Neidio i'r cynnwys

Profion PCB ar gyfer cymunedau sy’n byw ger tir halogedig

Cyhoeddwyd ar: 21 Medi 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi barn Llywodraeth Cymru y dylid mynd i’r afael â thir halogedig hanesyddol yng Nghymru fel blaenoriaeth ac rydym yn cydnabod pryderon cymunedau lleol sydd wedi’u heffeithio gan y mater hwn. Rydym yn ymwybodol bod galwadau wedi’u gwneud am brofion PCB ar gyfer cymunedau sy’n byw ger tir halogedig. Fodd bynnag, ni argymhellir profi am PCBs yn y gwaed fel cam iechyd cyhoeddus. Mae hyn oherwydd nad yw’n darparu ffordd ddibynadwy o asesu amlygiad unigolyn i halogiad na’r effaith bosibl ar iechyd.

Beth yw PCBs?

Mae PCBs, neu biffenylau polyclorinedig, yn grŵp o gemegolion organig gwenwynig peryglus, a wnaed gan ddyn, sydd ag effeithiau peryglus ar yr amgylchedd ac ar ein hiechyd. Mae yna lawer o wahanol fathau o PCBs ac maent yn amrywio’n fawr o ran eu gwenwyndra posibl a’u heffeithiau ar iechyd. Mae’r niwed sy’n gysylltiedig â PCBs yn golygu y cafodd eu cynhyrchu ei wahardd yn 2001. Ond, maen nhw’n parhau yn ein hamgylcheddau ac mae’n debygol bod gan bawb yn y byd ryw lefel o PCBs yn eu corff.

Gallwn gael ein hamlygu i PCBs trwy anadlu, llyncu neu gysylltiad â’r croen. Mae yna lawer o ffynonellau posibl o PCBs yn ein hamgylchedd, gan gynnwys y bwyd rydyn ni’n ei fwyta, yn enwedig pysgod, cynnyrch llaethdy a chig. Gallwn hefyd gael ein hamlygu i PCBs yn ein cartrefi ac adeiladau eraill oherwydd y gallant gael eu rhyddhau o’r deunyddiau a ddefnyddir i greu’r adeiladau rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt.

Os nodir bod lefelau uchel o PCBs mewn lle penodol, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu mai dyna ffynhonnell PCBs yng nghorff rhywun. At hynny, gallai dau berson fwyta’r un deiet ac ymweld â’r un lleoedd, ond gall gwahaniaethau unigol, er enghraifft faint y braster yn eu cyrff, ddylanwadu ar faint o PCBs sy’n aros yn eu cyrff. Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd yn awgrymu y gall deiet, ysmygu neu lefelau gweithgarwch corfforol effeithio ar y niweidiau posibl sy’n gysylltiedig â PCBs.

Nid yw profi am PCBs yn y gwaed yn dweud wrthym sut na ble y gallai pobl fod wedi dod i gysylltiad â nhw. Hefyd, nid oes gennym ddealltwriaeth dda ar hyn o bryd o sut mae gwahanol PCBs yn rhyngweithio yn y corff. Ac mae ffactorau fel deiet, ysmygu, gweithgarwch corfforol, lefel yr amlygiad a geneteg yn golygu y gall PCBs effeithio ar bawb mewn gwahanol ffyrdd. 

Mae yna rai risgiau hefyd wrth gyflwyno profion gwaed am PCBs. Er enghraifft, achosi pryder ymhlith pobl y nodwyd bod PCBs yn bresennol yn eu gwaed. Nid oes unrhyw ffordd o drin na rheoli lefel benodol o PCBs yng ngwaed rhywun, hyd yn oed pe baem yn ei fesur.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys llywodraeth Cymru, ar sut i fynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â thir halogedig.