Data yn dangos bod dros 3,000 yn llai o bobl ifanc yng Nghymru yn nodi eu bod yn fepio’n rheolaidd
Cyhoeddwyd ar: 22 Medi 2026
Mae data newydd o Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) yn dangos bod gostyngiad sylweddol o ran nifer y plant a phobl ifanc sy’n fepio yng Nghymru o’i gymharu â 2023. Mae’r arolwg yn cael ei gynnal bob dwy flynedd gan dros 130,000 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 i 11 mewn ysgolion uwchradd prif ffrwd ledled Cymru.
Mae’r gostyngiad yn cyd-fynd â chyfnod o ffocws cyhoeddus a pholisi cynyddol ar fepio ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys cyflwyno gwaharddiad ar fepio untro ym mis Mehefin 2025. Mae tystiolaeth ar effaith y gwaharddiad yn dal i ddod i’r amlwg ac ar hyn o bryd nid yw’n bosibl penderfynu i ba raddau y cyfrannodd at y newidiadau a welwyd yn yr arolwg hwn. Fodd bynnag, mae’r gostyngiad o ran fepio ymhlith y grŵp oedran hwn yn gyson â thystiolaeth o ffynonellau eraill fod cyfraddau fepio wedi gostwng ar ôl cyhoeddi’r gwaharddiad ar fêps tafladwy.
Mae’r Ddeddf Tybaco a Fêps, a ddaeth yn gyfraith ar ôl i’r arolwg gael ei gynnal, yn cyflwyno mesurau pellach gyda’r nod o leihau apêl fepio i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cyfyngiadau ar y blasau, y pecynnu, sut maent yn cael eu harddangos a’u marchnata. Mae’n bosibl bod y drafodaeth gyhoeddus uchel ei phroffil ynghylch y ddeddfwriaeth hon hefyd wedi dylanwadu ar agweddau ac ymddygiadau.
Mae cyfran y bobl ifanc ym mlynyddoedd 7 i 11 a nododd eu bod yn fepio o leiaf unwaith yr wythnos bellach yn 5.2 y cant, sef gostyngiad o 7 y cant yn 2023. Dyma’r tro cyntaf i gyfraddau fepio ostwng ers 2019, ac mae bellach yn gymharol â 2021 pan oedd yn 5.5 y cant. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o oddeutu 3,200 o bobl ifanc sy’n fepio’n rheolaidd ers i arolwg 2023 gael ei gynnal.
Mae cyfradd y bobl ifanc ym mlwyddyn 11 sy’n fepio o leiaf unwaith yr wythnos hefyd wedi gostwng i 12.8 y cant, o’i chymharu â 15.9 y cant yn arolwg 2023. Mewn gwirionedd, mae fepio wedi gostwng ym mhob mesur yn yr arolwg, gan gynnwys ym mhob grŵp blwyddyn, ac ymhlith bechgyn a merched, er bod y patrymau a welwyd yn arolygon y blynyddoedd blaenorol yn parhau – felly roedd merched ym mlynyddoedd 7 i 11 yn fwy tebygol (6.6 y cant) o nodi eu bod yn fepio’n rheolaidd na bechgyn (3.7 y cant). Fodd bynnag, mae’r niferoedd hyn yn ostyngiad ers arolwg 2023 pan nododd 8.6 y cant o ferched a 5.1 y cant o fechgyn eu bod yn fepio’n rheolaidd. Yn ogystal, cynyddodd lefelau’r dysgwyr a nododd eu bod yn fepio wrth iddynt symud drwy’r ystodau oedran yn gyffredin ag arolygon blaenorol, felly yn 2023 dywedodd 0.8 y cant o bobl ifanc ym mlwyddyn 7 eu bod yn fepio o leiaf unwaith yr wythnos, tra bod hyn wedi gostwng i 0.6 y cant yn 2025.
Ochr yn ochr â’r gostyngiad yn y defnydd o fêps, parhaodd y cyfraddau ysmygu i ostwng hefyd. Er bod cyfraddau ysmygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ymhlith disgyblion oedran ysgol uwchradd wedi bod yn isel a bod plant a phobl ifanc wedi bod yn llawer mwy tebygol o nodi eu bod yn fepio nag yn ysmygu, dywedodd 2.7 y cant o ddysgwyr yn 2023 a 3.1 y cant yn 2021 eu bod yn ysmygu o leiaf unwaith yr wythnos. Yn y data ar gyfer 2025 roedd hyn wedi gostwng i 1.8 y cant, sy’n cynrychioli gostyngiad sylweddol ers 2023. Mae data 2025 yn adrodd bod 1,600 yn llai o bobl ifanc yn ysmygu’n rheolaidd.
Dywedodd Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r dystiolaeth yn glir: er bod fepio’n llai peryglus nag ysmygu ar y cyfan, nid yw’n ddi-risg ac ni ddylai’r un plentyn na pherson ifanc fod yn fepio.
“Felly ar ôl nifer o flynyddoedd lle gwelwyd lefelau cynyddol o o fepio ymhlith plant a phobl ifanc, rydym yn mawr groesawu’r gostyngiad hwn yn lefelau fepio ac ysmygu.
“Wrth ddadansoddi’r data o adroddiad y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, gallwn nodi bod y defnydd cyffredinol o nicotin bellach yn gostwng ymhlith plant a phobl ifanc yn dilyn tuedd parhaus ar i fyny y mae fepio wedi’i achosi. Er ei bod hi’n debygol y bydd nifer o ffactorau’n dylanwadu ar y newid ymddygiad hwn, gan gynnwys gwaith iechyd y cyhoedd gydag ysgolion i fynd i’r afael â fepio ac ysmygu, ac ymwybyddiaeth ehangach y cyhoedd o’r niwed sy’n gysylltiedig â fepio, mae’n bosibl bod cyflwyno’r gwaharddiad ar fêps tafladwy ym mis Mehefin 2025 i fynd i’r afael â fepio gan bobl ifanc wedi chwarae rhan yn hyn o beth.
“Byddwn yn parhau i fonitro defnydd pobl ifanc o gynhyrchion nicotin, gan ddefnyddio arolwg y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion a ffynonellau data eraill, i geisio nodi a yw hwn yn effaith untro, neu’n arwydd o duedd parhaus ar i lawr.
“Rydym yn ddiolchgar i’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion am eu cefnogaeth gyda’r adroddiad hwn, sydd wedi galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynhyrchu tystiolaeth amserol ar dueddiadau ysmygu a fepio ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru, a helpu i lywio polisi a chamau gweithredu iechyd y cyhoeddus yn y dyfodol.”
Mae’r adroddiad ar gael yma.