Gwasanaethau Bwyd, Dŵr ac Amgylcheddol (FWE)
Prif swyddogaethau
Darparu gwasanaeth ymgynghori, cyngor a hyfforddiant yn unol â gofynion cyrff cyhoeddus a chwmnïau preifat.
Darparu profion microbiolegol cynhwysfawr, proffesiynol, cost-effeithiol ac achrededig ar fwyd, cynhyrchion llaeth a dŵr i gwsmeriaid preifat a chyhoeddus yng Nghymru er mwyn ceisio amddiffyn y cyhoedd rhag haint trwy wyliadwriaeth reolaidd ac ymchwilio i frigiadau o achosion.
Cynnal ymchwil berthnasol a chost-effeithiol i agweddau penodol a pherthnasol ar ansawdd a diogelwch bwyd a dŵr, fel y pennir gan anghenion Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, y Llywodraeth ganolog, yr Asiantaeth Safonau Bwyd genedlaethol ac Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru.
Profi rheolaidd
Mae adrannau Bwyd, Dŵr ac Amgylchedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio ystod eang o ddulliau i archwilio pob math o fwydydd a dyfroedd.
Mae’r profion hyn yn cynnwys dangosyddion ansawdd microbaidd safonol megis cyfrif cytrefi aerobig, cyfrif ffyngau, colifformau, streptococi ysgarthol (enterococi), rhywogaethau Listeria, Enterobacteriaceae ac Escherichia coli a phathogenau penodol sy’n gysylltiedig â bwyd a dŵr megis Campylobacterau, Salmonela, monocytogenau Listeria, E.coli O157, Staffylococws ceulas-bositif, Clostridiwm perfringens, Bacillus cereus, Legionella, Cryptosporidiwm a Pseudomonas aeruginosa.
Lleoliadau
Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru mae pedair canolfan sy’n darparu gwasanaethau microbiolegol sy’n gysylltiedig â phrofi samplau bwyd, dŵr neu amgylcheddol. Mae tair canolfan (Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin) gyda’i gilydd yn darparu ystod eang o brofion gan weithio yn ôl dulliau cyffredin. Gallant hefyd roi cyngor ar gasglu samplau, profion priodol i’w cynnal mewn sefyllfa benodol ac unrhyw brofion statudol perthnasol.
Mae’r ystod o brofion ym mhob safle yn adlewyrchu’r cymysgedd o samplau y mae Awdurdodau Lleol a chwsmeriaid preifat yn gofyn amdanynt yn eu hardal. Dim ond ar safle Caerdydd y mae meithrin Legionella o samplau dŵr ar gael.
Mae’r tri safle hyn i gyd yn labordai rheoli bwyd swyddogol i Gymru ac maent i gyd wedi’u hachredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS) (mae amserlenni profion ar gael ar wefan UKAS). Mae dwy o’r canolfannau wedi’u lleoli yn eu labordai Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru priod ond mae’r trydydd safle (Caerdydd) wedi’i leoli ar safle Ysbyty Llandochau.
Y bedwaredd ganolfan yw’r Uned Gyfeirio Cryptosporidiwm (CRU), sydd wedi’i lleoli yn Adran Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru, Abertawe. Nid yw’r safle hwn yn darparu’r ystod o wasanaethau a geir yn y pedwar safle arall ond mae’n darparu cyngor sy’n ymwneud â samplu ar gyfer Cryptosporidiwm; cadarnhau darganfyddiadau a rheoli’r parasit.
Cynhelir profion am Gryptosporidiwm mewn samplau dŵr ar ran yr Uned Gyfeirio Cryptosporidiwm gan CREH Analytical Limited yn Leeds, trefniant sy’n cael ei gefnogi gan femorandwm cyd-ddealltwriaeth. Yr Uned Gyfeirio Cryptosporidiwm yn Abertawe yw canolfan gyfeirio Cymru a Lloegr ar gyfer genoteipio arunigion Cryptosporidiwm.
Gellir cysylltu â’r pum safle a’r unigolion allweddol dros y ffôn i drafod y gwasanaeth y gall Iechyd Cyhoeddus Cymru ei ddarparu. I anfon ymholiad i safle penodol drwy’r wefan hon, defnyddiwch y ffurflenni ymholiad ar-lein a ddarperir ar gyfer pob labordy. Cysylltwch naill ai â’ch labordy lleol agosaf neu’r Uned Gyfeirio Cryptosporidiwm yn benodol os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch mewn perthynas â Chryptosporidiwm.
Ymgynghoriaeth
Mae adrannau Bwyd, Dŵr ac Amgylchedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gallu cynnal gwaith ymgynghori ar gyfer cwmnïau preifat. Mae hyn yn cynnwys profi am ystod o ddangosyddion microbaidd a phathogenau mewn bwyd a dŵr.
Gallwn hefyd gynnal asesiadau oes silff. Mae prisiau’r gwasanaeth hwn yn gystadleuol iawn a gall y labordai gynnig gwasanaeth effeithlon a chyflym gyda’r rhan fwyaf o’r dulliau wedi’u hachredu. Mae ein gwasanaeth ymgynghori yn broffesiynol ac yn gyfrinachol.
Cysylltwch â ni
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adnoddau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn