Pwysig

Os yw eich plentyn rhwng 1 a 5 oed ac yn byw yn y Barri, neu’n mynd i feithrinfa, ysgol neu leoliad gofal plant yn y Barri, gallwch gael brechlyn hepatitis A am ddim.

Neidio i'r cynnwys

Cymru yn lansio ei phecynnau cymorth cenedlaethol cyntaf i bobl sydd newydd gael diagnosis o Ddiabetes Math 2

Cyhoeddwyd ar: 18 Awst 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru wedi lansio dau adnodd cenedlaethol newydd heddiw i gefnogi pawb sydd wedi cael diagnosis o Ddiabetes Math 2 yng Nghymru — bydd y rhain yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i bobl fyw yn dda o’r diwrnod cyntaf ac yn helpu i atal cymhlethdodau difrifol. 

Y pecynnau Adeg Diagnosis (POD) — un ar gyfer cleifion ac un ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol — yw’r adnoddau cyntaf sy’n gyson ledled Cymru a gynlluniwyd yn benodol i gefnogi pobl ar adeg y diagnosis. Maent yn lansio ochr yn ochr â chanolfan adnoddau digidol diabetes GIG Cymru wedi’i hailgynllunio, gan greu siop‑ un stop y gellir ymddiried ynddi i bobl sy’n byw gyda diabetes, eu teuluoedd a’r clinigwyr sy’n eu cefnogi. 

Mae’r lansiad yn dilyn y newyddion yn gynharach eleni fod argyfwng diabetes Cymru yn tyfu’n gyflymach nag a ragwelwyd. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 230,371 o bobl yng Nghymru bellach yn byw gyda diabetes — sef cynnydd o 7,685 o fewn blwyddyn. Amcangyfrifir bod 328,000 o bobl eraill yn byw gyda chyn-ddiabetes neu Ddiabetes Math 2 sydd heb ei ddiagnosio. Bellach, effeithir ar oddeutu un o bob pump oedolyn yng Nghymru. 

Mae Diabetes Math 2 yn gyflwr difrifol, gydol oes. Os caiff ei reoli’n wael, gall arwain at golli golwg, clefyd yr arennau, niwed i’r nerfau, trychiad a chlefyd cardiofasgwlaidd. Ond o gael yr wybodaeth a’r gefnogaeth briodol o’r eiliad y caiff y diagnosis ei wneud, mae modd atal llawer o’r cymhlethdodau hyn — ac i rai, mae’n bosibl i’r afiechyd gael ei leddfu. 

Dangosodd ymchwil ac ymgysylltu â chleifion gan y Rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Gyda’n Gilydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru fod adeg y diagnosis yn hollbwysig o ran llunio sut mae pobl yn ymgysylltu â chymorth ac yn rheoli eu cyflwr dros amser. Nododd llawer o bobl eu bod yn teimlo’n ansicr, wedi’u llethu neu’n gywilyddus yn dilyn cael diagnosis o ddiabetes math 2, ac mae 67% ohonynt yn teimlo cywilydd neu euogrwydd. Mae cefnogi cleifion drwy’r hyn a all fod yn sgwrs emosiynol arwyddocaol yn gofyn am adnoddau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, y gellir eu defnyddio’n gyson ar draws GIG Cymru, er mwyn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser ymgynghori sydd yn aml yn gyfyngedig. 

Mae’r pecynnau Adeg Diagnosis (POD) yn mynd i’r afael â’r angen hwn yn uniongyrchol. Wedi’u cynllunio ar y cyd â dros 80 o bobl sy’n byw gyda Diabetes Math 2 a 32 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru, maent wedi’u creu i ddiwallu’r hyn y dywedodd pobl eu bod ei angen fwyaf: sef canllawiau clir ac ymarferol ar fwydydd a ffordd o fyw, gwell dealltwriaeth o ba ofal ac archwiliadau y dylent eu disgwyl, a gwell ymwybyddiaeth o sut y gall rheoli eu cyflwr yn dda wella eu hiechyd yn y dyfodol. 

Mae ‘Byw yn Dda gyda Diabetes Math 2’ yn cynnig camau ymarferol nesaf, cyngor ar ffordd o fyw, cefnogaeth ar gyfer llesiant emosiynol a chyfeiriadau clir at wasanaethau dibynadwy — ac mae’n defnyddio iaith dosturiol ac ymwybodol o stigma o’r diwrnod cyntaf.  

Mae Pecyn Cymorth Adeg Diagnosis ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd yn darparu cymorth ymarferol i glinigwyr sy’n rhoi neu’n datgelu diagnosis o ddiabetes math 2 am y tro cyntaf ac mae’n cynnwys templedi cyfathrebu, rhestrau gwirio a chanllawiau ynghylch pam mae natur yr iaith a ddefnyddir yn bwysig.  

Mae’r pecynnau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac maen nhw’n sicrhau na fydd yr un unigolyn yng Nghymru sydd newydd gael diagnosis yn brin o gefnogaeth ni waeth ble mae’n byw na sut mae’n cael mynediad at ofal. 

Dywedodd David Taylor, Cyfarwyddwr Trawsnewid yn Rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Gyda’n Gilydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: 
“Hyd yn hyn, roedd y gefnogaeth a roddwyd i bobl ar ôl iddynt gael diagnosis o ddiabetes Math 2 yn rhy ddibynnol ar ble roedden nhw’n byw a phwy roedden nhw’n ei weld. Nid oedd yr amrywiad hwnnw’n deg, ac roedd yn cael effeithiau gwirioneddol ar iechyd pobl. Mae’r pecynnau hyn yn newid hynny. Maent wedi’u hadeiladu ar yr hyn a ddywedodd cleifion a chlinigwyr wrthym eu bod ei angen mewn gwirionedd, ac maent yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i bobl fyw yn dda gyda diabetes ac iddynt atal y cymhlethdodau yr oedd pobl ers lawer dydd yn eu hystyried yn anochel.” 

Mae Tina, sy’n breswylydd yn ne Cymru, wedi bod yn byw gyda Diabetes Math 2 ers tua 28 mlynedd. Dyma ei chyngor i unrhyw un sydd newydd gael diagnosis: “Dechreuwch eich taith nawr. Peidiwch â gadael pethau fel y gwnes i. 

“Byddwn i’n dweud, peidiwch â chynhyrfu. Gallwch chi fyw bywyd person normal – a dyna dw i’n meddwl mae llawer o bobl yn ei ofni. Maen nhw’n meddwl bod yn rhaid iddyn nhw droi’n berson gwahanol. Allan nhw ddim gwneud hyn na’r llall. Gallwch chi wneud popeth. Gallwch chi fwyta popeth yn gymedrol, ac wrth gwrs gadw golwg ar faint o siwgr rydych chi’n ei fwyta. 

“Ond byddwn i’n dweud wrthyn nhw, dechreuwch eich taith nawr. Peidiwch â gadael pethau fel y gwnes i tan yn ddiweddarach mewn bywyd. Dechreuwch eich taith nawr. 

“Ac o wybod sut dw i’n teimlo nawr, byddwn i eisiau iddyn nhw deimlo fel ‘na ar unwaith, fel bod nhw ddim yn mynd i lawr yr un llwybr ag y gwnes i, sef teimlo’n ddiog ac yn flinedig a thros fy mhwysau. 

“Gwnewch hynny nawr a bydd o fudd mawr i’ch corff. Bydd o fudd enfawr i chi.” 

Mae Diabetes UK Cymru wedi cymeradwyo’r pecynnau fel yr adnodd cenedlaethol ar gyfer cleifion sydd newydd gael diagnosis yng Nghymru. Maent yn sefydlu safon genedlaethol i leihau amrywiad yn y deunyddiau presennol ac yn cefnogi arfer cyson. 

Dywedodd Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: “Mae’n hollbwysig defnyddio’r adeg y mae rhywun yn cael diagnosis o ddiabetes Math 2 fel cyfle i’w gefnogi. Yn rhy aml, gall pobl deimlo’n bryderus , yn ynysig neu’n ansicr o ran ble i droi, yn enwedig yn ystod y cyfnod rhwng eu hapwyntiadau gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae’r pecynnau Adeg Diagnosis hyn yn darparu gwybodaeth glir a chyson ac yn cysylltu pobl yn uniongyrchol â chymorth dibynadwy, gan gynnwys adnoddau a gwasanaethau Diabetes UK Cymru. Rydym yn falch o gymeradwyo’r pecynnau hyn fel yr adnodd cenedlaethol ar gyfer cleifion sydd newydd gael diagnosis yng Nghymru oherwydd byddant yn helpu i sicrhau bod gan bawb fynediad at yr arweiniad, y gefnogaeth a’r sicrwydd y mae eu hangen arnynt i gymryd camau cadarnhaol tuag at fyw yn dda gyda diabetes o’r diwrnod cyntaf un.”  

Dywedodd Maria Cole, Arweinydd Clinigol Deietegol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes ac Atal: “Mae pob sgwrs adeg diagnosis yn bwysig. Boed honno gyda meddyg teulu, nyrs practis, deietegydd, fferyllydd neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, mae’n gyfle i helpu rhywun i ddeall ei gyflwr a chymryd camau cadarnhaol. Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi clinigwyr i gael y sgyrsiau hynny’n hyderus ac yn gyson, ac yn helpu pobl i gael mynediad at yr wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i deimlo’n well, aros yn iachach a lleihau’r risg y byddant yn profi cymhlethdodau yn y dyfodol.” 

Ailadeiladwyd hwb adnoddau digidol diabetes GIG Cymru wedi’i ailgynllunio, sydd hefyd yn lansio heddiw, mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a oedd eisiau llwybr wedi’i lywio’n well, iaith gliriach, cynnwys mwy perthnasol a phrofiad symudol sy’n wirioneddol hygyrch. Mae bellach yn darparu un man dibynadwy i bobl sy’n byw gyda diabetes, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi. 

Gyda’i gilydd, mae’r pecynnau POD a’r hwb digidol yn rhan ganolog o uchelgais Rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Gyda’n Gilydd i gyflawni newid sylweddol mewn canlyniadau diabetes — rhoi pobl wrth wraidd eu gofal, eu helpu i gael mynediad at y gefnogaeth briodol ar yr amser iawn, lleihau nifer y trychiadau a wneir a chymhlethdodau difrifol eraill, arafu’r cynnydd mewn diabetes Math 2, a chyfrannu at system iechyd a gofal fwy cynaliadwy i Gymru. 

Mae’r pecynnau bellach yn cael eu cyflwyno ledled GIG Cymru, ac mae’r pecynnau cleifion ar gael i’w gweld neu i’w lawrlwytho’n uniongyrchol drwy chwilio am: ‘byw yn dda gyda diabetes math 2 Cymru’. 

Gellir dod o hyd i’r hwb adnoddau Diabetes drwy chwilio am: ‘Adnoddau diabetes Cymru.’ 

Dywedodd Joanne Oliver, ar ran Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes GIG Cymru: 

“Gall cael diagnosis o Ddiabetes Math 2 fod yn foment sy’n newid bywyd unigolyn, ac mae’n hanfodol bod pawb yng Nghymru yn derbyn yr wybodaeth a’r gefnogaeth briodol o’r cychwyn cyntaf. Mae’r adnoddau Adeg Diagnosis newydd a gwefan Rhwydwaith Diabetes GIG Cymru wedi’u hailgynllunio yn darparu dull cyson, sy’n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn helpu pobl i ddeall eu cyflwr yn well, cael mynediad at gyngor a gwasanaethau dibynadwy, a theimlo eu bod wedi’u grymuso i gymryd rhan weithredol wrth reoli eu hiechyd. Drwy ddod â gwybodaeth o ansawdd uchel ynghyd ar gyfer pobl sy’n byw gyda diabetes a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi, mae’r adnoddau hyn yn gam pwysig tuag at leihau amrywiad yn y gofal a roddir a gwella canlyniadau i bobl ledled Cymru.”

Adnoddau