Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Gweithio gyda Chymunedau sydd wedi’u Hallgáu’n Ddigidol: Llwybrau Ymarferol tuag at Weithredu ac Effaith

Casgliad o adnoddau ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gydag unigolion a chymunedau sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Datblygwyd yr adnoddau hyn drwy astudiaeth a ariannwyd gan NIHR, ac maent yn cyfuno tystiolaeth ymchwil â mewnwelediadau a phrofiad ymarferwyr ac arbenigwyr i archwilio achosion allgáu digidol, dulliau ymarferol o gefnogi, a ffyrdd o werthuso effaith.

  • Ffeithlun – Crynodeb gweledol o’r negeseuon allweddol a’r argymhellion ymarferol sy’n deillio o’r ymchwil.
  • Canllaw ymarferol – Canllaw sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddeall allgáu digidol, mynd i’r afael ag ef a’i werthuso’n ymarferol.
  • Personâu ymarferwyr cynhwysiant digidol – Pedwar persona a luniwyd gan ymarferwyr, sy’n dangos sut mae allgáu digidol yn effeithio ar wahanol gymunedau a sut y gellir teilwra cefnogaeth ar gyfer anghenion unigol.

Prosiect cydweithredol sy’n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen, Cwmpas, Cymdeithas Tai Newydd, ac Alltudion ar Waith. 

Lawrlwythiadau adroddiadau

Canllaw - Gweithio gyda chymunedau sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol Llwybrau ymarferol tuag at weithredu ac effaith

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Canllaw - Gweithio gyda chymunedau sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol Llwybrau ymarferol tuag at weithredu ac effaith (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Fersiynau eraill: