Neidio i'r cynnwys

Cynnig brechlyn RSV wedi’i ymestyn i oedolion risg uwch 65–74 oed

Cyhoeddwyd ar: 01 Medi 2026

Bydd pobl 65 i 74 oed sydd mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael o’r feirws syncytiol anadlol (RSV) yn cael cynnig y brechlyn RSV ym mis Medi fel rhan o raglen sydd wedi’i chyfyngu gan amser.

Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl dros 65 oed sy’n imiwnoataliedig neu sydd â chlefyd anadlol cronig mewn perygl tebyg o gael eu derbyn i’r ysbyty i’r rhai dros 75 oed sydd eisoes yn cael cynnig y brechlyn am ddim gan y GIG.

Bydd y cynnig yn rhedeg o fis Medi a bydd yn helpu i amddiffyn oedolion cymwys sy’n fwy tebygol o brofi salwch difrifol os byddant yn dal y feirws.

Mae RSV yn feirws cyffredin a all achosi problemau iechyd difrifol, gan gynnwys bronciolitis a niwmonia, yn enwedig mewn pobl hŷn a babanod. Bob blwyddyn, mae’n arwain at rhwng 700 a 1,000 o dderbyniadau i’r ysbyty ymhlith pobl 75 oed â hŷn yng Nghymru, yn ogystal â hyd at 9,000 o apwyntiadau gyda meddygon teulu.

Mae’r brechlyn RSV eisoes yn cael ei gynnig yn rheolaidd i bob oedolyn 75 oed a hŷn. Canfu tystiolaeth o astudiaeth newydd dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda thimau eraill yn y DU, fod brechiad RSV wedi lleihau’r risg pobl o gael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd RSV 75 y cant ymhlith oedolion 75 i 79 oed yn ystod gaeaf 2024–25.

Canfu’r astudiaeth hefyd fod derbyniadau i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag RSV wedi gostwng mwy na 13 y cant ymhlith y grŵp oedran 75–79 cymwys rhwng Hydref 2024 ac Ebrill 2025, er gwaethaf y ffaith bod y rhaglen yn ei chamau cynnar.

Bydd ehangu’r cynnig i bobl risg uwch rhwng 65 a 74 oed yn helpu i atal salwch difrifol pellach a derbyniadau i’r ysbyty, a bydd hefyd yn lleddfu’r pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai yn ystod misoedd y gaeaf ar yr un pryd.

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth Rhaglen Clefydau Ataliadwy trwy Frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae gennym dystiolaeth gref bod y brechlyn RSV yn gweithio. Mae’n lleihau’r risg o gael eich derbyn i’r ysbyty gydag RSV tua 75 y cant, gan helpu i amddiffyn oedolion hŷn rhag salwch difrifol.

“Trwy ymestyn y cynnig am ddim i fwy o bobl 65 i 74 oed sydd mewn mwy o berygl, gallwn helpu i gadw mwy o bobl yn iach ac allan o’r ysbyty, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd RSV yn fwyaf peryglus.

Os ydych chi’n gymwys, rwy’n eich annog yn gryf i dderbyn y cynnig pan gewch eich gwahodd.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: gwybodaeth am sut a ble i gael eu brechlyn