Canllaw newydd i helpu sefydliadau i fynd i’r afael ag allgáu digidol
Cyhoeddwyd ar: 08 Medi 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ymarferol i helpu sefydliadau i ddeall a chefnogi pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn well.
Mae’r canllaw, Gweithio gyda Chymunedau sydd wedi’u Hallgáu’n Ddigidol: Llwybrau Ymarferol at Weithredu ac Effaith, yn dwyn ynghyd dystiolaeth ymchwil a mewnwelediadau gan bobl sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n cynnig cyngor ymarferol ar gyfer nodi rhwystrau, teilwra cefnogaeth a mesur y gwahaniaeth y mae gweithgarwch cynhwysiant digidol yn ei wneud.
Mae technoleg ddigidol bellach yn ganolog i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, addysg, cyflogaeth a chadw mewn cysylltiad. Ond i rai pobl, gall rhwystrau fel fforddiadwyedd, mynediad annibynadwy i’r rhyngrwyd, hygyrchedd gwael, hyder cyfyngedig, anghenion iaith neu bryderon ynghylch diogelwch ar-lein ei gwneud hi’n anodd cymryd rhan mewn bywyd digidol bob dydd.
Mae’r canllaw yn tynnu sylw at y ffaith bod rhoi cymorth effeithiol yn mynd y tu hwnt i ddarparu dyfais neu gysylltiad â’r rhyngrwyd. Efallai y bydd angen help ar bobl hefyd i feithrin sgiliau a hyder, defnyddio technoleg yn ddiogel, a chwblhau tasgau sy’n bwysig iddyn nhw, gan gynnwys trefnu apwyntiadau, archebu presgripsiynau, rheoli arian neu gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
Mae’r canllaw wedi’i lywio gan astudiaeth a ariannwyd gan NIHR, ac yn cynnwys adolygiad tystiolaeth a sgyrsiau gyda 21 o ymarferwyr o awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol, cymdeithasau tai, y byd academaidd a phartneriaid y GIG. Mae ffeithlun a phedwar persona ymarferydd hefyd.
Gall cynhwysiant digidol gryfhau hyder, annibyniaeth, llesiant a chysylltiad cymdeithasol, gan helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Dywedodd Dr Diana Bright, Arweinydd Gwerthuso Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gall allgáu digidol effeithio ar allu pobl i gael mynediad at wasanaethau, rheoli eu hiechyd, aros mewn cysylltiad ag eraill a chymryd rhan ym mywyd bob dydd.”
“Mae’r prosiect hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth ymchwil â phrofiadau pobl sy’n gweithio ochr yn ochr â chymunedau, gan ein helpu i ddeall yn well y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu a’r gefnogaeth a all wneud gwahaniaeth ymarferol iddynt.
“Datblygwyd yr adnoddau gyda rhanddeiliaid i roi man cychwyn defnyddiol i sefydliadau ar gyfer gweithredu. Gobeithiwn y bydd ymarferwyr, sefydliadau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus yn eu defnyddio a’u rhannu i gydnabod rhwystrau, teilwra cefnogaeth i anghenion lleol a deall effaith eu gwaith.”