael cymorth drwy wasanaethau preifat, roeddent yn profi amseroedd aros byrrach ac roedd ganddynt fwy o opsiynau ar gyfer mathau o gymorth (e.e. therapïau gwahanol, arbenigwyr iechyd meddwl, ac ati).
- Roedd gan y cyfranogwyr lawer o syniadau ar sut i wella gwasanaethau, gydag awydd am fwy o hyblygrwydd a gofal unigol, dulliau cyfathrebu amgen, a dulliau cyfeirio mwy effeithiol.
Cyfyngiadau
Gan mai astudiaeth fach yw hon, nid yw’r canfyddiadau’n ystyried yn llawn brofiadau holl bobl ifanc Cymru. Mae pobl ifanc o gefndiroedd mwy difreintiedig a lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli, gyda’r mwyafrif yn wyn ac yn bobl sydd wedi cael addysg prifysgol.
Er inni archwilio teithiau pobl ifanc, roedd ein sampl yn cynnwys pobl 20-25 oed yn bennaf ac felly ni chafodd safbwyntiau a phrofiadau plant a phobl yn eu harddegau cynnar eu cynnwys yn uniongyrchol yn ein hastudiaeth. Er mwyn mynd i’r afael â’r cyfyngiad hwn, fe wnaethom ymgysylltu â grŵp o bobl ifanc 10-14 oed i archwilio sut roeddent yn uniaethu â’n canfyddiadau a pha agweddau oedd bwysicaf iddynt. Nodir eu mewnbwn yn y drefn y cyflwynir y canfyddiadau.
Casgliad
Mae angen dull hyblyg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Byddai mwy o gydgysylltu rhwng gwasanaethau ac ymyrraeth gynnar yn pontio bylchau o ran darparu cymorth parhaus.
Mae’r mewnwelediadau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd blaenoriaethu gwasanaethau personol a dull ataliol lle bo modd. Er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau systematig, yn enwedig ar gyfer grwpiau wedi’u tangynrychioli, bydd angen ymdrechion targedig a pharhaus i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yng Nghymru.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Thîm Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru: [email protected].
Beth oedd yn ei gwneud hi’n anoddach ceisio a/neu dderbyn cymorth?
Ystyriodd pobl ifanc y ffactorau a oedd yn gwneud y profiad o geisio neu dderbyn cymorth iechyd meddwl yn heriol.
Beth wnaeth i gymorth weithio’n well i bobl ifanc?
Ystyriodd pobl ifanc y ffactorau a oedd wedi gwella eu profiad o geisio neu dderbyn cymorth iechyd meddwl.
Sut mae pobl ifanc yn meddwl y dylid gwella gwasanaethau iechyd meddwl?
Ystyriodd pobl ifanc eu profiad o geisio cymorth iechyd meddwl ac o gael mynediad ato, ac awgrymon nhw ffyrdd y gellid gwella gwasanaethau iechyd meddwl.
Beth ydym yn ei wneud nesaf?
Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â bylchau yn ein dealltwriaeth o sut mae pobl ifanc yn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar glywed gan bobl heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd y canfyddiadau’n hysbysu llunwyr polisi a gwasanaethau am deithiau pobl ifanc wrth geisio cymorth ar draws y system gyfan, ar draws gwasanaethau ffurfiol ac anffurfiol. Ein nod yw cynnwys lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sgwrs, yn enwedig y rhai o’r gymuned LHDTC+ ac unigolion niwrowahanol.
Mae Tîm Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau â rhaglen ehangach o ymchwil sy’n canolbwyntio ar lesiant meddyliol ac argyfwng iechyd meddwl.
Mae’r prosiect llesiant yn defnyddio data o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr mewn Ysgolion Uwchradd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i ddeall cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a llesiant. Mae’n archwilio rhagfynegyddion iechyd meddwl a llesiant, gan nodi rhagfynegyddion sy’n cael effeithiau gwahaniaethol. Nod hyn yw rhoi gwybod i lunwyr polisi am faterion gwahanol y gellid gweithredu arnynt i wella llesiant plant.
Mae’r prosiect argyfwng yn archwilio sut mae pobl ifanc 11-24 oed yn cael mynediad at wasanaethau cyn i symptomau iechyd meddwl waethygu i fod yn argyfwng. Ei fwriad hefyd yw nodi nodweddion pobl sy’n fwy neu’n llai tebygol o geisio cymorth cyn i’r achos gael ei uwchgyfeirio. Bydd hyn yn helpu i hysbysu gwasanaethau am y daith y mae pobl ifanc yn ei chymryd cyn argyfwng iechyd meddwl.
Diolchiadau
Hoffem ddiolch i’r bobl ifanc a gymerodd ran yn yr astudiaeth, yr Asiantaeth SCL am recriwtio cyfranogwyr a chynnal cyfweliadau, a menter Llesiant Rhieni Sengl am ymgysylltu â’n gwaith.
Chwiliwch am gymorth
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi cael eich effeithio gan faterion iechyd meddwl, cliciwch ar y ddolen isod i gael cymorth.
| Llwybrau at gymorth | Rhif Ffôn |
|---|---|
|
Llinell Gymorth The C.A.L.L. Llinell gymorth iechyd meddwl bwrpasol i Gymru sydd ar gael bob awr o’r dydd, bob dydd. Gall roi cymorth gwrando ac emosiynol cyfrinachol i chi, a’ch helpu i gysylltu â chymorth sydd efallai ar gael yn eich ardal leol. |
Ffoniwch 0800 132 737 neu e-bostiwch [email protected] |
|
Llinell Wybodaeth Mind Cymru I gael gwybodaeth am fathau o broblemau iechyd meddwl, ble i gael help, meddyginiaeth, triniaethau amgen ac eiriolaeth. |
Ffoniwch 0300 123 3393, e-bostiwch [email protected] neu tecstiwch 86463 |
|
Samariaid Cymru Yn cynnig lle diogel i chi siarad unrhyw bryd y dymunwch, yn eich ffordd eich hun – am beth bynnag sy’n eich poeni. |
Ffoniwch am ddim ar 116 123 neu e-bostiwch [email protected] |
|
PAPYRUS Cymdeithas atal hunanladdiad pobl ifanc. Mae HOPELINE yn ofod diogel sydd ar gael bob awr o’r dydd, bob dydd i drafod unrhyw beth yn eich bywyd sy’n effeithio ar eich gallu chi/gallu unrhyw un arall i aros yn ddiogel. |
Ffoniwch 0800 068 41 41, tecstiwch 88247, neu e-bostiwch [email protected] |
|
MEIC Cymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed sydd ar gael rhwng 8am a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. |
Sgwrs fyw ar-lein ar meiccymru.org, ffoniwch neu anfonwch neges Whatsapp: 080880 23456, neu tecstiwch 07943 114 449 |
|
Cyngor ar Bopeth Mae’n darparu cyngor ar gymorth ariannol a gall eich cyfeirio at asiantaethau eraill a allai eich helpu. |
0800 702 2020 (9am tan 5pm, dydd Llun-dydd Gwener) |
|
Byw Heb Ofn Ar agor 24 awr y dydd i ddarparu cymorth a chyngor ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i bobl yng Nghymru |
Ffoniwch 0808 80 10 800, tecstiwch 07860 077333, e-bostiwch [email protected], neu dechreuwch sgwrs fyw ar-lein |
|
Cymorth i Ddioddefwyr Yn darparu cymorth cyfrinachol 24 awr am ddim i bobl yr effeithir arnynt gan drosedd neu ddigwyddiadau trawmatig. |
Ffoniwch 0808 1689 111, tecstiwch drwy ap Relay UK, neu dechreuwch sgwrs fyw ar victimsupport.org.uk |