Brechlyn hepatitis A i blant ifanc yn Y Barri
Last updated: Dydd Llun 17 Awst
Os yw eich plentyn rhwng 1 a 5 oed ac yn byw yn y Barri, neu’n mynd i feithrinfa, ysgol neu leoliad gofal plant yn y Barri, gallwch gael brechlyn hepatitis A am ddim.
Mae brigiad o achosion o hepatitis A yn Y Barri. Gall y brechlyn helpu diogelu plant, eu teuluoedd a phobl eraill.
Mae hepatitis A yn feirws a all niweidio’r afu. Gall ledaenu’n hawdd. Efallai na fydd plant ifanc yn teimlo’n sâl ond gallant drosglwyddo’r feirws o hyd i bobl eraill a all fynd yn ddifrifol wael.
Rydyn ni’n gwybod bod y feirws yn lledaenu yn Y Barri. Dydyn ni ddim wedi dod o hyd i unrhyw le penodol lle mae’r brigiad o achosion wedi dechrau. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, meithrinfeydd, gweithleoedd a mannau cyhoeddus.
Pwy all gael y brechlyn?
Mae’r brechlyn ar gyfer plant rhwng un a phum mlwydd oed sydd yn:
NEU’N
- Mynd i’r ysgol, meithrinfa, gwarchodwr plant, grŵp chwarae neu leoliad gofal plant arall yn Y Barri.
Sut fydd fy mhlentyn yn cael y brechlyn?
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cysylltu â rhieni a gofalwyr. Byddwch yn cael neges destun neu lythyr gyda manylion ynghylch sut i archebu apwyntiad eich plentyn.
Bydd brechiadau’n dechrau yn Ysbyty’r Barri ddydd Mawrth 18 Awst 2026.
Bydd ar agor rhwng 9am a 5pm yn ystod yr wythnos ac ar ddydd Sadwrn.
Os nad ydych wedi cael gwahoddiad eto, peidiwch â phoeni. Dylai gyrraedd yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf.
Pam mae plant ifanc yn cael cynnig y brechlyn?
Gall plant ifanc gael hepatitis A heb deimlo’n sâl. Gallant drosglwyddo’r feirws o hyd i bobl eraill a all fynd yn sâl iawn.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i bartneriaid yn parhau â’u hymchwiliadau. Rydym wedi olrhain pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad ag achosion wedi’u cadarnhau ac wedi cynnig brechiad iddynt lle bo’n briodol. Fodd bynnag, mae’n dal i gylchredeg yn y gymuned. Dyna pham rydyn ni’n cynnig y brechlyn i blant ifanc yn Y Barri.
Gall y brechlyn ddiogelu plant. Gall hefyd helpu lleihau’r siawns y bydd y feirws yn lledaenu i deuluoedd ac i bobl eraill.
Mae’r brechlyn hepatitis A wedi cael ei ddefnyddio’n ddiogel ers blynyddoedd lawer ledled y byd. Bydd staff hyfforddedig yn gwirio y gall eich plentyn ei gael.
Beth yw hepatitis A?
Haint a achosir gan feirws yw hepatitis A. Gall niweidio’r afu.
Gall symptomau’r feirws gynnwys:
- Tymheredd uchel
- Symptomau tebyg i ffliw fel blinder, pen tost a phoenau yn y cyhyrau
- Teimlo’n gyfoglyd
- Anghysur yn y stumog,
- Wrin tywyll
- Pŵ golau
- Melynu’r croen neu wyn y llygaid, a all fod yn anoddach i’w weld ar groen brown neu ddu
Os ydych chi’n poeni y gallai fod gennych chi neu’ch plentyn hepatitis A, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu GIG 111 Cymru. Ffoniwch cyn i chi fynd i glinig, meddygfa neu’r ysbyty.
Golchwch eich dwylo gyda sebon a dŵr
Mae golchi’ch dwylo’n dda hefyd yn bwysig iawn, defnyddiwch sebon a dŵr bob amser:
- Ar ôl mynd i’r tŷ bach
- Ar ôl newid clytiau
- Cyn gwneud bwyd
- Cyn bwyta
Helpwch blant ifanc i olchi eu dwylo’n dda.
A yw’n ddiogel ymweld â’r Barri?
Ydy. Gall pobl sy’n byw yn Y Barri a phobl sy’n ymweld barhau â’u gweithgareddau arferol.
Daliwch ati i olchi’ch dwylo’n dda gyda sebon a dŵr. Gwnewch hyn ar ôl mynd i’r tŷ bach neu newid clytiau. Gwnewch hynny hefyd cyn gwneud bwyd neu fwyta.
Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth?
I gael rhagor o wybodaeth am hepatitis A, yr arwyddion ohono a sut mae’n lledaenu, ewch i dudalen hepatitis A GIG 111.
Gwybodaeth Bwysig am y Rhaglen Frechu Hepatitis A
Cwestiynau cyffredin i rieni a gofalwyr
Beth yw Hepatitis A?
Mae hepatitis A yn feirws sy’n effeithio ar yr afu.
Mae llawer o blant ifanc yn cael symptomau ysgafn iawn neu ddim symptomau o gwbl. Hyd yn oed os ydyn nhw’n ymddangos yn iach, maen nhw’n dal i allu trosglwyddo’r feirws i bobl eraill.
Dw i’n meddwl efallai bod gan rywun yn fy nghartref symptomau. Beth ddylwn i ei wneud?
· Cadwch nhw gartref.
· Cysylltwch â’ch meddyg teulu neu GIG 111 Cymru.
· Dilynwch y cyngor a roddir i chi.
Ceisiwch gyngor meddygol brys os yw eich plentyn yn datblygu poen stumog difrifol neu os yw’r croen neu’r llygaid yn melynu.
Mae rhagor o wybodaeth am hepatitis A ar gael yma.
Pam mae fy mhlentyn wedi cael gwahoddiad i gael brechiad Hepatitis A?
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o Dîm Rheoli Brigiadau o Achosion sy’n ymchwilio i nifer fach o achosion o Hepatitis A yn Y Barri. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid yn rhannu’r wybodaeth hon gyda holl rieni a gwarcheidwaid plant sy’n byw yn Y Barri, neu sy’n mynd i’r ysgol neu leoliad gofal plant yn Y Barri, oherwydd yn aml y gall haint hepatitis A achosi symptomau ysgafn iawn neu ddim symptomau o gwbl mewn plant ifanc. Mae hyn yn golygu y gall haint ledaenu weithiau heb i neb wybod amdano. Mae rhoi’r wybodaeth hon ar led yn sicrhau bod teuluoedd yn ymwybodol o’r sefyllfa bresennol ac yn deall arwyddion a symptomau hepatitis A. Mae rhaglen frechu’n cael ei chynnig i blant rhwng 1 a 5 mlwydd oed sy’n byw neu’n mynd i leoliad gofal plant/addysg yn Y Barri. Mae’r brechlyn yn cael ei gynnig i blant i helpu i atal hepatitis A rhag lledaenu yn Y Barri, er mwyn helpu diogelu eraill yn y gymuned a diogelu plant cyn dechrau’r tymor ysgol newydd.
A oes angen y brechlyn ar fy mhlentyn os yw i’w weld yn iach?
Oes. Gall plant ifanc gael hepatitis A heb ddangos unrhyw symptomau. Hyd yn oed os ydyn nhw’n ymddangos yn iach, maen nhw’n dal i allu trosglwyddo’r feirws i bobl eraill.
Mae’r brechlyn yn helpu i amddiffyn eich plentyn ac yn helpu i leihau lledaeniad hepatitis A yn y gymuned.
Ydy’r brechlyn yn ddiogel?
Ydy.
Mae’r brechlyn hepatitis A wedi cael ei ddefnyddio ers nifer o flynyddoedd ac mae ganddo hanes da o ddiogelwch.
Nid yw’r brechlyn yn cynnwys feirws byw ac ni all achosi hepatitis A.
Y sgil-effaith fwyaf cyffredin yw dolur, cochni neu chwyddo lle rhoddwyd y pigiad.
Pa mor gyflym y mae’r brechlyn yn gweithio?
Mae’r brechlyn yn dechrau darparu amddiffyniad ychydig ddyddiau ar ôl iddo gael ei roi.
Disgwylir i un dos helpu lleihau lledaeniad hepatitis A yn Y Barri ac mae’n rhoi amddiffyniad am hyd at 12 mis.
Faint o frechiadau hepatitis A sydd eu hangen ar fy mhlentyn?
Fel rhan o’r achos hwn, rydym yn cynnig un dos o frechlyn hepatitis A i helpu i atal yr haint rhag lledaenu yn y Barri.
Bydd y dos hwn yn helpu i amddiffyn eich plentyn rhag hepatitis A. Fodd bynnag, ni fydd yn rhoi amddiffyniad gydol oes.
Os yw eich plentyn yn bwriadu teithio i wlad lle argymhellir brechu hepatitis A, siaradwch â’ch meddygfa neu glinig teithio i gael cyngor ynghylch unrhyw frechiadau hepatitis A pellach y gallai fod eu hangen arnynt.
Beth os yw fy mhlentyn eisoes wedi cael brechlyn hepatitis A yn ystod y 12 mis diwethaf neu wedi cael dau ddos?
Os yw eich plentyn eisoes wedi cael dau frechlyn hepatitis A, nid oes angen dos arall arno.
Os yw eich plentyn wedi cael un brechlyn hepatitis A o fewn y 12 mis diwethaf, siaradwch â’r tîm brechu drwy ffonio 02921 841234.
Beth os nad ydw i’n siŵr a yw fy mhlentyn wedi cael brechlyn hepatitis A o’r blaen?
Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â’r tîm brechu drwy ffonio 02921 841234.
Peidiwch â ffonio’ch meddyg teulu i gael y wybodaeth hon.
Beth os yw fy mhlentyn yn sâl ar ddiwrnod ei apwyntiad neu os ydym yn mynd ar wyliau yn ystod y rhaglen frechu?
Os yw eich plentyn yn sâl neu os ydych chi i ffwrdd pan fydd eich apwyntiad i fod, peidiwch â phoeni.
Cysylltwch â’r tîm brechu drwy ffonio 02921 841234. Byddant yn gallu eich cynghori a thrafod opsiynau apwyntiad eraill os oes angen.
Mae fy mhlentyn yn byw yn Y Barri ond yn mynd i leoliad gofal plant neu addysg y tu allan i’r Barri. A allant gael y brechlyn?
Gallant. Gall plant sy’n byw yn Y Barri gael y brechlyn, waeth ble maen nhw’n mynd i’r ysgol neu’n cael gofal plant.
Nid yw fy mhlentyn yn byw yn Y Barri ac nid yw’n mynd i leoliad gofal plant nac addysg yn Y Barri. A allant gael y brechlyn?
Na. Dim ond i blant sy’n byw yn Y Barri neu sy’n mynd i leoliad gofal plant neu addysg yn Y Barri y cynigir y rhaglen frechu hon.
Mae hyn oherwydd mai’r plant hyn yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â’r feirws yn ystod y brigiad presennol o achosion.
Mae fy mhlentyn yn ymweld â’r Barri neu’n aros yno. A allant gael y brechlyn?
Na. Dim ond os ydyn nhw’n byw yn Y Barri neu’n mynd i leoliad gofal plant neu addysg yn Y Barri y gall plant gael y brechlyn fel rhan o’r rhaglen hon.
Mae gen i blant hŷn gartref. A ddylen nhw gael y brechlyn?
Ar hyn o bryd, dim ond i blant rhwng 1 a 5 mlwydd oed y mae’r rhaglen frechu’n cael ei chynnig.
Mae plant rhwng 1 a 5 mlwydd oed yn cael cynnig y brechlyn oherwydd yn aml, maen nhw’n cael salwch ysgafn iawn neu ddim salwch o gwbl ond gallant dal i ledaenu’r feirws i eraill.
Golchi dwylo’n dda yw’r ffordd orau o atal haint o hyd.
A yw ysgol, meithrinfa, busnes neu leoliad penodol wedi achosi’r brigiad o achosion?
Na. Nid oes unrhyw ysgol, meithrinfa, busnes na lleoliad cyhoeddus unigol wedi’i nodi fel ffynhonnell y brigiad o achosion.
A yw’n ddiogel mynd i’r ysgol, i feithrinfeydd a gweithgareddau cymunedol?
Ydy. Dylai plant barhau â gweithgareddau bob dydd fel arfer.
Yr unig amser y dylai rhywun stopio eu gweithgareddau arferol yw os oes ganddyn nhw symptomau. Yna dylent aros gartref a cheisio cyngor meddygol trwy eu meddyg teulu neu GIG 111.
Beth os oes gen i fwy nag un plentyn a all gael y brechlyn ond llythyr dim ond am yr un plentyn ac nid y llall?
Gallwch ddod â phob plentyn i’r un apwyntiad os ydyn nhw rhwng 1 a 5 oed, yn byw yn Y Barri neu’n mynd i leoliad gofal plant/addysg yn ardal Y Barri.
Mae gen i rai cwestiynau am y brechiad. Â phwy alla i gysylltu os oes gen i gwestiynau?
Gallwch gysylltu â’r tîm brechu drwy ffonio 02921 841234.
Peidiwch â ffonio’ch meddyg teulu na 111 ynglŷn â gwybodaeth am frechu.