Beichiogrwydd yn ystod Plentyndod: Canllawiau i blant sy’n beichiogi cyn eu pen-blwydd yn 13 oed
Mae’r ddogfen gynhwysfawr hon yn darparu fframwaith Cymru gyfan ar gyfer cefnogi plant sy’n beichiogi cyn eu pen-blwydd yn 13 oed.
Mae’r canllawiau’n amlinellu cyfrifoldebau diogelu, ystyriaethau cyfreithiol, llwybrau gofal iechyd, a phrosesau amlasiantaethol i sicrhau penderfyniadau amserol, sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n blaenoriaethu llesiant, diogelwch a lles pennaf y plentyn. Mae’n cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau partner i ddarparu gofal tosturiol, sy’n ystyriol o drawma ac sy’n cydymffurfio â’r gyfraith. Yn ogystal, mae’n nodi’r camau gweithredu uniongyrchol, y prosesau asesu ac atgyfeirio, y llwybrau gwneud penderfyniadau, a’r trefniadau cymorth parhaus sy’n ofynnol yn yr achosion prin a chymhleth hyn.
Mae’r canllawiau’n pwysleisio pwysigrwydd gwaith amlasiantaethol cyflym i amddiffyn plant a sicrhau y cânt fynediad at y gofal a’r cymorth priodol.